Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ALAW 'HEN WLAD FY NHADAU'. PWNC DADL. §I. Aeth can mlynedd heibio bron er pan honnodd James James, Pontypridd, iddo gyfansoddi'r alaw a adwaenir bellach fel 'Hen Wlad fy Nhadau'. 'Glan Rhondda' oedd yr enw a roddwyd arni gan James James ei hun yn 1856,1 a dyna'r enw yng nghasgliad Llewelyn Alaw.2 Enillodd y casgliad hwn o alawon heb eu cyhoeddi wobr yn Eisteddfod Llangollen yn 1858. Dyry Morien yr hanes sut y daeth yr alaw'n boblogaidd yng nghylch Pontypridd ac anodd cael tystiolaeth i gadarnhau nac i ddirymu ei osodiadau.3 Dyry llythyr o America yn Llyfrgell Caerdydd hefyd fanylion o'r fath.4 Ymddengys fod James James yn eithaf pendant yn ei sgwrs a gohebydd y South Wales Daily News5 mai Owain Alaw a wnaeth yr alaw'n boblogaidd i gylch eang. Ef ydoedd y beirniad ar y casgliadau o alawon heb eu cyhoeddi yng nghystad- leuaeth Eisteddfod Llangollen, a swynwyd ef gan yr alaw 'Glan Rhondda'. Cy- hoeddodd hi gyda chaniatad James James yn ei gyfres gyntaf o Gems of Welsh Melody (1860), a'i galw yn 'Hen Wlad fy Nhadau' am y tro cyntaf. Canai hi mewn cyngherddau yng Ngogledd Cymru, a rhoi iddi'r lie anrhydedd. Gwerth- wyd llawer mwy o'r gyfres a gynhwysai 'Hen Wlad fy Nhadau' nag o'r lleill. Daeth i glust y Jamesiaid fod Owain Alaw yn gwneud arian ac enw iddo'i hun, ac anfonwyd gair ato i'w atgoffa bod y cyfansoddwr ar dir y byw. Rhoddwyd iddo gan Owain Alaw, 'Mae Robin yn Swil', — cynigiwyd gwerth pymtheg punt iddo, medd Taliesin James, ei fab 6-a daeth Mr. Hughes, Wrecsam, i Bontypridd, a chyflwyno iddo'r casgliad mewn tair cyfrol o'r Gems a gyhoeddwyd ganddo. Mae cyfeiriadau hwnt ac yma at ganu'r alaw mewn Eisteddfodau Cenedlaethol o 1865 ymlaen gan gantorion fel Kate Wynne a Llew Llwyfo.7 Hi oedd Can yr Eisteddfod yng Nghaernarfon, 1880, a chenid hi mewn Eisteddfodau a gweithred- iadau Gorsedd o hynny ymlaen.8 §2. Wrth chwilota ymhlith papurau a ysgrifennwyd rywbryd cyn 1824, gwelais gopi o 'Hen Wlad fy Nhadau' ar waelod y pecyn.9 Yr oedd yn gwbl amlwg fod y gweddill i gyd o'r papurau yn perthyn i Edward Jones, 'Bardd y Brenin'. 1 Llyfr Llawysgrif James James yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 2 N.L.W. 33 iD. 3 Western Mail, April 4, 1884. The Story of its Composition. 4 Llythyr oddi wrth Mrs. L. Parfitt, 1620 S. Liberty Ave., Alliance, Ohio, Oct. 12 [1943], at John Hill, Caer- dydd. 5 South Wales Daily News, April 15, 1884. Interview with Mr. James. 6 Llythyr Taliesin James, 281 Albany Road, Newport Road, Cardiff, at Mr. Crockett, gwr a fu'n rhoi gwersi ar y delyn i James James. Rhag. 4, 191o. 7 Y Bywgraffiadur Cymreig, t. 397. 8 Llythyr William Williams, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, at J. Hill, Medi 24, 1943, yn Llyfr- gell Dinas Caerdydd. 9 Llsgr. Caerdydd 4,130.