Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN SALISBURY i. EI FYWYD I Dechreuwn gyda'r hyn a gofnodwyd yn Annales S. Albani, Blackfan,l 'Johannes Sarisburius (sic) uenit ad hoc Collegium die 15 Junii agit annum decimum nonum, natus in comitatu merionethensi in episcopatu Asaphensi parentibus nobili- bus; a septem mensibus uixit in unitate ecclesiae catholicae, reconciliatus a quodam sacerdote hiberno nomine Johannes Walshe, dedit operam litteris humanioribus, petiit recipi in hoc Collegium, et receptus est 22 Junii'. Dywed Blackfan ymhellach i John Salisbury, 'pulchellus admodum puer', gael ei ddenu o'i gartref heb yn wybod i'w rieni a heb hyd yn oed ganu'n iach iddynt, a'i ddwyn i Iwerddon 'by an hereti- cal Irish Count'. Mab ydoedd John Salisbury i Syr John Salesbury o Rug a fu farw yn 1580. Ei frawd hynaf ydoedd Syr Robert Salesbury a fu farw yn 15992, a'i frawd iau ydoedd William Salesbury a adwaenid wrth ei enw 'Hosanau Gleision', amddiffyn- nydd Castell Dinbych adeg y Rhyfel Cartref.3 Ganed ef yn 1575.4 Bu dan addysg yng Nghymru yn rhywle, mi dybiaf, oherwydd dywed Blackfan (yn 61 y cyfieithiad): 'He was a school-fellow of William Robins, who, after escaping from the custody of his school-master-keeper, went to Ireland in search of his former school-fellow', sef John Salisbury a oedd, fel y nodwyd uchod wedi cael ei ddwyn i Iwerddon trwy drais. Yr oedd y William Robins hwn yn un o'r pedwar bachgen a ddaliwyd gyda'r offeiriad a'r merthyr William Davies, y gwr a gynorth- wyodd Robert Puw i argraffu'r Drych yn Ogof Rhiwledyn. Bwriad William Davies ydoedd cynorthwyo'r pedwar bachgen i gael Hong o Gaergybi i Iwerddon, canys ei gynllun ydoedd danfon y pedwar i Goleg Valladolid. Wedi iddynt gael eu dal, merthyrwyd William Davies ym Miwmares, a dodwyd William Robins yng ngofal 'a country school-master to be whipped into conformity with the church by law established but he found means to escape'. 5 Mae'n amlwg i William Robins ddod o hyd i'w hen gyfaill ysgol yn Iwerddon, canys cyrhaeddodd y ddau Valla- dolid, a hynny yr un diwrnod, sef y 15 o Fehefin. Llwyddasant yn eu cais i ymuno a'r Coleg a chofrestrwyd y ddau, John Salisbury yn gyntaf: 'loanes Salisburius dioecesis merionethensis fuit admissus in hoc Collegium die 22 Junii An: 1595 fecit suum juramentum die 28 Decembris eiusdem anni'.6 Yna William Robins: 'Gulielmus Robins diocesis Camaruonensis receptus est in hoc Collegium die 22 Junii A. 1595'. Ordeiniwyd John Salisbury yn offeiriad ym mis Tachwedd 1600 ac ym mis Mai 1603 danfonwyd ef yn 61 i'w wlad. Medd Cofrestr y Coleg: 'suscepit ordines Sacros ab Episcopo legionensi die 21 Nouembris anno 1600 et mense Mayo anni 1603 missus est in Anglia'.7 Ym mis Awst 1603 yr oedd yn Douai yn lletya yn y Coleg yno. Dyma'r hanes, yn 61 Dyddiadur Coleg Douai 1 C.R.S., Cyf. 30, t. 33. %lCymdeithas Lien Cymru, Cyf. III, t. 12. 3 Ibid. *R.S.J., Cyf. IV, t. 392; R.S.J., Cyf. VII, t. 681, 1450. Yr oedd John Salisbury yn 19 pan ymaelododd i Choleg Valladolid yn 1595. Gw. y dyfyniad o Blackfan uchod. 5 C.R.S., Cyf. 30, t. 33. 6 Ibid. 7 Ibid.