Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BIOGRAPHICA ET BIBLIOGRAPHICA ROBERT SAUNDERSON YR ARGRAFFYDD Ymhlith y llawysgrifau a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y flwyddyn 1958 y mae dyddiadur ar gyfer y Suliau, Ionawr 4, 1801-Chwefror 7, 1802, yn rhoi manylion am y pregethau a glywyd gan y cofnodydd yn Boughton, Queen Street Chapel, a Handbridge, Caer. Sonnir hefyd am Ysgol (Sul) yn Boughton, the Rosset(t), Dunham ac Ince, a gellir tybio bod y cofnodydd yn mynd yno i helpu fel athro. Ceir amryw o gyfeiriadau at glywed 'the Rev. Mr. Charles' yn pregethu, a chyfetyb nifer o'r cyfeiriadau hyn o ran eu sylwedd i'r dyfyniadau a rydd Dr. D. E. Jenkins o ddyddiadur Miss Mary Stringer yn The Life of the Rev. Thomas Charles, B.A., of Bala (Denbigh, 1908), Vol. II, 325-354. Y mae'n fwy na thebyg mai eiddo Robert Saunderson yw'r dyddiadur-yn y cofnod am Chwefror 15, 1801 ceir'Attendance this day at Dunham. Mr. E. Powell, Mr. T. Whittel- E. Lewis. & RS.' Sonnir am gladdu chwaer y cofnodydd ym mynwent St. John's, Caer, ar Dachwedd 29, 1801, a chafwyd gwybodaeth gan y Parch. H. B. Pruen, Ficer Eglwys St. John the Baptist, Caer, fod merch ddibriod o'r enw Frances Saunderson wedi ei chladdu yno y diwmod hwnnw. Yn 61 cofrestr yr eglwys bu farw yn 23 oed o'r darfodedigaeth ar Dachwedd 26 (Tachwedd 25 yn 61 y dyddiadur). Y rhif a roddwyd i'r llawysgrif hon yw N.L.W. MS. 16370A. RHIANNON F. ROBERTS COPI 0 LYFR AWDLAU JOHN JONES, GELLILYFDY. Llawysgrif gymysg yw N.L.W. 6209, a cheir ynddi ryddiaith a barddoniaeth a godwyd gan mwyaf o lawysgrifau yn llaw John Jones, Gellilyfdy.1 Un o'r adrannau pwysicaf yn y llsgr. yw honno a geir ar dudalennau 187-292. Ceir yma gopi cyflawn o gasgliad o awdlau a wnaed gan John Jones rhwng 1605 a 1611, ac, o gymharu'r copi hwn a'r hyn a gadwyd yn llaw'r gwr o'r Gellilyfdy yn B.M. 21, Rhan II, ni all fod unrhyw amheuaeth nad y llsgr. honno, pan oedd yn gyflawn, agopiwyd yn N.L.W. 6209. Darnau yn unig o B.M. 21, Rhan II, a gadwyd bellach,2 ac y mae'r darnau hynny wedi eu camleoli,8 a gwerth y copi yn N.L.W. 6209 yw ddarfod ei godi pan oedd llsgr. John Jones yn gyflawn. Llsgr. yn llaw'r Dr. John Davies, Mallwyd, a gwr a gopiai drosto, yw rhan gyntaf B.M. 21, ac y mae'n bur sicr mai dwy lsgr. wahanol oedd rhan gyntaf ac ail ran B.M. 21 yn wreiddiol. Yna rhwymodd rhywun weddillion llsgr. John Jones wrth lsgr. y Dr. Davies. Ceir digon o dystiolaeth o blaid yr honiad mai B. M. 21, Rhan II, oedd cynsail N.L.W. 6209, 187-292. Y mae'r awdlau a gadwyd yn B.M. 21 yn digwydd yn yr un drefn yn N.L.W. 6209. 0 gymharu'n fanylach gwelir bod y darlleniadau'n cyfateb air yng ngair i'w gilydd, oddieithr pan gamgopiodd yr ail gopiydd. Ambell dro bu'n rhaid i John Jones adael bwlch yn ei destun am fod llinell, neu ran o linell, wedi colli o'r llsgr. y copiai ohoni; ceir yr union fylchau yn N.L.W. 6209. I ategu'r dystiolaeth hon, ceir enghraifft o law copiydd N.L.W. 6209 yn llsgr. B.M. 21-ychwanegodd at linell (anghyflawn gan John Jones) o awdl Dafydd Nanmor i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd ar ffolio 3ogr. Y mae'n gwbl sicr mai'r gwr a wnaeth gopi N.L.W. 6209 o lyfr awdlau John Jones oedd William Jones, un o gynorthwywyr Edward Lhuyd.4 Efe, yn wir, a ysgrifennodd ran helaethaf y llsgr., gan gynnwys copi o Statud Gruffudd ap Cynan (tt. 411-6), nodiadau yn ymwneud a'r gyfundrefn farddol 1 Am ddisgrifiad o gynnwys y llsgr. gw. Handlist of MSS. in the National Library of Wales, Cyf. II, tt. 158~9. 2 Gw. R.W.M., ii, tt. 977 a 985-6. 8 ibid. 977. 4 Mr. Delwyn Tibbott a'm sicrhaodd o hyn, a dymunaf gydnabod fy niolch iddo. Dywed wrthyf na all fod unrhyw amheuaeth ynglyn â'r Haw, o'i chymharu a llaw sicr William Jones yn Pen. 119, 11f13, sef Uythyr oddi wrtho at Edward Lhuyd, gyda nodyn yn llaw Lhuyd yn dweud pwy a'i hysgrifennodd. Gwr o Sir Feirionnydd oedd William Jones (gw. R. T. Gunther, Life and Letters of Edward Lhwyd, Oxford, 1945, t. 28). Ceir tystiolaeth bendant ei fod yn copio dros Edward Lhuyd-gw. Gunther, op. cit., 461, am lythyr oddi wrth Edward Lhuyd yn sdn am William Jones yn copio drosto yn Llyfrgell Cotton ac yn y Twr yn Llundain.