Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CASGLIAD NEWYDD 0 LYTHYRAU AT EBEN FARDD FEL y dengys y defnyddiau lu a geir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgelloedd eraill Cymru, ynghyd a'r ugeiniau lawer o lythyrau yng nghasgliad Myrddin Fardd Adgof uwch Anghof (1883) ac yng nghyfnodolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg, 'roedd Eben Fardd yn ohebwr toreithiog iawn. Rhyw ddwy flynedd yn 61 daeth casgliad arall o lythyrau at y bardd i'r Llyfrgell Genedlaethol, sef albwm trwchus sy'n rhan o gasgliad helaeth o lawysgrifau a gafwyd o lyfrgell y diweddar Mr. R. E. Jones, Borth-y-gest, yn awr N.L.W. MS. 18263. Ceir yn yr albwm hwn 87 o lythyrau at Eben Fardd a rhai dogfennau eraill. Ysgrifennwyd dros hanner y llythyrau rhwng 1851 a 1859, ac y mae hyn yn dwyn i gof sylwadau Eben yn ei ddyddiadur rywbryd yn ystod y flwyddyn 1856: This year is strikingly different to former years as regards my literary pursuits, my correspondence, and the aspirations of my mind. I return to reading more studiously and attentively, and with a more comprehensive and general grasp. Owing to my resolutions at the close of last year to keep aloof from petty adjudications and literary drudgeries for obscure applicants, I have declined great many applications curtailed my correspondence considerably, and reduced myself to a private character; no longer subject to the teasing annoyance of postal missives. 1 Dyry'r llythyrau y manylir arnynt isod ryw syniad o gylch gohebiaeth Eben Fardd a'r modd y poenid bardd a beirniad amlwg am ei gefnogaeth, ei gyfarwyddyd a'i farn. Wele restr o'r gohebwyr:2 1. David Williams (Dewi Heli, 1799-1869), Pwllheli, 13/11/1833. 2. J. Thomas (Sion Wyn o Eifion), Chwilog, 18/12/1839. 3. John Jones, Talysarn, 14/11/1843. 4. David W. Pughe (Dafydd ap Hu Feddyg), Coch y big, 23/2/1847. 5. David Roberts ('of Liverpool'), Pwllheli, 8/12/1849. 6. Thomas Levi, Ystradgynlais, 9/11/1849. 7. W[illiam] Rees (Gwilym Hiraethog), L[iver]pool, 28/11/1849. 8. Ellis Owen (Cefnymeysydd), 26/2/1851. 9. Rhydderch o Fon, Llythyrdy Rhyl, 1/8/1851. 10. Nicander, Amlwch, 4/10/1851. 11. D. Posthumus Evans, Ffos y ffin, Ceredigion, 21/11/1851. 12. Iorwerth Gl[an]: Aled, Rhyl, 3/5/1852. 13. Gwalchmai, Festiniog, 26/5/1852. 14. W. O. Williams, Bryn Goronwy, Tremeirchion, 23/1/1854. 15. G. Parry, Carnarvon, 25/1/1854. 16. J. Phillips, Bangor, 28/7/1854. 17. Edw. Morgan, Llanidloes, 15/7/1854. 18. Gwilym Teilo, Morriston, 23/1/1855. 19. William Jones (Gwrgant), Coleman Street, City, 2/5/1855.