Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SALLWYR IESU A'R RECIWSANTIAID (TROSIADAU CYMRAEG 0 JESUS PSALTER RICHARD WHYTFORD) (Plat XIII. 4) I Mae lie i gredu bod dau os nad tri chyfieithiad Cymraeg o Jesus Psalter Richard Whytford wedi'u darparu ar gyfer Reciwsantiaid Cymru. Erys cyfieithiad Gwilym Pue mewn dwy lawysgrif sef, N.L.W. 4710B (dyddiad 1676) t. 505 a N.L.W. 13167B (dyddiad 1674) t. 495.1 II Yn 61 Gwilym Pue yn ei ragair i'w fersiwn ef yr oedd rhywun arall eisoes wedi cwplau cyfieithiad o'r defosiwn poblogaidd hwn cyn iddo ef erioed gydio yn y gwaith. Dyma ddechrau yr hyn sydd gan Pue i'w ddweud 'Ne miretur lector Humanus Me Psalterium Iesu Ex Anglicana lingua In qua Primo Editum Fuerat cum ab Alio Hoc opus Aggressum Et Peractum Imo Etiam Et Prelo Mandatum Agnoverim Rursus In Cambrobrittanuam Transtulisse' etc. etc. (N.L.W. 4710, t. 506] ac o'i gyfieithu- Rhag ofn y bydd y darllenydd hynaws yn synnu bod Sallwyr Iesu wedi ei gyfieithu eilwaith i'r iaith Gymraeg o'r Saesneg, yr iaith y cyhoeddwyd ef ynddi gyntaf, a hynny gennyf i, a minnau'n gwybod bod y gwaith eisoes wedi'i gyflawni gan un arall ac wedi'i ddwyn a'i ymddiried i'r Prelad. etc. etc. Cyfeirio a wna Pue yma at gyfieithiad arall gan gyfoeswr anhysbys i ni heddiw. Yr oedd y cyfieithiad hwnnw, meddai, nid yn unig wedi'i orffen ond hefyd wedi'i gyflwyno i'r 'Superior' am y fendith arferol cyn ei ryddhau i'r cyhoedd. Diflannodd llawysgrif y trosiad hwn ac nid oes dystiolaeth ei fod wedi'i argraffu ychwaith. III Pan gymreigiwyd A Manual or Meditation (casgliad o amrywiol ddefosiynau), (gw. Llanstephan 13),2 toc wedi 1580, (late XVIth century', yn 61 y Dr. Gwenogfryn Evans), un rhan yn unig o'r llyfr, sef Jesus Psalter, a adawyd heb ei gyfieithu. Rhaid bod arwyddocad i hyn, yn enwedig pan gofiwn fod y defosiwn hwn yn dod ynghanol y defosiynau eraill yn y llyfr. Cyfieithwyd yr holl ddefosiynau a ddeuai o'i flaen a'r un a ddeuai ar ei 61. Gan mai un yn unig sef y mwyaf poblogaidd o'r defosiynau a adawyd heb ei drosi, cesglir i hyn gael ei wneud yn fwriadol. Ai'r eglurhad ydyw bod y Reciwsantiaid Cymraeg eisoes yn defnyddio hen gyfieithiad Cymraeg o'r Jesus Psalter? Mae'r Drych Cristianogawl (dyddiad cyfansoddi circa 1583-84), beth bynnag, yn dyfynnu o Sallwyr Iesu: 'Wrth veddwl am y piirdan, i mae'r eglwys gatholig, yn mam ysbrydol, yn llaswyr jesii, yn dysgi y phlant weddio val hyn. "Varglwydd danfon i mi vymhürdan yny byd yma" hyn yw danfon arnaf gosbedigaeth yma, ym piiro, ag ym glanhav, val na orffo arnaf j ddioddef dim yny byd arall, yny piirdan kroelon' (Caerdydd 3.240, t. I74b-i75a.) Yr ydym am awgrymu bod hwn yn ddyfyniad o'r trosiad Cymraeg a ddefnyddid, yn 61 ein hawgrym, gan y Reciwsantiaid cynnar ac y gwyddai cyfieithydd A Manual or Meditation efallai, amdano. Sonia'r Drych am 'llaswyr Iesu' yn union fel pe tai'r Cymry'n