Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bellach yn wr 66 oed, yn wythfed flwyddyn ei weinidogaeth yn Pilesgrove, New Jersey. Nid rhyfedd felly ei bod hi'n ymdrin yn fwyaf arbennig a gyrfa ysbrydol yr awdur: yn wir, rhydd ddarlun clir o'r math o ymgeintach a bryntni a ddigwyddai dan gochl crefydd yn yr oes ddiwinyddol honno. Ar y Haw arall, ar wahan i'r manylion gorluosog ynghylch ei wahanol gartrefi yn ystod ei blentyndod cynnar-hyn, fe ddichon, yn adlewyrchu dyn ar drothwy henaint yn hiraethu am Goll Gwynfa'i febyd-ni rydd David Evans fawr o sylwadau cymdeithasol diddorol. Gwyddom bellach i David Evans gael ei eni ar 15 Mawrth 1681 yn fferm Nant-llech, ym mhlwyf Llanfihangel-ar-arth yn Sir Gaer- fyrddin, ffeithiau a ddadlennir am y tro cyntaf.3 Y mae Nant-llech (ceir dwy fferm gyfagos heddiw o'r un enw) yn sefyll, ryw dair milltir i'r gorllewin o bentref Pencader, ar war dyffryn sy'n gogwyddo i gyfeiriad Cwm Tyweli a thref Llandysul. Cyfeirir at amryw drigfannau'r teulu yn y blynyddoedd cynnar hyn. Ar 61 tymor byr yn Nant-llech, symudwyd i Flaen y Gainfre, lie 'noethlom, oerllyd', ac os gellir cysylltu'r enw a'r Blaengyfre presennol, dim ond rhyw filltir neu ddwy i'r de yr aethant. Y mae'r cyfeiriad at ansawdd gwael y fferm hon- a lie uchel, mawnog ydoedd Nant-llech o'i blaen hi-yn peri inni ofyn ai gwasgfa economaidd a barodd i'r teulu symud. Nid arhosodd rhieni David Evans yma ychwaith am hir: symudasant i Glyn Coch ym mhlwyf Llanllawddog, y tro hwn i dueddoedd y dwyrain. Ni wyddom y tro hwn ychwaith ai rhesymau economaidd fu achos y symud, ond nid annichon hynny, gan i'r mab ddechrau gweithio fel 'bigail egwan', ac yntau, debyg, tuag wyth neu naw mlwydd oed, arwydd nad oedd ganddynt fawr wrth gefn. Symudol fu hanes y bugail hwn o'i ddyddiau cynnar: Llynddwr Uchaf 'uwchlaw Pencader'; y lie rhwng 'gelltydd gwylltion' tu hwnt i'r mynydd; Maes-y-bwlch 'noethlym', am y mynydd a Blaengyfre; y Derlwyn, 'lle hynod gwych', yr ochr draw i Alltwalis; yna'n 61 i gyfeiriad y gorllewin, Nant y Garreg, ym mhlwyf Llangeler, nepell o dop y Rhos lie croesa'r ffordd fawr o Gaerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn. Ond mewn gwirionedd, rhyw grwydro y tu mewn i gylch bychan a wnai'r llanc, a Phencader fwy neu lai ar ganol y cylch hwnnw. Ceir dau gyfeiriad at yr addysg a dderbyniodd. Pan oedd y teulu'n byw ym mhlwyf Llanllawddog, mynychai 'yscol ddwys i ddyscu llyfreu', er taw bylchog fu'r addysg hon. Tybed a ellir adnabod -yr ysgol hon a'i hathro? Y mae'r gair 'dwys' yn awgrymu efallai sefydliad a anelai'n bennaf at gyfleu addysg grefyddol. Gellir casglu taw ysgol leol ydoedd, ac i David Evans fod ynddi yn y cyfnod 169 1-3. Nid rhaid edrych yn bell i adnabod yr ysgol hon a'i hysgolfeistr. Y tebyg yw i David Evans fynychu'r ysgol newydd a sefydlodd y Parch. William Evans yn ardal Pencader ar 61 i hwnnw ddyfod yno'n weinidog yn 1688. Daliodd yn ei