Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'triban milwr-warrior's triplet' a geir, a thriban milwr sydd yng 'Nghyfrinach Beirdd Ynys Prydain' gan Iolo Morganwg. Gw. Geiriadur y Bardd gol. Cynddelw (Caemarfon n.d) tt. 33, 55, 56. Aeth Dafydd Morganwg i gryn rysedd yn Yr Ysgol Farddol drwy wneud dau fesur gwahanol o Driban Milwr ac Englyn Milwr. Yr hyn a adwaenwn ni heddiw fel Englyn Penfyr oedd ei Englyn Milwr ef. Gw. hefyd Y Cymmrodor Cyf. 49, Rhan I, t. 256-7. 26 Drych y Prif Oesoedd. Y Rhan Gyntaf Caer- dydd; 1955) t. 116. Gol. D. Thomas. Ar- graffiad 1740. 27 Y Cymmrodor, Cyf. 49, Rhan I, t. 63. 28 Gol. J. H. Davies, The Morris Letters (1909) Cyf. 2, t. 194. 29 Gw. John Evans, The Coins of the Ancient Britons (London, 1864), t. 130 et seq. Hefyd Antiquity, Cyf. VII (1933) t. 268-289. George C. Brooke, 'The Distribution of Gaulish and British Coins in Britain'. 30 A General History of England. (London 1747), Cyf. 1, t. 36-7. 31 The Morris Letters (1907) Cyf. 1, t. 127. 24 Chwefror 1747. 32 ibid. t. 129. 31 Mawrth 1747. Yr oedd Richard a Lewis Morris mewn cysylltiad a Carte cyn i'w lyfr ymddangos. Gw. hefyd The Cambrian Register for the Year 1796, Vol. II (London, 1799) p. 479-487. 33 H. Owen, 'The Life and Works of Lewis Morris, 1701-1765.' (Anglesey Ant. Soc. 1951), tt. 33, 231. 34 The Morris Letters, Cyf. I, t. 60. 35 ibid. tt. 66, 69. Awgryma J. Lloyd Williams mai Ifan Wiliam y telynor oedd yn gyfrifol am y rhagymadrodd. Y mae amryw gyfeiriadau ato yn llythyrau'r Morysiaid. Daeth yn ddigon cymeradwy ganddynt i William ddweud wrth Richard ei fod yn ddyn drwyddo (I, 92. 10 Mai 1746) ac i Richard famu mai ef oedd y cymhwysaf i fod yn ysgrifennydd Cymdeithas y Cymmro- dorion yn 1761 (II, 328. 24 Mawrth 1761). Mewn nodyn gwaelod dalen yn Relicks 1784, t. 3, rhoddir teitl rhagymadrodd Antient British Music a'i briodoli i Lewis Morris. Y mae'r cyfeiriad yn bendant at ddeunydd sydd yn y rhagymadrodd. Ai cymryd yr awgrym o BM. Add. MS. 14939 a wnaeth y telynor? Copi o Antient British Music John Parry yw'r llyfr hwn gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif yn cynnwys deunydd cerddorol. Y mae 'Richd: Morris. London 1742' ar y deitlddalen a 'Llyfr Rhisiart Morys o Fon, a'r Nafi Offis Llundain' o flaen y rhagymadrodd. Ar y deitlddalen hefyd ar 61 geiriau 'An Historical Account of the Rise and Progress of Music among the Antient Britons; wherein the Errors of Dr. Powel, and his Editor Mr. Wynne, on that Subject, in their History of Wales, are pointed out, and confuted; and the whole set in its true and proper Light', ysgrifennwyd mewn inc, 'By Lewis Morris Esqr.' Yn N.L.W. 174E, 7-13 ceir copi o'r rhag- ymadrodd mewn llawysgrifen gyda 'L. Morris' ar y gwaelod. Y mae yn y deunydd hwn rai nodiadau ychwanegol nas ceir yn y llyfr ei hun. Tebyg iddynt gael eu hychwanegu gan y copiwr neu eu bod eisioes wedi eu dodi i mewn yn y copi a ddefnyddiai ef gan rywun neu'i gilydd. Y mae'n eglur y credai Edward Jones mai Lewis Morris oedd yr awdur. Credaf fodd bynnag na ellir derbyn hyn yn derfynol heb ragor o dystiolaeth o ryw gyfeiriad arall.