Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWS AND NOTES DWY GYMDEITHAS YM MORGANNWG YN Y DDEUNAWFED GANRIF Ynihlith y llyfrau printiedig, o gasgliad lolo Morganwg, a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol, y mae Y Pererin Cwsg, sef Breuddwyd neu Weledigaeth loan Bray. Nid oes son am y llyfr, a gyhoeddwyd yn 1771, yn Llyfryddiaeth y Cymry ac nid oedd gan y Llyfrgell Genedlaethol gyfeiriad ato. Copi amherffaith o 16 tudalen yw hwn, ac y mae amryw o'r rheiny wedi'u rhwygo a'u torri. Argraffwyd y llyfr yn y Bont-Faen gan Rhys a Daniel Thomas, ac y mae'n un o'r ychydig lyfrau sy'n dwyn enwau'r ddau frawd gyda'i gilydd fel argraffwyr. Nid oes dim i ddangos pwy oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r gwreiddiol i Gymraeg, ond ar y tudalen olaf ond un ceir pedwar o englynion o waith Lewis Hopkin. Nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn Y Fel Gafod, casgliad o englynion, cywyddau a chaniadau Lewis Hopkin, a gyhoeddwyd yn 1813. Yr hyn sy'n gwneud y llyfryn hwn o ddiddordeb arbennig yw'r rhybudd a geir ar y tudalen olaf, o'r bwriad i ffurfio cymdeithas yn Llantrisant yn 1771, i hyrwyddo barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Llantrisent, Chwefror, 13eg 1771 AT Y CYMRY Yr ym yn rhybuddio'r darllenydd bod CYMDEITHAS o Foneddigion ac eraill gwedi dechreu ymgyfarfod y 13eg o Chwefror 1771, yn Llantrisent, yn Arwydd yr Alarch: tuag at gynnal Beirdd, prydyddion, ac awdwyr ardderchog; gwaith pa rai a geiff eu cynnorthwyo mewn argraph, fel y gellir cadw, a chynnal i fynnu'r hen Iaith gymreig, yr hon a fu gynt gan ein Teidiau mewn parch; ond 'nawr ffoliaid Cymry a'i dystr, heb ystyried dim o'i ffolineb. Da fyddai i bawb o'n brodyr yn y laith ddanfon eu henwau a'i sefyllfa, yn ddigost i'r Argraph-dy yn y Bont Faen. Ein cyfarfod nesaf fydd yr unfed dydd ar hugain o Fai, sef, ar ddydd Mawrth Sulgwyn, pryd y dymunir ar bob ewyllysiwr i'n anrhydeddu a'i gyfeillach ar y dydd rhag-ddywededig. oddiwrth eich cydwladwyr. Yn anffodus, y mae gwaelod y tudalen ar goll ac ni ellir dweud pwy a arwyddodd y rhybudd. Cafwyd hefyd gyfeiriad diddorol at gymdeithas Gymraeg o nodwedd wahanol, a ffurfiwyd ym Morgannwg yn y ddeunawfed ganrif. Ymhlith y papurau printiedig yng nghasgliad Iolo Morganwg cafwyd Prospectus yn cyhoeddi cychwyn cymdeithas cynilo yng Nghaerffili yn 1789: CYMDEITHAS TRYSOR-GYFF CAERFFILI, YM MORGANWG Trysorwyr, Mr. W. Powel a Mr. M. Evans, o Gaerffili. Gwarcheidwaid Mr. D. Davis, Llaw-feddyg a Mr. Edward Evan, Grydd. Agorwyd Llyfrau i Ragdalwyr, Ddydd Llun y 7fed Dydd o Ragfyr 1789, ac ni dderbynir neb i'r Gymdeithas ar ol Dydd Llun y 7fed o Fehefin 1790.