Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

42 Gramadeg S. D. Rhys (1592), t. 304. Gw. traethawd M. A. Prifysgol Cymru, Meh. 1952, 'Y Gymdeithas Gymreig yn Niwedd yr Oesoedd Canol fel yr adlewyrchir hi yn Farddoniaeth Uchelwrol', gan D. J. Bowen, t. 12. Nid oes wrth reswm un awgrym o gysylltiadau derwyddol yn y dyfyniad. Gan fod 'er mwyn didhanwch i'r Gynnulheidbha' yn digwydd ychydig ar 61 y dyfyniad a roddir yma, barnaf mai ystyr cyffredinol megis 'cynulliad' neu 'gynulleidfa' sydd i'r gair yn y fan hon. Gallai olygu llys y brenin efallai. Ni welaf y gall olygu'r brenin ei hun na'r sedd yr eisteddai ami. Gw. B.B.C.S. VI, 206 a Gwaith Dafydd ap Gwilym (1952), rhif 149, 29n. am yr ystyron uchod. Hawdd fuasai i lolo ddeall y gair fel 'cynulliad o feirdd' neu i William Owen ac yntau gyfyngu'r ystyr yn annibynnol ar y dyfyniad hwn. Y mae'n arwyddocaol y gallai John Walters, person plwy a gwr o wlad lolo, ddweud fel a ganlyn yn ei Eiriadur (1794): 'an assembly of devines, Eisteddfod (cymmanfa) difinyddion, lliaws o ddifinyddion yn cynnal cymmanfa (yn dal gorsedd)'. Dymunaf ddiolch i Mr. R. J. Thomas, M.A., yn y Llyfrgell Gene- dlaethol am ganiatad i chwilio ystyr 'gorsedd.'