Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWS AND NOTES LLYTHYR MORYS CLYNNOG AT Y CARDINAL MORONE, 1561 I Ymysg papuraul y diweddar Athro G. J. Williams darganfuwyd copi ffoto-stat o lythyr (mae'r gwreiddiol yn y Fatican) a anfonwyd gan Morys Clynnog (1525-81) o Louvain at Giovanni Morone (1509-80)2 y cardinal ac uchel noddwr Lloegr, ym mis Rhagfyr 1561. Mae'r llythyr yn gymharol hir, ond ceir crynodeb ohono yn State Papers, Rome (1561), rhif 127: 'Maurice Clenoch to (John,) Cardinal Moroni. A somewhat lengthy argument for intervention by the King of Spain to re-establish Catholicism in England by dethroning Elizabeth and setting in her place the Queen of Scots, whose title is represented as acknowledged on all hands and virtually admitted by Elizabeth herself when she designated her as her successor in the event of her death without issue. It is also alleged that the vast majority of Englishmen are utterly opposed to the innovations in religion, and not so patriotic but that they would reconcile themselves to foreign intervention in such a case. 6 Dec. 1561. Louvain. Latin.' Cyhoeddir y llythyr Lladin a chyfieithad ohono yma gan ei bwysiced fel tystiolaeth gynnar o agwedd Clynnog ac eraill o'r ffoaduriaid tuag at ddyfodol y Ffydd babaidd yng Nghymru a Lloegr. Er bod y memorandwm3 a luniodd Clynnog ac a anfonodd at y pab yn 1575, sef yn ddiweddarach o ryw bymtheg mlynedd, ar fater goresgyn Lloegr drwy rym milwrol er mwyn edfryd y Ffydd, yn helaethach dogfen na'r llythyr, dengys y llythyr i Glynnog o gychwyn cyntaf ei dymor o alltudiaeth goleddu'r syniad nad oedd ond un dull i weithredu, sef oedd honno, drwy rym milwrol. Yn hyn o beth ni wnaeth ond dilyn dull meddwl ei hen noddwr, Reginald Pole,4 y cardinal, fel y tystia Clynnog ei hun yn y memorandwm:5 'Pietissimae memoriae Cardinalis Polus cum a Sta Ro. ecclesia defecisset rex Angliae Henricus. 8 huiusce pater, suasit (vt eius adhuc testatur egregium illud volumen quod ad eundem regem de primatu S. Ro. sedis edidit) Imperatori Carolo quinto vt non differret contra Angliam .Pan oedd Harri'r Wythfed, brenin Lloegr, a thad y wraig hon, wedi torri cysylltiad a'r Eglwys Lan Rufeinig, anogai'r Cardinal Pole, o dduwiol goffadwriaeth, (fel y tystia ei gyfrol ragorol, a gyfansoddodd i'r un brenin, ynglyn a Phenarglwydd- iaeth y Babaeth), yr ymherodr Siarl y Pumed i beidio ag oedi i droi ei luoedd yn erbyn Lloegr Nid yw Clynnog yn argymell yr un ffordd o weithredu yn y llythyr a'r memorandwm. Gobeithiai yn ei lythyr yn 1561 weld Phylip, brenin Sbaen, yn ymyrryd yn filwrol i edfryd y Ffydd, eithr yn ei femorandwm yn 1575, daethai i sylweddoli na fyddai Henri III, brenin Ffrainc, gelyn Phylip, yn fodlon i Phylip ymgymryd a thasg a olygai oresgyn Lloegr, rhag i Phylip, pe digwyddai iddo lwyddo, estyn £ i ddylanwad gwleidyddol a drysu'r cyd-bwysedd gwleidyddol yn Ewrob. Yn nhyb Clynnog, un gwr yn unig a allai obeithio cychwyn ymgyrch o'r fath yn 1575, a hwnnw oedd y pab ei hunan.