Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

61 Bye-Gones, 1880, 17. Ni nodir ffynhonnell y copi hwn, ond ymddengys imi, a barnu wrth fanylion megis cwlwm y cadach gwddf a'r diffyg bwlch yn yr en, mai darlun Harding yw'r sail. Mae'r dirywiad yn y pedwar portread hyn yn amlwg, a'r newid o ddarlun o berson real a chymeriad byw i ddelw ddifywyd, hunan—fodlon Roos yn eglur. Y mae Lhuyd wedi'i barchuso. Clerigwr athronyddol ei dueddiadau, ag wynepryd finefeatured, er braidd yn llawn, ydyw erbyn 1837, a'r naturioldeb lied arw wedi'i lyfnhau. Yr un math o ddelfrydu a welir wrth gymharu llun John Williams, Llanddarog, o Williams Pantycelyn, 'from recollection many years after his death', a chopi Mackenzie ohono yn argraffiad Kilsby Jones o'r Gweithiau, 1867. Ceir y ddau lun yn wynebu'i gilydd yn William Morgan, Album Williams, Pantycelyn, Dowlais, 1890, 9. Dichon fod arlunydd y Llyfr Noddwyr yn nes ati gyda'i awgrym o hunanhyder a direidi, o wr, er gwaethaf ei gadernid, a oedd ag elfen anfoddog, fenywaidd bron, ynddo. BRYNLEY F. ROBERTS Abertawe 1 Am y manylion gw. George Watson, New Cambridge Bibliography of English Literature, II, 1660-1800. col. 1797 ymlaen. 2 Ar weithgarwch Huddesford gw. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, xix, 67-87. 3 Gwelir llofnod Edward Lhuyd ar gopi'r Llyfrgell Genedlaethol o'r ysgythriad, ond darn o bapur wedi'i ludo ar y print ydyw.