Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(i) '-aw- yn lle'r '-o- ddiweddar: 'trugarawc' (Joel ii. 13, t. xxx. b.), rhodiaw (Es. lxiii. 1, t. xl.), gwaredawdd (Es. lxiii. 5, t. xl. b.), ynthaw (Es. lxiii. 11, t. xl. b.), priawdvapQoelii. 16, t. xxx. b.), tragyvythawl (Es. lxiii. 12, t. xl. b.) (ii) Caledu '-d', '-g' '-b' terfynol yn '-t', '-c', '-p': dillat (Es. lxiii. 1, t. xl), auawc (Es. 1. 9, t. xliii.b.), wynep (Es. 1. 6, t. xliii). (iii) Dynodi'r treiglad trwynol ar 61 'fy' lie bo'r gysefin yn 'c' neu 'g' a dwy gytsain yddfol: vygcalon (Es. lxiii. 4, t. xl), vygclust (Es. 1. 5, t. xliii). (iv) Dynodi'r treiglad trwynol ar 61 'fy' He nad yw'r gysefin yn yddfol a 'vym- vymprynedigion (Es. lxiii, 4, t. xl. b.), vymbraich (Es. lxiii. 5, t. xl. b.), vymdillat (Es. lxiii. 3, t. xl. b.). (v) Peidio a dynodi treiglad trwynol 'c', 't', 'g', 'd' ar 61 'yn': yn-cyfor (Es. lxiii. 7, t. xl. b.), yn tragyvyth (Es. xl. 8, t. xcvi), yn-gwasclestr (Es. lxiii. 2, t. xl.). (vi) Caledu 'g', 'b', 'd' ar ol 'oil' ac "th': ath tosturiaethae (Es. lxiii. 15, t. xl. b.), oil tiredd (Jer. xxiii. 7, t. lxxxvii. b.), oil cnawt (Es. xl. 5, t. xcvi.). (vii) Peidio a threiglo ail elfen gair cyfansawdd: cymporth (Es. 1. 7, t. xliii). Ar sail y drafodaeth uchod fe welir i Salesbury, yn y fersiwn hwn o'r 'Epistolau' o'r Hen Destament, ddilyn yr un egwyddorion ag a oedd wedi llywio ei gyfieithiad o weddill 'Epistolau ac Efengylau' y Llyfr Gweddi (Gwel. Y Testament Newydd Cymraeg tt. 184-201). Dan ddylanwad Beibl Genefa, y mae egwyddor 'ffyddlondeb' wedi ei chymhwyso gyda gofal manylach nag yn Kynniver llith a ban ac, yn wir, mewn rhai maimau, yn llwyrach na chan Feibl Genefa ei hun. Ceisir urddasoli'r iaith ag orgraff ac ymadroddion hynafol a Lladinaidd, ac fe gyfoethogir yr eirfa, pan fo angen, nid trwy fenthyca ond trwy lunio ffurfiadau newydd. Ni welir yn y darnau hyn yr amrywiaeth mewn mynegiant sydd mor nodweddiadol o gyfieithiadau eraill Salesbury, ond hyd yn oed yma y mae ganddo gyfystyron niferus ar ymyl y ddalen. Bangor ISAAC. THOMAS Y MANNAU PRAWF (100) Eseia vii: 10, 11, 13a, 13b, 14a, 14b, 15. Eseia xl: 1, 2a, 2b, 2c, 3a, 3b, 4a, 4b, 5, 6a, 6b, 7a, 7b, 7c, 8, 9a, 9b, 9c, ioa, lob, IIa, lib. Eseia 1: 5, 6a, 6b, 7a, 7b, 8a, 8b, 9a, 9b, ioa, iob, 11a, IIb, i ic, i ich, i id, i ie. Eseia lxiii: la, lb, ic, 2, 3a, 3b, 3c, 3ch, 4a, 4b, 5a, 5b, 6a, 6b, 6c, 8, 9a, 9b, 1oa, iob, na, lib, 11c, 12a, 12b, 14a, 14b, 15a, 15b, 16a, 16b, 17a, 17b, 18, 19. Jeremeia xxiii: 5a, 5b, 6a, 6b, 7, 8, 9. Joel ii: 12, 13a, 13b, 14a, 14b, 15, 16a, 16b, 16c, 17a, 17b, 17c.