Skip navigation

National Library of Wales journal

 - 

Cyf. 23, rh. 1 Haf 1983

Tudur Aled : ailystyried ei gynefin /

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
TUDUR ALED: AILYSTYRIED EI GYNEFIN
WEDI crynhoi yr hyn a oedd yn hysbys am Dudur Aled, dywed T.
Gwynn Jones yn ei Ragymadrodd i waith y barddl:
Y pethau hyn, wedi eu lliwio, fwy neu lai, yn ol chwaeth neu ddychymyg y sawl
a'u copio, a geir fel ei hanes. Pwy bynnag fu'r cyntaf i gynnull cymaint a hyn o
ddywediadau amdano, ni chymerth neb o'r rhai a'u hail adroddodd nemor drafferth
i roi prawf amynt.
Os oedd gan Gwynn Jones ei amheuon, ni ddywedodd ddim; i'r gwrthwyneb, fe
sgubodd o'r neulltu yr unig fygythiad gwirioneddol i'r traddodiad poblogaidd
am fro Tudur Aled, fel y ceir gweld yn y man.
Ers rhai blynyddoedd bellach wrth ymddiddori yn hanes cymdogaeth Llansannan,
deuthum i amau fwyfwy ddilysrwydd y traddodiad a gysylltai Tudur Aled â'r
cwmwd hwnnw. Diben yr hyn a ganlyn felly, fydd ceisio amlinellu'r amheuon hynny.
Os nad wyf yn camgymryd yn arw, yn Gorchestion Beirdd Cymru, cyfrol Rhys
Jones o'r Blaenau a gyhoeddwyd yn 1773, y gwelir y cyfeiriad argraffedig cynharaf
sy'n cysylltu Tudur Aled A Llansannan. Dyma'r union eiriau:2
Tudur Aled. Y Bardd hwn oedd wr o Ddyffryn Aled, yn Sir Ddinbych; ag yn
ei flodau B.A. 1490.
Yn rhyfedd iawn, er i Thomas Pennant, ychydig yn ddiweddarach, droedio'r dyffryn
o Lansannan i Lyn Aled, ni chrybwyllodd enw Tudur Aled, er iddo'i glodfori fel un
o feirdd mwyaf Cymru mewn cyswllt arall.3 Ni chrybwyllodd Iolo Morganwg,
yntau, air am Dudur yn ei nodiadau ar ei ymweliad â'r plwyf yn 1799 ychwaith.4
Pan gyhoeddodd William Owen [-Pughe] ei eiriadur bywgraffyddol, The
Cambrian Biography, yn 1803,5 nid oedd ynddo gofnod am Dudur Aled, ac ysgogodd
hynny rhyw P.B.W. (Peter Bailey Williams (1763-1836), rheithor Llan-rug a
Llanberis, yn ddiamau) i lanw'r bwlch drwy gyhoeddi nodiadau dan y pennawd
'Bardic Notices' yng nghyfrol gyntaf y Cambro-Briton yn 1820.6 Am Dudur Aled
dywed:
a most excellent Bard, was so called on account of his residence being on the
banks of the river Aled, in the county of Denbigh. He lived at Garth Geri
Chwibryn, in the parish of Llansannan, and flourished about the year 1490. He was
a friar of the Order of St. Francis Tudur Aled was a nephew and a pupil of
Davydd ab Edmund.
Ni ddatgelodd P.B.W. ei ffynhonnell, dim ond nodi iddo godi'r manylion o'i gasgliad
ei hunan. Ond gellir awgrymu'n ffyddiog iddo gael ei wybodaeth o'r llawysgrif
'Celtic Remains', llafur deugain mlynedd o fywyd Lewis Morris (Llywelyn Ddu
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.