Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tua 1866, aeth John Simon, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Rhuthun, am wythnos i Lansannan, pryd y croesawyd efar aelwyd Tycelyn, gerllaw'r Gilfach-lwyd a Chae-du. Bu teulu Tycelyn â°i gynefin yn y cymniau hynny ers canrifoedd lawer, ac yr oedd y mab hynaf yn englynwr poblogaidd: y math o le yn sicr y disgwylid clywed traddodiad llafar am Arthgeri yno. Wrth adrodd yr hanes, sonia John Simon am William Salesbury a Chae-du, ond ni ddywed ddim am Arthgeri, er iddo gynnwys enw Tudur Aled mewn rhestr o feirdd Llansannan.15 Diau y gellid dadlau na ddylid rhoi gormod pwys ar ddistawrwydd Thomas Pennant a lolo Morganwg, gan nad oeddynt mewn gwirionedd ond teithwyr ar eu tro yn cymryd cip arwynebol ar yr ardal. Prin hefyd, efallai, y disgwylid i gofiannydd Edward Parry, Brynbugad, a John Simon, anghydffurfwyr rhonc, tra oeddynt yn canu clodydd Cyfieithydd y Testament Newydd, roi sylw i Babydd o fardd yr un pryd. Ond y mae distawrwydd Gwilym Hiraethog, a drwythwyd yn nhraddodiadau ei gynefin, ac yn arbennig felly brinder gwybodaeth R. H. Jackson, yn peri i rywun amau'n gryf nad oedd yn Llansannan erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fwy na rhyw frith gof o gysylltiad Tudur Aled i'r fro, ac na wyddid dim am Arthgeri. Gan nad oedd angen rhyw fesur helaeth o ddychymyg na dyfeisgarwch ar ran Rhys Jones o'r Blaenau i gysylltu Tudur Aled a dyffryn o'r cyfryw enw, fe welir bod yr unig dystiolaeth a feddwn i'w holrhain i un ffynhonnell, sef Edward Llwyd. Ond mae arwyddion i'r sefyllfa yn Llansannan gael ei gweddnewid yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. Y pryd hynny y daeth tystiolaeth Edward Llwyd am gysylltiad Tudur Aled a Garthgeri i afael trwch y boblogaeth am y tro cyntaf, yn ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd a gafwyd iddi yn Enwogion Cymru (Robert Williams), 1852,16 ail argraffiad Gorchestion Beirdd Cymru, 1861,17 a Geirlyfr Bywgraffiadol (Isaac Foulkes), 1870.18 0 hynny ymlaen, fe flagurodd traddodiad llafar grymus yn cysylltu Tudur Aled a'r fangre. Ond y mae argoelion cryfion nad traddodiad dilys mohono, ond creadigaeth ddiweddar wedi tyfu o gwmpas y tair elfen a ganlyn o'r traddodiad llenyddol: 1. bod Tudur Aled yn byw mewn lie a elwid Garthgeri yn Chwibren; 2. ei fod yn fynach yn ogystal a bardd; 3. ei fod hefyd yn athro barddol. Er imi edrych ar fap degwm plwyf Llansannan, ynghyd a pheth wmbredd o hen weithredoedd a dogfennau eraill perthnasol i'r plwyf, ni welais gymaint ag un cyfeiriad at le o'r enw Garthgeri. Yn 61 y map degwm, y mae'r elfen gyntaf, Garth, yn digwydd bedair gwaith fel enw cae, rhif 985 a 989 ar dir Gwernllifon, a 978 a 975 ar dir Acrau, y pedwar cae yn nhreddegwm Chwibren ac yn ddigon agos at ei gilydd i'w henwau fod wedi tarddu o'r un nodwedd ddaearyddol.19 Rywbryd yn ystod nawdegau'r ganrif ddiwethaf, daeth Charles Ashton, y llyfr- yddwr enwog ar daith hynafiaethol i Lansannan, a chrwydrodd bob cornel o'r ardal yng nghwmni dau gydymaith, sef Tom Owen, Hafodelwy, a Robert Ellis (mab