Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mai'r un llong ydoedd ac eraill yn gwadu hynny; yn yr un modd, yn ben- difaddau, yr wyf finnau wedi cadw, gyda chlod iddo, beth o waith fy rhag- flaenwr, ac yn enw Duw wedi newid peth, ac yr wyf wedi saernio'r defnyddiau ynghyd nes bod yma hefyd 'fater dadl', ac anodd yw dweud p'un ai hen ai newydd, p'un ai eiddo Morgan ai eiddof fi, y dylid galw'r fersiwn Amcan yr astudiaeth hon fydd ceisio nodi'n fwy manwl faint a natur y diwygio ar fersiwn Morgan a welir yn Hen Destament Beibl 1620. Fel ym Meibl 1588 y mae testun Beibl 1620 wedi ei argraffu mewn llythyren ddu a'i osod mewn dwy golofn ar bob tudalen. Rhennir y testun yn benodau ac adnodau gan ddilyn dosbarthiad Fersiwn Saesneg 1611 lie bynnag y bo hwnnw yn wahanol i ddosbarthiad Beibl 1588. Fel ym Meibl 1588 hefyd, ceir cynhwysiad uwchben pob pennod mewn llythyren rufeinig, ond y mae geiriad Beibl 1588 wedi ei ddisodli ym mhob man gan eiriad cyn- wysiadau'r fersiwn Saesneg. Ceir y canlynol, er enghraifft, uwchben y ben- nod gyntaf o Genesis. Beibl 1588 Fersiwn Saesneg 1611 Beibl 1620 1 Creadwriaeth y nef, a'r 1 The creation of Heaven 1 Creadwriaeth nef a ddaiar, 2 Y goleuni a'r and Earth, 3 of the light, daiar, 3 a'r goleuni, 6 a'r tywyllwch, 8 Y ffurfafen, 6 of the firmament, 9 of ffurfafen, 9 naillduo y 16 Y pysc, yr adar, a'r the earth separated from ddaiar oddiwrth y dyfr- anifeiliaid, 26 A dyn. 29 the waters, 11 and made oedd, 11 a'i gwneuthur yn Llynniaeth dyn ac anifael. fruitfull, 14 of the Sunne, ffrwythlon, 14 yr haul y Moone and Starres, 20 of lleuad a'r ser, 20 y pyscod fish and foule, 24 of a'r adar, 24 yr anifeiliaid, beasts and cattell, of man 26 dyn ar lun Duw. 29 in the image of God. 29 Ordeinio lluniaeth ac ym- Also the appointment of borth. foode. Defnyddir yn y testun ac ar yr ymyl i ddynodi cyfeiriadau at ddamau cyfatebol o'r Ysgrythurau, ac yma eto y mae cyfeiriadau Beibl 1588 wedi eu disodli gan eiddo Beibl Saesneg 1611. Defnyddir II yn y testun a'r ymyl i ddy- nodi nodiadau esboniadol. Y maent wedi eu hargraffu mewn llythyren italig, ac y mae iddynt dair swyddogaeth: (i) rhoi cyfieithiad llythrennol o'r Hebraeg: Cyfeiriad Testun Ymyl Gen. i. 30 II einioes II Heb. enaid byw Gen. i. 28 II ymsymmudo II Heb. ymlusco