Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

annarllenadwy yn yr un llaw (neu law debyg iawn) uwchben y gerdd 'Arwyre gwyr catraeth' (f. 26v). John Lewis, Llynwene, yr hynafiaethydd o sir Faesyfed,18 a luniodd y teitlau a ganlyn: Marwnat y vil veib (f. 1 ar waelod y tudalen), Gwallawc ap lleenawc (f. 14r), Dadolwch Vryen (f. 31r), a Marwn[at] Corroi (f. 31v). Defnyddiodd Lewis yr un inc tywyll i 'wella' rhannau o'r testun (e.e. f. 8r). Torrodd Robert Vaughan, Hengwrt, ei enw ar f. 32.19 Mae'r dwylo hysbys eraill a adawodd eu hoi ar y llawysgrif yn perthyn i gopiwyr a hynafiaethwyr a gafodd ei gweld: Evan Herbert, er enghraifft,20 a mab William Owen-Pughe, Aneurin, y mae ei enw yn ymddangos mewn llythrennau coelbren ar y dalennau papur newydd.21 Ar y llawysgrif ei hun (f. 8V), gwelir y marc sydd yn debyg iawn i'r hyn sydd gan John Davies, Mallwyd, yn NLW 4973B (e.e. ff. 68v, 70v, 97r).22 Nid syndod hyn, oherwydd fe wyddom iddo wneud adysgrif o'r llawysgrif,23 a'r adysgrif honno yw'r un gyflawn gyntaf sydd ar glawr. Hon fu'n ffynhonnell i lu o gopiau diweddarach.24 Yn britho'r llawysgrif mae profion pin: ar ff. 4f, 5, ac mewn Lladin ar ff. 8f, 9r, llr, 13r, 37v,26 ac ar ochr f. 21v.27 Gadawodd llaw o'r unfed ganrif ar bymtheg y geiriau hyn ar draws brig f. 32v: ye gorev ynghymry o gerdd taliessin benn beird28 Rhywbeth cwbl annarllenadwy sydd ar waelod f. 38v. Erys tri darn gweddol hir o marginalia. Gwelir y darn hwn mewn llaw o'r bymthegfed ganrif ar ff. 21v— 22r: K' a sy p ny ? ylyir y gwrandaw/ ac arall ny dylyir atteb/ ac arall y dylyir y bod yn coll Neu yn caff el [d]ydd y dyly o/ sef K' Ny dylyir y gwrandaw K a ryffo gynt rwng deudyn ac a vo diura[d] ar y naill Neu dygymod/ Neu gedernyta vo iawn coelaw idaw/ y K' honno nit iawfn]29 Ar f. 24r mae geiriau Saesneg sy'n goferu o ddalen gyntaf plyg 4, ac sy'n dyst fod y plyg hwnnw'n gyflawn yn y bymthegfed ganrif pan ysgrifennwyd y darn gogleisiol hwn: a no more yn y's yer seal not and yer apon to borche s son ye vathst yat yer stal [scal?] no cristlIi mon sae hyt a sondae y ye speke ye mermaed y coniur ye ek you fals y ba yat yonsot ouls yesa l .outi l..dud mil. a ..ne yerapon yere heris of ye here of ye meremade to pelgvs wyt saint Jo ye euangelist yerwyt to vorche apon ye wickyt orim vanchost yat yon starat nemyd yn amen pater Mae'r son am loan Efengylwr a'r 'worm' (os dyna ystyr orim) a'r amen pater ar ddiwedd y darn yn dwyn bias swyn ar gyfer atal neu ddad-wneud rhaib ar ddyn neu anifail,30 ond mae'r cyfeiriadau at y for-forwyn (mermaed, meremade) a'i ffalster a'i gwallt hudolus yn gwbl dywyll,31 ac nid hawdd deall ystyr nifer o'r geiriau sydd yma.32 Ond mwy arwyddocaol o safbwynt hanes y llawysgrif yw