Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ieithoedd Ellmynig a chytseiniaid cyfatebol mewn ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill. Cymhwysodd George Curtius (1820-1885)10 y dull cymharol i'r ieithoedd clasurol; Friedrich Diez (1794-1876) a arloesodd ym maes astudiaethau Romans; J. Dobrovsky (1753-1829) a Franz Miklosich (1813-1891) yn yr ieithoedd Slafig; yr oedd Bopp yn 1839 wedi rhoi cynnig ar ddisgrifio treigladau dechreuol yr ieithoedd Celtaidd ond Johann Kaspar Zeuss (1806-1856) a osododd y sylfeini ar gyfer astudiaethau Celtaidd pan gyhoeddwyd ei Grammatica Celtica yn Leipzig yn 1853. Datblygodd yr ieithyddion cymharol cynnar hyn fethodoleg ieithyddol gadarn: casglasant fanylion dibynadwy am y gwahanol ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn sgil hynny gallwyd, am y waith gyntaf, ddechrau datblygu damcaniaethau cyffredinol ym maes ieitheg. Yn yr ysgrif hon y mae'n berthnasol crybwyll un yn unig o'r damcanieithwyr ieithyddol cynnar sef y Prwsiad Wilhelm von Humboldt (1767— 1835),11 a oedd, yn ogystal, yn ffigur o gryn bwys am gyfnod yng ngweinyddiaeth ei wlad. Yr oedd Humboldt yn hyddysg mewn nifer helaeth o ieithoedd dwyreiniol a gorllewinol yn ogystal ag ieithoedd nad ydynt yn perthyn i'r teulu Indo- Ewropeaidd. Ystyrir Humboldt yn un o sylfaenwyr ieithyddiaeth gyffredinol, neu ieithyddiaeth ddamcaniaethol fel y gelwir y pwnc weithiau, sef y wyddor sy'n astudio natur iaith trwy graffu ar ddeunydd yn tarddu o amryw byd o ieithoedd gwahanol iawn i'w gilydd. Oherwydd ei ddiddordebau ieithyddol yr oedd Humboldt wedi ei drwytho yng ngweithiau'r ieithyddion cymharol er mai bach o ddylanwad uniongyrchol a gafodd ei weithiau ef arnynt hwy.12 Y gwaith cymharol cyntaf i'w gyhoeddi yng ngwledydd Prydain oedd The Eastern Origin of the Celtic Nations (1831) gan James Cowles Prichard (1786-1848) ac yn y cyfnod cyfeirid at y gyfrol yn barchus yn Lloegr fel gwaith o'r un statws a Grammatik Grimm, er rhaid cydnabod erbyn hyn mai cais cwbl amaturaidd ydoedd i brofi bod yr ieithoedd Celtaidd yn canghennu o fewn y teulu Indo- Ewropeaidd. Anwybyddir y gyfrol yn llwyr gan y gweithiau diweddarach ar yr ieithoedd Celtaidd a ddeilliodd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o'r Almaen. Cais Prichard, yn ogystal, bennu nodweddion gwareiddiad yr Indo- Ewropeaid cynnar drwy bwyso ar dystiolaeth ieithyddol. Dyma wyddor a ddatblygodd law yn Haw a ieitheg gymharol a chanmolwyd cyfraniad Prichard i'r maes gan Robert Gordon Latham (1812-88) yn ei gyfrol Man and his Migrations (1851) am iddo gyfuno gwyddor ethnoleg ac ieitheg gymharol: gwnaed ymdrechion cyffelyb ychydig yn ddiweddarach gan Adalbert Kuhn (1812-81) a chan Adolphe Pictet (1799-1875). Ar gyfer Eisteddfod Cymreigyddion Y Fenni 1842 cyhoeddwyd cystadleuaeth ar bwnc ieitheg gymharol sef 'Y Sefyllfa a berchenoga y Iaith Gymraeg yn mhlith y Ieithoedd o'r haniad Celtaidd; ac ynghyd a'r canghenau ereill o'r