Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
GLADSTONE YN GYMRAEG
N 61 John Owen Huws, mewn erthygl yn Llafar Gwlad (rhif 7,
y Chwefror-Mai 1985), daeth miloedd ynghyd ym Medi 1892 i wrando ar
W. E. Gladstone, y prifweinidog Rhyddfrydol enwog, pan agorodd 'Lwybr
Watkin', llwybr sy'n arwain o Nantgwynant i gopa'r Wyddfa. Hen wr yn tynnu
am ei 83 oed ydoedd Gladstone erbyn hynny, ac yr oedd newydd ddechrau ar ei
bedwerydd tymor yn brifweinidog Prydain Fawr. Codwyd tabled ar y garreg yr
areithiodd Gladstone oddi arni ar yr achlysur hwnnw. Yn 61 y cofnod ar y tabled,
anerchodd 'drigolion Eryri ar lawnder i Gymru', ac wedi iddo orffen, 'Canodd y
dyrfa Emynnau Cymru a Hen Wlad fy Nhadau'.
Brodor o Lerpwl oedd William Ewart Gladstone (1809-98), ond yr oedd ei
gysylltiadau Celtaidd yn rhai cryf. Albanwr ydoedd o ran ei dras, a Chymraes
oedd ei briod, sef Catherine Glynne o Gastell Penarlâg yn yr hen sir Fflint.
Fe'i priododd yn 1839, ychydig wythnosau cyn i'w wrthwynebydd mawr
gwleidyddol, Benjamin Disraeli, briodi gweddw'r aelod seneddol, Wyndham
Lewis o Greenmeadow, Tongwynlais, ger Caerdydd. Ac eithrio un bwlch byr yn
y pedwardegau, bu Gladstone yn aelod seneddol o 1832 hyd ei ymddeoliad yn
1895, ac yn brifweinidog bedair gwaith rhwng 1868 a 1894. Ond er y galwadau
mynych arno yn Llundain a mannau eraill, nid oedd dim yn well ganddo nag
ymneilltuo i Gastell Penarlag, ac roedd yn arbennig o hoff o dorri coed ym
mharc y castell ac o encilio i'w lyfrgell helaeth yno. Dyma'r casgliad o ryw 30,000
o gyfrolau a ddaeth yn sylfaen i Lyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlag, llyfrgell a
sefydlodd Gladstone ar ddiwedd ei oes ac sydd erbyn hyn yn un o'r canolfannau
pwysicaf ar gyfer ymchwil i fywyd a meddwl Oes Fictoria.1
COFIANNAU CYMRAEG I GLADSTONE
Nid yw'n syndod o gwbl fod y miloedd wedi crynhoi wrth droed yr Wyddfa i
glywed Gladstone ym Medi 1892 oherwydd, er gwaethaf ei sel dros Eglwys
Loegr a'i dueddiadau uchel-eglwysig, bu Glastone yn gryn arwr i lawer yng
Nghymru Anghydffurfiol ail hanner y ganrif ddiwethaf ac yn enwedig o
ganol yr wythdegau ymlaen, gyda thwf Mudiad Cymru Fydd.
Arwydd o'r parch uchel a delid iddo yng Nghymru yw'r llu erthyglau amdano
yng nghylchgronau a phapurau newydd y cyfnod, y portreadau a'r cerfluniau
niferus ohono, a'r cystadlaethau y bu ef yn destun iddynt mewn eisteddfodau,
gan gynnwys cystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn
1899, y flwyddyn ar 61 iddo farw. Sonia Mary Wiliam, er enghraifft (yn Y Casglwr,
Nadolig 1985), am blatiau a fu'n hongian ar walydd cartrefi ym Meirionnydd,
gyda lluniau Mr a Mrs Gladstone arnynt. Ar ben hyn oil, cyhoeddwyd o leiaf
bum cofiant i Gladstone yn y Gymraeg. Dyma restr ohonynt:
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.