Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feirdd. Gweddw Ceiriog a'i coronodd. Yn anffodus yr oedd y goron yn rhy fawr i ben Eifionydd a llithrodd i lawr at ei drwyn ar y ddwy ymgais gyntaf i'w goroni. 'Mrs. Ceiriog Hughes seemed alarmed lest people might think she had invested "Eifionydd's" nose with the Royal emblem instead of his intellectual part,' meddai Morien, 'and she each time smartly caught the diadem as it slipped and eventually fixed it in its proper position.' Wedi llwyddo i goroni Eifionydd, galwyd ar y beirdd i gyfarch y bardd buddugol; ond cymaint oedd anfodlon- rwydd aelodau'r Orsedd fod Gwylfa heb ddod i'r seremoni, fel mai un yn unig oedd yn barod i ddod ymlaen i'w gyfarch, er gwaethaf apeliadau'r arch- dderwydd. Ond i ddychwelyd at y gadair. Roedd Eisteddfod Caerdydd yn nodedig am y presenoldeb sylweddol a oedd yno o'r gwledydd Celtaidd eraill. Gan na fu cadeirio, gwahoddwyd rhai o'r Albanwyr i'r llwyfan i ddawnsio i gyfeiliant pibgodau to dance away the disappointment for us', ys dywedodd un gohebydd. (Yn llyfryn Clive Betts, Cardiff and the Eisteddfod, 1978, t. 25, at- gynhyrchir llun artist a ymddangosodd yn wreiddiol yn y South Wales Daily News adeg Eisteddfod 1899 — o un o'r Albanwyr yn dawnsio gyda chleddyfau ar lwyfan y Brifwyl i gyfeiliant pibgod.)