Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRIFON BEILIAID FFERMYDD GWEDIR 1569-71 mae llawysgrif Llanstephan 179B yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffurfio cofnod pwysig yn y corff cyfoethog o bapurau teulu Wyniaid Gwedir sydd wedi goroesi. Cyfeirir ati yn J. Ballinger (gol.), Calendar of the Wynn of Gwydir Papers, 1515-1690.1 Ceir yn y ffynhonnell hon 212 tudalen ac ynddi cynhwysir rholiau rhent a manylion am yr ystad ynghyd a chyfrifon stoc ar ffermydd Gwedir yn ystod y blynyddoedd 1569-71 pan oedd Morus Wynn yn bennaeth ar y teulu. Y mae'r ddogfen faith hon yn hynod werthfawr i ddeall natur amaethu yn ucheldir gogledd Cymru.2 Lleolwyd y rhan helaethaf o ystad Gwedir yng nghantref Nanconwy, rhanbarth anghysbell a nodweddir yn bennaf gan dir uchel, porfeydd garw a llaith a choedwigoedd trwchus; ardaloedd eang a ddisgrifiwyd gan Edmund Hyde Hall yn 1811 yn 'rough mountains and yet unpierced by a highway'.3 Meddai O. Gethin Jones am ansawdd tir Dolwyddelan yn ei astudiaeth o'r plwyf a gyhoeddwyd yn 1891, wyth mlynedd wedi ei farwolaeth: .ac nid yw y rhain, oherwydd eu hagosrwydd i'r mynyddoedd uchel, yn ffafriol i yd, ond yn unig ceirch. Fel tir porfa a gwair yn unig y disgwylir iddo ddwyn elw i'r ffermydd.4 Yr unig rannau o'r ystad lie cafwyd ffermio cymysg yn Nanconwy oedd Cwm Penamnen, i'r de-ddwyrain o Ddolwyddelan, lie yr ymgartrefodd Maredudd ab Ieuan, sylfaenydd teulu Gwedir, a rhannau uchaf Dyffryn Conwy, yn nhrefgordd Trewydir, rhwng Trefriw a Betws-y-coed, a phlwyf Llanrhychwyn. Yn y plwyf hwnnw y lleolwyd plas Gwedir; disgrifiwyd llyfnder a chyfoeth pridd y tir o'i amgylch yn ami gan y beirdd, a thueddent i anwybyddu parthau anhygyrch a digynnyrch yr ystad. Un o'r rhannau gorau yn awdl foliant Wiliam Llyn i Forus Wynn yw honno sy'n disgrifio cyfoeth amaethyddol llawr Dyffryn Conwy o amgylch Gwedir: Canol tir maenol tramwy anaw Caeau yd gweirdir yn cydgordiaw; Cyfleoedd llynnoedd gerllaw-dyffrynnoedd Coed, tiroedd, ffrithoedd yn cydffrwythaw.5 Yr oedd Cwm Penamnen yn anghysbell, ac fe'i disgrifiwyd gan Syr John Wynn, etifedd Morus Wynn, yn The History of the Gwydir Family fel 'the principal best ground in Dolwyddelan'.6 Yn y cwm hwnnw ceir doldir bras a gwastad ac afon