Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMRAEG YM 'MHRIFYSGOL RUHLEBEN' AR24Tachwedd 1918, dan delerau'r cadoediad, ymadawodd y carcharorion olaf a gwersyll Ruhleben, gwersyll ar gyfer carcharorion sifil, internees, I JL o oed gwasanaeth milwrol, a sefydlwyd ar safle maes rasio ceffylau ger Berlin ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Dinasyddion Prydeinig oedd y mwyafrif o'r rheini a gaethiwwyd yn Ruhleben;1 yr oeddent naill ai'n byw yn yr Almaen neu'n teithio yn yr Almaen adeg cyhoeddi'r rhyfel. Tua 4,500 oedd y nifer uchaf i'w carcharu ar y safle deg cyfer ar unrhyw adeg er bod rhyw 5,500 yn gyfangwbl wedi treulio rhyw gyfnod yn y gwersyll. Gwyr ifanc rhwng 16 a 45 oed oedd mwyafrif y carcharorion a bu ychydig dan drigain farw yn ystod cyfnod eu caethiwo. Yn ogystal a'r gwyr o Brydain yr oedd Ffrancwyr ac Eidalwyr yn ogystal a Jamaiciaid, Sansibariaid, Lasgariaid a gwyr o Orllewin Affrica yn Ruhleben. Yr oedd y rhan fwyaf o'r rhain yn swyddogion a chriwiau ar longau'n perthyn i'r Llynges Fasnach Brydeinig a oedd wedi eu dal yn Hamburg a Bremen a phorthladdoedd eraill yn yr Almaen. Iddewon oedd rhyw 300-400 o'r carcharorion. Yr oedd rhyw 70 o'r carcharorion o Gymru, y mwyafrif o'r rhain eto'n forwyr yn 61 tystiolaeth D. Rhys Phillips.2 Arestiwyd y rhan fwyaf o'r dinasyddion Prydeinig a oedd yng nghyffiniau Berlin cyn gynted ag y cyhoeddwyd rhyfel rhwng Prydain a'r Almaen ar 4 Awst 1914 a'u trosglwyddo i'w llety, stablau maes rasio Ruhleben ar 9 Medi 1914. Ar 6 Tachwedd 1914 cyrhaeddodd dros 4,000 o'u cydwladwyr i rannu'r gwersyll. Cynrychiolid pob galwedigaeth ymron o blith bonedd a gwreng ymysg y dyfodiaid gwyr busnes, newyddiadurwyr, athrawon prifysgol a choleg, myfyrwyr, peiriannwyr, crefftwyr a phrentisiaid, pysgotwyr, golffwyr a pheldroedwyr proffesiynol, jocis a hyfforddwyr ceffylau, cerddorion a pherfformwyr syrcas. Yr oedd amryw o'r 'Prydeinwyr' yn blant a aned ym Mhrydain i Almaenwyr a oedd yn digwydd treulio cyfnod ym Mhrydain neu yn y trefedigaethau. Yn llygaid llywodraeth yr Almaen yr oeddent yn 'Brydeinwyr' tan iddynt gael eu derbyn yn ddinasyddion o'r Almaen; tebyg o ran dinasyddiaeth oedd statws y plant a aned yn yr Almaen i ddinasyddion Prydeinig. Anodd oedd hi i'r rhain ddod yn ddinasyddion o'r Almaen ac nid oedd fawr awydd yn eu plith ychwaith i sicrhau hynny oherwydd esgusodid dinasyddion tramor rhag tair blynedd o wasanaeth milwrol ym myddin yr Almaen. Ni sylweddolodd llawer o'r rhain pa mor argyfyngus oedd eu hunion sefyllfa yn yr Almaen tan iddynt gael eu hel i Ruhleben yn 1914. Llwyddodd y mwyaf dylanwadol yn eu mysg, sut bynnag, i sicrhau eu rhyddid yn bur fuan ond bu nifer fechan yn y gwersyll gydol y Rhyfel Mawr. Yr oedd cyfran yn y gwersyll, yn ogystal, a oedd yn ymwelwyr ar eu gwyliau yn yr Almaen, ar wyliau cerdded, yn mynychu