Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adlewyrchir y datblygiadau hyn ym maledi Cymraeg y cyfnod ac yng nghanu'r bardd-lowr yn ogystal, a gwelir cynnydd sylweddol yn nifer y baledi a'r cerddi sy'n ymwneud ag ymfudiaeth i Awstralia yn y pumdegau cynnar. Cerdd gynnar felly yw eiddo William Lewis, un o frodyr Eiddil Llwyn Celyn, y crybwyllwyd ei enw eisoes. Ei theitl yw 'Cynhadledd: Pa Un Orau, Myned i Awstralia Neu Beidio', cerdd ar ddull ymddiddan rhwng Meurig a Morgan, a famwyd yn orau yn Eisteddfod y Carw Coch, Aberdar, ym mis Awst 1853.6 Meurig: Awstralia! Awstralia! Gwlad lawn o drysorau, O! na chawn fy hebrwng i'th euraid drigfannau; Cawn yno ddigonedd i'm cadw rhag tlodi, Nid byw fel yng Nghymru dan bwn yn ymboeni. Os meddwl llesoli fy hunan a'm teulu, Rhaid mynd trwy beryglon mewn gobaith gorchfygu; Peryglon a thrallod a welais yng Nghymru Heb ddim yn y diwedd ond angen a thlodi. Cais Morgan ddwyn perswad ar ei gyfaill i aros yng Nghymru, ond os yw'n gwbl benderfynol o ymfudo, yna dylai gartrefu ymhlith ei gyd-Gymry yn America: Morgan: Os am wneud rhyw lesiant tymhorol i'th deulu, Dos draw i'r Amerig os 'madael a Chymru. Ti elli gael yno fro fras i breswylio A llawer gwir gyfaill rydd gymorth mewn taro. Ond ceir yn Awstralia gyfleoedd newydd i'r sawl sy'nbarod i fentro, ac fel cynifer o'i gydymfudwyr, gobaith Meurig yw darganfod aur, ymgyfoethogi, a dychwelyd i Gymru'n ddiweddarach i fyw ar ei gyfoeth: Meurig: Mae aur yn Awstralia, cael gafael ar hwnnw Ac adref i Gymru mewn meddiant o'r elw. Am gynnig fel yna 'does neb all fy meio, Mi wn gaf anrhydedd mewn llawnder os llwyddo. Ac er gwaethaf ymbiliadau cyson a thaer Morgan, mae Meurig yn gwbl ddi- droi'n 61 yn ei fwriad i ymfudo. Cymeriadau dychmygol yw Meurig a Morgan, wrth gwrs, a'u profiadau, fel y'u croniclir yng ngherdd William Lewis, er yn gyffredin i gerddi ymfudo eraill