Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BREUDDWYDION Mi glywaf o'm hystafell Ofid calon beiston bell Yn wylo'i hoesol alaeth Ar wyw, drist, ddigysur draeth, Heno, a mi fy hunan, O hiraeth tost, wrth y tan, Yn darllen gwaith d'awen di, Am carodd ac am ceri Ai mwyn hun Menai heno, Ai ton greg syn tynnui gro I'w maith hwrdd anesmwyth hi— Storm oer drist or môr drosti ? Neu a ddaw maith floedd y môr I'th ddanfon dithau, Wynfor, Ar grwydr lle trigai, rywdro, Ddiball frawd sydd bell o'i fro? A glywi uchel helynt Tyrau'r gaer yn torri'r gwynt Onid yw ei erwin don Mal llais brad mall ysbrydion ? A ddaw'r glaw'n gynddeiriog li 0 oer oror Eryri, Yn ddwr glas trwy dddr y glyn, Lle mae'r gwyll, ym mro Gwellyn ? Neu a hyrddir ei harddwch Heno i lawr, fel arian lwch, A'i ronynnau drawn ennyn, Uwch brig coed, fflach barrug gwyn Neu a hun anian heno Heb na thrwst uwch hen, na thro Awel unwaith drwy lwyni I beri un swn byrr, na si ? A gyfyd tarth rhag afon Er gwisgo tir ? A gwsg ton ? A rydd llewych hardd lleuad Arian lif ar bun y wlad ? A dery'r gwawl dyrau'r gaer Mor glaer a miraglau bud, Oni weli hen olud Daear gynnar y duwiau Heno am y gaer yn amgau? A PAGE OF POEMS By T. GWYNN JONES (I T.O.J.) A huna'r byd un awr bach I roi le i'r awr loewach,— Y breuddwyd na bu roddi, Ar ddihun, awr, oedd, i ni, Mor ber-eyd bo ddim i'r byd, Honno biau hoen bywyd I Byd na bo ydyw'n bywyd, Bywyd na bo ydyw'n byd I Dithau, fy nghymrawd, weithion, A glywi di lef y don Yn dywedyd ein didol, Na ddaw ein hen ddyddiau'n ol Namyn yn Uwyd freuddwydion ? Andaw di ar nad y don RESIGNATION (To Her) We found a river, deep and wide, Just She and I, one day Twas said that on the other side, The land of pleasure lay. And by the ferry there we stood, And She and I were told That who would pass across the flood Must give the master gold. And She and I then went away Because we had no gold; She whispered: What a shining way I: "What a wondrous wold LIFE Lost in the happy dreams and hopes Of hearts yet young and spirits free, We sat where mighty Gogarth slopes Down to the ever-changing sea. We know those dreams and hopes of ours Were only dreamed and hoped in vain; Yet were it life to live those hours Lost in those dreams and hopes again.