Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1918. Pe cawn i eiste 'mon y clawdd, A gweld briallen fach o dan Caed cnafon aur y ddaear gron, 0 chaffwyf innau rodio'r gwys 1919. FOUR LYRICS BY T. GWYNN JONES EIN TADAU. Pa le mae'n tadau, pwy a'i gwyr ? Maent wedi llwyr dawelu- Awn ninnau atynt ar fyrr dro I ro ein daear wely. Os ynt yn cofio am eu plant A mwyniant neu drueni, Ni chlywir gair gan dad na mam- On'd rhyfedd, am rieni ? Pan ddel y gwanwyn yn ei dro, A deilio llwyn a dolau, Ni ddeuant hwy i roddi taith, Am unwaith yn eu holau. Pan fyddo pridd y ddaear ddu Yn tyfu 'n ddail a ffrwythau, Paham na ddoi ein tadau 'n rhydd 0 bridd y ddaear, hwythau ? Pan fyddo rhyfel yn y byd, A phawb i gyd yn griddfan, Rhyfedd na ddoi ryw gyngor bach Can ddoethach yn ei guddfan DAEAR. Mor ddifyr fyddwn, pe cawn i Arogli pridd y ddaear 4 Pan fyddo 'r haul yn codi 'r gwlith, A'r awel hithau 'n glaear. Peth hawdd oedd ochel blino, Y dorlan yn egino. A chaed ynfydion siarad, A'm pwys ar gyrn yr arad! HEN FYNYDDWR. (Sir Aberteifi). Ganed ar ganol y mynydd, Adnabu ddefaid ac wyn, Corsydd a chreigiau, afonydd, Rhedyn y bronnydd a'r brwyn. Dim iddo wegi penadur A chelwydd y gwleidydd croch- Gwell oedd y salwaf creadur A fagodd,-o fyllt neu foch. Gwelodd wyth deg o flynyddoedd, A gonest, os tlawd, fuont hwy Ddoe, daeth i lawr o'r mynyddoedd, Ac yno, ni ddychwel mwy. 1916. HEN FORWR. (Er cof am fy hen gyfaill, William Jones, Strud y Llyn, Caernarfon). Dau lygad loewon, ac wyneb lion, Cof oedd lawn o drysorau hen, Chwerthin hyotlach na'i eiriau, bron, A rhyfedd ystyr mewn dim ond gwên. Carai storiau ei dadau gynt, Arglwydd oedd ef ar ddiderfyn stôr- Calon y don a chyfaredd y gwynt, Ysbryd y mynydd ac enaid y mor Neithiwyr, a'i lygaid mor loew ag erioed, Adref o olwg y mor y daeth, Heb boen hir glefyd, na thristwch oed, Dywedodd ei stori, ac yna, aeth. 1917.