Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MOR-DDOLURIAU. 'Rol crynu'n hir dan wae'r gormesol wynt, A'r moroedd mawr, a'u gwyllt ddygyfor hwy, A'm lluchio beunydd at ddigartref hynt, Mewn ing a dychrynfeydd a mynych glwy,- Heddyw mi ddeuthum innau'n ol i dir Gan roi ffarwel i hen hwsmonnaeth braw, A gweld oer wladfa Ofn, drwy'r glesni clir, Mewn diogelwch pell yn cilio draw. Calon na thant i ganu nid oes im, A Buddugoliaeth ni all gofio salm Ni ddeil phiolau Heddwch yr un balm All wella'r heilltion for-ddoluriau ddim I ddyfnaf enaid f'enaid Rhywbeth aeth Sy'n lleisio ofnau 'r mor ar drymllyd draeth. Rhiwbina, 1919. W. J. Gruffydd. MAWL YR ENGYL. Raphael. Can yr haul ymhlith ei frodyr Yn hen eisteddfod Iluoedd ser, Gan ddilyn llwybyr a benodwyd I'w daran rodiad gan Dduw Nêr. Er na fedrant fyth eu dirnad, Eu gwylio 'n nerth i'r engyl sydd Parh a D'aruchel ryfeddodau Yn hardd fel ar y cyntaf ddydd. Gabriel. A chyflym, anghredadwy gyflym, Y treigl y gogoneddus fyd Dilyna nefol fwyn oleuni Ddychryn dudew nos o hyd. Ymdaflu i'r Ian mewn eang ffrydiau Wrth ddyfnion wreiddiau 'r graig mae'r mor, A'r graig a'r mor chwyrnellir ymaith Yng nghyflym daith y nefol gor. Mihangel. Ledled byd ystormydd ruant 0 dir i for, o for i dir, Gan ffurfio cadwyn ddofn weithredol O'i hamgylch dan ffurfafen glir. Fflachia'r mellt fel fflam o ddistryw, Taranau yn eu dilyn sydd, Ond, Arglwydd, parcha Dy genhadon Newidiad mwyn Dy nos a'th ddydd. Ytri. Er na fedrant fyth Dy ddirnad, Eu gwylio 'n nerth i'r engyl sydd Parha Dy holl fawr ryfeddodau Yn hardd fel ar y cyntaf ddydd. 0 Faust' Goethe-Prolog im Himmel." Lluest, Eltmed Prys. Aberystwyth. *• NEW POEMS SONED: GWEDDI IEUENCTYD. Diolchaf it, fy Nuw, am wanwyn oes, Pan ddetgly blodeu teg fy mywyd Ilawn, Am heulwen gwawr ysguba'r niwl a'r gwawn, Ac ysbryd hoenus a ddirmyga loes. Ond pan dry r gwanwyn gwyn yn haf, 0! moes I mi o ffydd fy nhadau'n helaeth iawn A phan â'r haul yn araf i'r prynhawn, Rho nerth i minnau lwybro tua'r groes. Pan dery heulwen Hydref ar y glyn, A mynd o'm ceraint dan y cryman cam, A minnau'n drist ac unig gydVr byw, 0 dysg i'm gofio'r hen freuddwydion gwyn Ennynai'm hienctyd gyda santaidd fflam, — Gad im' dy ganfod Di, fy Nghrist, fy Nuw. U.C.W., Iomerth C. Peate. Aberystwyth. CAMBRAI. Rhwbel, a llaid, ac ambell 'sgerbwd ty, A'r gwynt yn ochain drwy ei ais, a'r glaw Yn amdo drosto. Gan y gwarth a'r braw Mudanrwydd ar bob heol. Man a fu Gartref i rywrai 'n ugain pydew du, Eco sbardynau milwr oddi draw Yn camu 'n lion ei fryd drwy 'r llaid a baw, Derfydd wrth ben y 'stryd ei chwiban hy\ Fan honno gwn fod eglwys, a darn croes, Ac ar y groes Un ddrylliodd milwyr gynt, Ddrylliasant eto. Sigla yn y gwynt Yn ddiymadferth gan ei farwol loes. Ac uwch ei ben mae rhwyg drwy 'r trawstiau bras A thrwy y rhwyg ddarn bach o nefoedd las.. Ffrainc. Cynan.