Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FORD GRON (Golygydd: J. T. JOXES) Fetter House, Fetter Lane, London, E.C.4. (Tel. Centrai 2060) Ffordd yr Awyr. NID ffansi gwag ydyw neges y Dr. Arbour Stephens yn Y Ford GRON y mis hwn, sef bod rhaid i Gymru gael aeroplêns. Y mae'r mynyddoedd yn ein rhannu ac yn ei gwneud yn haws i ogleddwr fynd i Lerpwl nag i Aberystwyth, ac yn haws i ddeheuwr fynd i Baris nag i Gaernarfon. 'Thâl hi ddim fel hyn. Ond dyma'r awyr yn cynnig ffordd i goncro'r mynyddoedd ac i dynnu Cymru'n agos at ei gilydd-yn nes nag y bu erioed. Pe caem-ni drafnidiaeth feunyddiol, rad, rhwng Caergybi, Caernarfon, Aberystwyth, Wrecsam, Aberhonddu, Caerdydd, Abertawe a Chaerfyrddin, fe geid undod a grym newydd ym mywyd y genedl. I hynyna y daw pethau yn y man. Y mae Caerdydd ac Abertawe eisoes yn paratoi aerodromau. Beth am Aberystwyth a'r Gogledd ? Parlys y Glo. YMAE brwydr newydd y glo eisoes wedi dechrau. Glo ydyw sylfaen bywyd hanner Cymru, ond ni allwn beidio â chlywed rhyw eco o'r oes o'r blaen yn yr holl frwydro o'i blegid. Gan mlynedd yn ôl fe gafodd glo ei gyfle ar y rheilffyrdd. Erlidiwyd y march o'i hen deyrnas. Trowyd y priffyrdd yn anialwch. Heddiw dyma olew wedi dyfod i ddial y march, a'r priffyrdd yn atseinio gan fwrlwm bywyd na bu dim tebyg iddo yn nyddiau gogoniant y priffyrdd gynt. Wele olew hefyd yn ymlid glo o'r llongau. Tybed, yn wir, nad parlys angau sydd wedi gafael yn y gwaith glo Ond y mae un gobaith, sef bod i feibion Cymru sy'n wyddonwyr disgIair-a mawr yw eu nifer­ feddwl o newydd am adnoddau'r ardal- oedd glo. Yn sicr y mae yng nghrombil daear y De olud o hyd y gellir creu gwaith a magu cenedl ddedwydd arno. Troer pelydrau'r wybodaeth oran ar y dryswch, heb ystyried na chofio'r fath bethau â pherchnogion, medd- ianwyr tir a Ffederasiynau. Gyda gwaith ym- ennydd a phenderfyniad fe ddeuir o hyd i lwybr newydd. Gwyn fyd y dyn a'i dengys. Gwae India. FEDR y Sais ddim deall India, a chyda chryn bryder y disgwyliwn ffrwyth y Gynhadledd Ford Gron yn Llundain ar ddyfodol y wlad honno. Chwyldro Puritanaidd sy'n ysgubo India. Dyna sy'n esbonio'r nerth newydd-y ffydd newydd yng ngallu'r ysbryd- sy'n galluogi dynion i noethi eu mynwesau i dderbyn bwledi fel y gwnaethpwyd ym Mheshawâr. Y mae Mr. Gandhi, arweinydd can miliwn o Indiaid, yn debycach i Sant Ffransis o Assisi, neu i Dolstoi, nag i arweinydd politicaidd. Meddylier am y dyn bach yma sydd wedi herio Ymerodraeth Prydain, yn eistedd wrth ei droell nyddu ac yn annog ei ddilynwyr nid i ymladd ond i'w disgyblu eu hunain ac i goncro chwantau'r cnawd. Na, ni pherthyn i'r Sais—pob parch iddo- ddeall bywyd ysbrydol fel hyn, a gobaith gwan sy gan y genedI fawr groenddu, garedig hon am lwyddiant buan i'w hymdrech am hunan-barch a chydraddoldeb. Yn 01 i'r Wlad. '^T' MAE llygad y deyrnas ar y JL Dr. Addison, y Gweinidog Amaeth- yddiaeth newydd. Ni wnaeth ei ragflaenydd ddim, ond, a barnu wrth araith y Dr. Addison yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno y mis diwethaf, fe fydd y cynllun amaethyddol a ddygir ger bron y Senedd yn y man ymhlith mesurau mwyaf y sesiwn. Ymddengys mai rhoddi hwb i ffermio a gwella anghyflogaeth ar yr un pryd ydyw bwriad y Llywodraeth. Sonnir am chwyddo poblog- aeth hysbyddedig y wlad trwy roddi sylw arbennig i'r tyddynnod, a rhoddi siawns teg i weithwyr anghyflogedig gartrefu yn y wlad ac ennill bywoliaeth deilwng. Elfen newydd arall yn y Mesur fydd dwyn gweision a morynion ffermydd i mewn i gynllun yswiriant y di-waith. Cyhyd ag y bo'n darparu hefyd ar gyfer sefyd- logi prisiau, fe fydd gobaith yn y Mesur hwn. Y "T ethi Y sbrydol." FE welodd yr Eglwys yng Nghymru lawer tro ar fyd ers pan alwodd Elis Wyn y pedwar esgob yn bedair teth ysbrydol y praidd Cymreig." Erbyn heddiw nid oes neb, ysywaeth, yn ystyried yr esgobion (sydd erbyn hyn yn chwech) yn elfen o werth ym mywyd y genedl. Y diweddar Esgob Owen, Tyddewi, oedd yr olaf i geisio byw i Gymru yn ogystal ag i'r Eglwys. Y gobaith mwyaf sy gennym ydyw bod yr Eglwys ei hun yn anfodlon ar ei hesgobion. Fe roddodd Y Llan, papur swyddogol yr Eglwys yng Nghymru, amlygrwydd i'r datganiad hwn yr wythnos o'r blaen Seisnigrwydd yr Esgobion yw y felltith fwyaf fu ar yr Eglwys yng Nghymru erioed. Yfliydig o gefnogaeth i ddim gwir Gymreig a roddir ganddynt. A ydynt yn ystyried mai esgobion Cymreig ydynt ? Edrychwch ar Daniel Rowlands, Llan- geitho, a'i eglwys yn llawn o addolwyr defos- iynol a hwyliog yn mynd trwy'r Litani ar fore Sul yng nghanol y wlad, wedi cerdded milltiroedd o ffordd tuag yno. A meddyliwch am my Lord Bishop yn ei blas yn AbergwiIi. Seisnigrwydd esgobol fu yr achos o greu yr Hen Gorff. Mae rrefydd y Sais a'r -Cymro mor anhawdd eu huno ag olew a dwfr." Yn awr, Harlech. YR ydym yn llawenhau am Iwyddiant Coleg Harlech. Y mae'r coleg hwn yn ymddangos i ni'n ffrwyth naturiol egnïon diarwybod y genedl, ac y mae ei naws yn hyfryd--diolch i'w athrawon ieuainc deallus, di-lol. Yng Ngholeg Harlech y mae'r ymchwil am wybodaeth yn rhan o'r ymchwil am hapusrwydd. Yr ydym yn cynnig bod Coleg Harlech yn nesáu at yr Eisteddfod. Yr ydym yn cynnig ei bod yn gwahodd y gwahanol eisteddfodau i anfon i Harlech rai o'r talentau a ddarganfydd- ant. A phaham na all yr Orsedd a Chym- deithas yr Eisteddfod roddi nifer o ysgolor- iaethau bob blwyddyn ar ffrwyth arholiadau'r Orsedd — cyhjd â bod y Coleg yn cael ei fodloni ar drefn ac addasrwydd yr arholiadau hyn ? Daw llawer meddwl disglair i'r golwg hefyd yn arholiadau ysgrythur yr enwadau. Y mae'r ffyrdd hyn i gyd yn ffyrdd diwylliant. Ynddynt y cerddodd ac y cerdd rhai sy'n caru goleuni am ei fod yn oleuni a melyster am ei fod yn felyster. Wrth nesáu atynt hwy y meda Coleg Harlech ei gynhaeaf. Ynghanol Adwaith. PETH rhyfeddaf yn yr holl fater," meddai'r Athro W. J. Gruffydd yn ddiweddar, yw nad yw'r Adwaith hyd yn hyn wedi cynhyrchu dim ond beirn- iadaeth. Nid oes ganddi ond y nesaf peth i ddim llenyddiaeth; fel pe ceisid cael gan ddynion fyw ar sôn am wahanol fathau o fwydydd yn lle rhoddi bwyd iddynt." Sôn am Ffrainc yr oedd Mr. Gruffydd, ond ni ellid chwennych gwell disgrifiad o gyflwr llenyddiaeth Cymru heddiw. Y mae'r bobl a allai greu llenyddiaeth wedi troi'n feirniaid bron bob un, a Mr. Gruffydd yn eu plith ac yr ydym yn prysur nesáu at y dydd pan fydd gennym lond gwlad o feirniaid heb ddim ganddynt i'w feirniadu. Adwaith a gynhyrchodd stad fel hyn yn Ffrainc, yn ôl Mr. Gruffydd. Y mae'n rhy amlwg mai yng nghanol cyfnod o adwaith llenyddol y mae Cymru heddiw.