Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU SYTH O'R SWYDDFA Tywysog Cymru, Plas Iago, Uundain, S.W. Eich UCHELDER Brenhtnol. — Yr ydych yn ŵr ieuanc prysur. Mi fyddwch yn ei chychwyn hi yn y gwanwyn am Ddeheudir America i ymweled â Brazil ac Arientina, ac y mae'ch holl ddeiliaid yng Nghymru yn dymuno i chwi bob lwc dda. Ond pan fyddwch yn Arientina, tybed a gofiwch chwi am ddeng mil deiliaid Cymreig y wlad honno, sef gwladychwyr Patagonia ? Y mae'r bobl hyn yn Gymry gwir, yn siarad Cymraeg gyda'u Sbaeneg, ac yn cadw at draddodiadau eu cenedl. 'Wnewch chwi ddweud gair wrthynt a chofio Cymru atynt ? Pleser pur i'r wlad y cymerwch eich teitl oddi wrthi fyddai gwybod eich bod yn gennad drosti hi yn ogystal â thros Brydain. Y FORD GRON. Y Parch. A. E. Jones (Cynan), Penmaenmawr. ANNWYL Gynan. — Yr ydych yn dyfod i fri fel pasiantwr. Bydd gennych basiant mawr yn St. George's Hall, Lerpwl, fis Ebrill nesaf, sef Pasiant y Newyddion Da." Heddwch oedd eich pwnc o'r blaen. Ond paham yr ydych yn cyfyngu'ch dawn werthfawr i bynciau o'r math yma ? Dewch o fyd angylion a gosodwch eich traed ar ddaear Cymru. Trefnwch basiant Cymreig. Gosodwch ger bron ein llygaid ffeiriau a mabolgampau Cymru gynt, a meibion a merched yn y dillad a wisgent o oes i oes. Dangoswch inni, mewn gorymdaith—Buddug yn ei cherbyd rhyfel, y mynach yn ei gell, Owain Glyn Dŵr, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm o'r Nant a'i Anterliwtiau, yr ysgolfeistri crwydr, y medelwyr a'r llaethferched, y sgwïer a'i weision, y Methodistiaid cynnar, a Madam Bevan. A beth am basiant dawnsio yr un pryd­ dawnsiau'r hen Geltiaid, dawnsiau'r Oesoedd Canol, a dawnsiau'r hen ffeiriau ? Chwychwi, yn anad neb, fedr wneud hyn. 'Wnewch-chwi ? Y FORD GRON. Mr. H. A. Marquand, Athro Perthnasau Diwydiannol, Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Annwyl MR. MARQUAND,—Yr ydych wedi'ch penodi i swydd gyfrifol cyn cyrraedd eich deng mlwydd ar hugain. Ein llongyfarchiadau i' chwi a'ch coleg. '¥e wyddoch, yn ddiamau, am y modd yr 'aeth efrydwyr prifysgolion Newcastle a Sheffield allan i edrych y tir yn eu hardaloedd hwy, a chyhoeddi adolygiad manwl, mawr, ar adnoddau'r fro, ac ar foddion a bywyd ei thrigolion. Gwaith gwych oedd y surueys hyn -gwaith gwerthfawrocach na deng mlynedd o siarad gwleidyddiaeth-ac y mae Cymru (y De yn arbennig) mewn dygn angen am yr un peth. Gwnewch hyn yn ddelfryd di-oed. Mynnwch gydweithrediad adran economeg y coleg ac adran y cemistiaid hefyd. Gwnewch economeg a ffeithiau sychion yn arwyddion bywyd i'ch efrydwyr, a dangoswch i Gymru beth sy ganddi, sut y mae'n byw, a'r hyn a ddichon. Y FORD GRON. Mr. Lewis Hughes, Ynad Heddwch, Llaneilian, Sir Fon. ANNwYL Me. Hucнεs,-Níd oes arnoch byth ofn mynegi'ch meddwl. Rai blynyddoedd yn ôl, yn y gymanfa brudd honno a elwir yn Gyngor Sir Môn, fe roesoch dipyn o fraw i'ch cyd-aelodau trwy awgrymu gyda'ch beiddgarwch arferol, y dylid mynd ati o ddifrif i ddenu miloedd lawer o ymwelwyr i Fôn ac i wneud yr ynys yn chwaraefan y cenhedloedd, fel petae. Fe wnaeth Dr. Thomas Jones, y cadeirydd, yn gellweirus, dipyn o hwyl am ben eich awgrym. Ond yr oedd mwy o fenter ac o fynd yn yr awgrym hwnnw nag yn y rhan fwyaf o bethau a gynigir yng Nghyngor Sir Môn. Mr. W. Watkin Davies yn rhoddi Gairo Glod i'r Capel Bach Llwyd Dyma ddarn o lyfr newydd Mr. W. Watìcin Davies, yr hanesydd, A Wayfarer in Wales (a gyhoeddir gan Methuen, pris 78. 6d.). ) ETH yw eich atgofion chwi am JD) Gymru ? meddwn rywdro wrth ddyn fu yno am wyliau am y tro cyntaf. Bryniau hardd a chapeli hyll," oedd ei ateb parod. Mewn un ystyr, yr oedd ei ddisgrifiad yn un cyfiawn, oherwydd y mae'n anodd edrych i unrhyw gyfeiriad yng Nghymru heb weld naill ai bryn neu gapel. Ac nid gwiw gwadu chwaith fod y naill, at ei gilydd, yn hardd iawn, a'r llall bron bob amser yn dra diolwg. Er hynny, hoffwn roddi gair o blaid yr adeiladau bychain llwyd yna, na ellir yn aml weld rhagor rhyngddynt hwy â'r beudai cyf- agos. Er nad oes gan gapel gwledig Cymru ddim byd tebyg i wir harddwch eglwys ben- trefol Lloegr, y mae ganddo lawn cymaint o swyn i'r sawl sy'n deall ei rin ac y mae wedi cymryd rhan bwysicach o lawer, 0 leiaf yn ystod y ganrif olaf, ym mywyd y gymdeithas fach y mae'n ei gwasanaethu. Peidiwch ag anghofio bod y capel, yn yr ardaloedd gwledig í gyd (a gwledig yw Cymru gan mwyaf), yn rhywbeth llawer mwy nag adeilad wedi ei nëilltuo at addoliad cyhoeddus Meddyliwch dros y pwnc eto, a deuwch ag ef ger bron yn ei lawn nerth. Cofiwch ar yr un pryd am werth masnachol yr iaith Gymraeg. Y mae pobl yn hoffi mynd i wledydd cyfandir Ewrob ar eu gwyliau oherwydd swyn yr ieith- oedd a'r arferion gwahanol. Pe gellid argyhoeddi Lloegr fod Cymru'n wlad estron, trwy wneud pob dim yn Gymraeg-hyd yn oed seins y siopau-fe gai Saeson ac eraill ddi- ddordeb newydd yn ein gwlad ac fe ddeuent atom yn lluoedd gyda'u harian. Beth am ddeffro Môn i ledio'r ffordd yn hyn o beth ? Y FORD GRON. Mr. W. Charlton Cox, Prifathro'r Ysgol Sir, Aberdar, Morgannwg. SYR,-Bechgyn o'ch ysgol chwi a enillodd bedair o'r tair ysgoloriaeth ar ddeg a gynigiai'r Wladwriaeth i Gymru. Ein llongyfarchiadau i chwi a'ch staff. Gobeithiwn y caiff eich ysgol chwi enw yng Nghymru tebyg i'r enw sy gan Ysgol Ramadeg Sheffield yn Lloegr-ysgol sy'n dwyn rhai o ysgoloriaethau gorau prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt er cystadlu â rhai o'r public schools blaenaf. Yn ôl pob hanes, yr ydych nid yn unig yn cynhyrchu rhai bechgyn disglair, ond hefyd yn cynhyrchu cannoedd o ddinasyddion deallus. Daliwch ati. Y FORD GRON. ef yw'r unig ganolfan cymdeithasol, ac unig ganolfan diwylliant hefyd. Ynddo y cynhelir cyngherddau, cyfarfodydd llenyddol ac Eistedd- fodau. Traddodir darlithiau ynddo a chynhelir aml barti tê ac ymgomwest. A dweud y gwir, y mae'n deml, yn brifysgol ac yn glwb gyda'i gilydd. Y mae llawer o ardaloedd yng Nghymru, ym mannau gwyllt y Gogledd gan mwyaf, lle nid oes pentref yn agos. Ceir ffermydd wedi eu gwasgaru ryw filltir neu ragor oddi wrth ei gilydd. I'r holl ffermydd hyn, yma ac acw dros amryw filltiroedd o dir, yr unig fan cyfarfod yw'r capel bach llwyd,diolwg bid siwr, ond er hynny unig arwydd cymdeithas a diwylliant ymhlith y bobl anghysbell hyn. Y mae'r pethau hyn yn newid, wrth gwrs, heddiw. Rhed y bus i bob man Ue y mae ffyrdd, ac erbyn hyn y mae'r rhan fwyaf o ffermydd a'u teuluoedd yn medru ymweled â'r pentref cyfagos yn bur fynych. Hefyd, y mae Sefydliadau Merched a Dosbarthiadau Allanol o fewn cyrraedd. Dwg y rhain yn awr beth o'r cyfrifoldeb oedd gynt yn disgyn yn gyfangwbl ar ysgwyddau'r capel a'i swydd- ogion. Cawn weld sut y bydd pethau yn y dyfodol; ond rhaid peidio byth ag anghofio gwaith godidog Bethelau bach Cymru yn y dyddiau a fu.