Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AIL Adeilader Y RHONDDA Y mae perygl i afonydd y Rhondda godi eto fel y llynedd a chreu dinistr yn y trefi a'r pentrefi. Y mae tir a thain suddo 0 ddydd i ddydd, a miloedd o bobl yn byw mewn ofn. Chwarae plant, meddir,ydyw'r ychydig a wnaethpTÞydigeisio'u diogelu. Ail-gynllunio'r trefiydyw'r unigymwared 1Q)OB tro y byddaf yn clywed glaw yn JD) ysgubo'r ystrydoedd ac yn curo ar fy ffenestr, daw dyffryn y Rhondda yn fyw i'm meddwl. Tir trychineb yw'r dyffryn hwnnw. Dyma wlad cyffro diwydiannol, gwlad mynyddoedd treigl, tlodi, anobaith a dilyw di-drai. Treulia miloedd o drigolion y Rhondda fwy na hanner eu hoes mewn ofn a dychryn. Y maent wedi cynefino ers llawer dydd ag ansicrwydd bywoliaeth. Gwyddant am chwerwder angen, a dysgasant wenu yn wrol er gwaethaf pob anhap. GWyr y glowr yn dda am law a gwlyban- iaeth. Gweithiodd ganwaith yn y pwll a'r dyfroedd yn treiglo o'i amgylch. Gwelodd yr afonydd yn torri dros eu glannau gan fygwth ei gartref a'i deulu. Gwlychodd at ei groen. Collodd ei iechyd. Y mae einioes dyn yn rhy fyr a'i ffawd yn rhy annedwydd i bwysleisio manion o'r fath. Storm y Uynedd. Y llynedd torrodd storm arall dros ddyffryn y dagrau. Yn sydyn fel taran y daeth. Dis- gynnodd glaw am ddyddiau a nosweithiau lawer. Llanwyd llynnoedd y mynydd. Ganol nos, dyma'r afon yn torri dros ei glannau gan ddryllio'r cloddiau ac ysgubo drwy'r trefi fel corwynt. Yr oedd coed, ac anifeiliaid, dodrefn y tlawd, drysau bythynnod llwm, llaid, Beibl mawr rhyw fam weddw, tunelli o gerrig o gôl y mynydd, trysorau Natur a thrysorau prin dynion—oll yn offrwm i gynddaredd yr ystorm. Yn y tai, yn y tywyllwch, neu wrth olau gwan cannwyll, gwyliai'r glowyr a'u teuluoedd y dyfroedd yn esgyn. Wylai plant. Gweddïai gwragedd. A'r dyfroedd yn esgyn o hyd, fodfedd wrth fodfedd, yn yr ystafelloedd isaf, i fyny'r grisiau, hyd yn oed i'r ystafelloedd gwely. ŠØ darnio a dryllio. Muriau'n hollti. Cartref y cymerwyd blynyddoedd i'w gasglu ynghyd yn yffion. Bwyd y plant, y biano a brynwyd i galonogi'r ferch hynaf, dillad dydd Sul y glowr, llyfrau'r mab ar gyfer y Coleg— y cwbl yn lludw ar wyneb y llifeiriant. Clywch y Glaw. Y mae blwyddyn union er pan dorrodd gwawr anobaith, fel hyn, yng nghartrefi'r Ystrad a'r Porth a Threhafod yn nyffryn y Rhondda. Nid unwaith na dwywaith ond ar bedwar tro gwahanol y bu'r teuluoedd hyn yn gwrando ar y glaw'n disgyn ac yn gwylio'r gyflafan yn eu goddiweddyd yn ystod y gaeaf diwethaf. Cynhyrfwyd yr holl wlad gan y trychineb y llynedd. Agorodd cydymdeimlad y ffordd i galonnau ac i logellau'r werin, a rhoddwyd nodded cyflym i gannoedd fu drwy'r drin. Aeth yr haf heibio, a dyma'r gaeaf unwaith eto. Dyma gwmwl yn gordoi'r fîurfafen. Gwrandewch ar y glaw. A ddaeth gwaredig- aeth i drígolion y dyffryn anhapus hwn ? Wele'r ateb. Cafodd y cynghorau Ueol ym Mhontypridd a'r Rhondda gymorth ariannol gan y Llywodraeth i atgyweirio rhan o alanastra'r storm. Cliriwyd gwelyau'r afon- ydd. Ail-adeiladwyd muriau ar y glannau. Codwyd rhai muriau newydd. Gan J. C. Griffith Jones Perygl Eto. A yw hynny'n ddigon ? Efallai ei fod-dros dro. Nid oes gan yr awdurdodau lleol ddigon o arian i wneud ychwaneg. Y mae eu cydwybod hwy yn dawel. Ond arhoswch Mae pwerau cryfach na chynghorwyr wrth waith. Mae popeth yn suddo-tir, tai, bryniau, o ddydd i ddydd yng nghwm rhyfedd y Rhondda. Ac y mae'r afonydd yn llenwi bob awr gan rwbel a lludw o domenni'r gweithfeydd. Nid yw hunlle glyn y cysgodion heibio eto. Os daw glaw parhaus y gaeaf hwn, os cyfyd y tymhestloedd yn eu cynddaredd, mae perygl i'r gyflafan gael ei hail-adrodd. Rhaid i Gymru MAE Sir Aberteifi yn un o'r siroedd hynny sy megis yn gofyn am gael eu datblygu. Nid oes glannau môr harddach na'i glannau hi, na pherfeddwlad mwy swynol na'i pherfeddwlad hi, ac fe ddylai fedru denu ati ei hun luoedd o bobl sy'n hoff ganddynt wyliau tawel, melys. Ond prin ydyw ei mannau lletya, a thra diymhongar ydyw'r ychydig sy ganddi. Dyflryn Aeron ydyw un o'r prydferthaf yng Nghymru, ac y mae Aberaeron yn dyfod yn fwy poblogaidd o hyd fel Ue i fyw. Ceir bordor o dir gwastad ar hyd glan y môr oddi yno at Lanrhystyd, a phrin y gellid dymuno lle gwell i godi tai a bungalows arno neu i gael mcysydd chwarae. Y mae'r bryniau o'r tu ôl yn gysgod da rhag min gwynt y dwyrain, a glannau'r môr mewn Uawer Ue yn wych i ymdrochi. Hedfan i Geredigion. Y mae'r bryn a elwir y Mynydd Bach yn fath o fwrdd-dir. Pan ddaw hedfan i fri yng Nghymru, a phan fydd aerodrôm Rhos Haminiog wedi ei datblygu'n iawn, fe fydd y Mynydd Bach a'i ben fHat yn lIe go brysur. Rhaid i Gymru gael aeroplêns, er mwyn ei chadw-dde a gogJedd-yn agos at ei gilydd, yn ogystal ag er mwyn ei masnach a'i llwyddiant bydol. Nid oes eisiau llawer o ddychymyg i rag- weld y dydd pan fydd pobl yn ffоi o lwch a thwrf y trefi ac yn hedfan i'r gorllewin-i Geredigion-lIe y mae llawnder o awyr iach a golygfeydd gorffwyslon yn eu disgwyl. Ond cofier mor bell ydyw Ceredigion ar hyn o bryd o ddeall ei manteision ei hun. Dyna'r Cei Newydd. Pe bai'r dref hon mewn unrhyw Dywed gwr profiadol wrthyf nad yw hynny'n ddim ond mater o amser, ac nad yw'r mesurau sydd wedi eu cymryd i wynebu'r broblem hyd yma yn ddim ond chwarae plant. 'Fedr tarian bapur ddim cadw corwynt draw, na chastell tywod wrthsefyll tonnau'r môr. Rhaid symud o ddifrif, a hynny yn fuan. Dylai'r awdurdodau dynnu sylw y Wladwriaeth at berygl y bobl. Dylid ail-gynllunio'r trefydd nes codi'r rhannau sydd yn îs na'r afon i ddiogelwch. Oni chymer hyn amser, oni chymer hyn arian ? Cymer, ond y mae miloedd o bobl yn byw mewn ofn a dychryn bob tro y cilia'r haul ac y disgyn cawod o law. Ac y mae yn agos i gan mil allan o waith yn Ne Cymru—pymtheng mil ofyddin anobaith yn y Rhondda ei hun. Er mwyn hyn, os nad rhag cywilydd i Gymru, taraner y neges o Gaergybi i Gaerdydd. Gael Aeroplens Gan Dr. G. Arbour Stephens, Gyn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Abertawe. sir arall yng Nghymru, buasai ei dŵr a'i threfn- iadau glanweithdra wedi eu moderneiddio ers llawer dydd, a thai hyfryd a chysurus wedi eu codi er lles y lluoedd fyddai'n barod i heidio i'r fath Ie. Y Cei Newydd ar ol. Dichon bod pobl y Cei Newydd yn anni- bynnol, a bod yn well ganddynt gadw y lle yn ddistaw ac anlanwaith, yn hytrach nag yn drefnus ac wedi ei ddatblygu'n dda. Ond dylent gofio am eu cyfrifoldeb am bobl eraill y sir ac am y siawns gwell fyddai gan eu hardal- oedd llai deniadol hwy pe gwnâi'r Cei Newydd ei ddyletswydd. Y mae Tregaron hefyd yng nghanol llu o lecynnau hyfryd 11e y gellid treulio gwyliau haf hyd eithaf boddhad y galon. Bu'n denu pysgodwyr ers blynyddoedd, ac fe ellid gwneuthur yr atyniad hwn yn fwy pe dechreuid bridio pysgod yn yr amryw lynnau o amgylch. Yn neau y sir, pe cai ardal Gwbert ei dat- blygu'n ddeallus, gallai ddyfod yn Ue poblog- aidd ymhlith rhai fyddai'n chwilio am iechyd a gorffwys. Y mae yma lawer bau a chilfach deg a thywod, ond rhad ar y eyfleusterau. Pe bai gan bobl Sir Aberteifi fywiogrwydd a dewrder eu cefndryd yng Nghernyw-lle y mae'r pentrefi mwyaf anobeithiol wedi eu troi'n drefi glanwaith-buasai eu safle heddiw'n llawer gwell nag y mae. Dibynna'r cwbl ar aUu pobl Ceredigion i weithio gyda'i gilydd.