Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Major HAMLET ROBERTS yn cofio DIGRIFWCH Y DRIN Bu Major Hamlet Roberts, y bar- gyfreithiwr, yn swyddog ar y 6th Royal Welch Fusiliers ar hyd y rhyfel. Bu'n ymladd gyda'r gatrawd yn Gallipoli, yn yr Aifft, ac ym Mhalesteina, ac yr oedd y bechgyn yn ei addoli. Dyma ychydig o hanesion ganddo am himnor y Cymro yn y rhyfel. COF da gennyf am Eisteddfod Gadeiriol Min yr Anial ar Wyl Ddewi, 1916. Yr oedd yr hyn oedd weddill o'r bataliwn wedi dyfod o GaUipoli ac yn disgwyl am ddynion newydd yn Wardân, yr Aifft. Yno y bu yr Eisteddfod. 'Roedd gwobr yn cael ei chynnig am araith ddifyfyr—у testunau'n cael eu dodi ar ddarnau o bapurau mewn helmet a phob ymgeisydd yn pigo'i ddernyn. Y testun a ddaeth i ran Parry o Fryn- siencyn (bachgen a laddwyd yn ddamweiniol ar ôl hynny) oedd Yr Aifft," a dyma sut y dechreuodd Parry ei araith Yr Aifft. Fy nghyd-filwyr, yr Aifft ydyw'r testun. Fe ddywedir i mi fod pla o lau yn y wlad yma ganrifoedd yn ôl—y Pla Llau, yn ôl yr Ysgrythur. Ac, i ddeud y gwir wrthych chwi, mae yna rai ohonyn'-hwy yn fy nhent i hyd y dydd heddiw." William Jones. A R fin anialwch Sahara yr oedd Wardân. Ryw noswaith, pan oedd yr haul yn machlud, mi sylwais fod y dynion yn sefyll yn dwrr gyda'i gilydd ac yn syllu tua'r bryniau tywod ar y dde. Gwelais mai'r hyn oedd yn tynnu eu sylw oedd convoy o gamelod, yn cael eu harwain gan swyddog o Awstralia, a hwnnw'n ffeindio'i ffordd wrth ei gwmpas ac yn gadael hyn-a-hyn o gamelod ym mhob gwersyll. Dyma'r rheng hir o gamelod-tua mil ohonynt—yn dirwyn heibio inni, ac un Arab yn gofalu am bob pâr o gamelod. Dyma finnau'n troi at yr anfarwol William Jones, o Lanerchymedd, Sir Fôn, oedd wrth fy ymyl, ac yn digwydd dweud Golygfa hardd, William Jones." Ac meddai yntau Hardd iawn, syr hardd iawn, wir. Ac i feddwl fy mod i wedi cerdded lawar gwaith hanner y ffordd o Lanerchymedd i Langefni i weld un o'r diawliaid Brenin mawr, Syr G WERTHWR penwaig (ysgaden) a grîn groser oedd William Jones in civil life, ac yr wyf yn cofio'n dda y tro cyntaf imi gwrdd ag ef. Yn Gallipoli yr oeddem-ni. Dyma filwr yn mynd heibio i'm dyg-owt i dan gario dicsi neu ddau. Gwenodd, a dweud Good morning." Mi feddyliais mai Sais oedd o, a dyma fi'n dweud Good morning. Ah, yes, you belong to the 7th, don't you ? Brenin mawr, syr, nag ydw' meddai yntau. Ond o Lanerchymedd yr ydw' i 'n dwad." Bonllef o Chwerthin. DRO arall-yn yr Aifft eto-yr oeddem yn aros mewn gwersyll nes i filwyr eraill ddyfod i gymryd lle'n gwylwyr ni. Wedi i's lleill gyrraedd, dyma ni'n ei chychwyn hi'n ôl am ein byddin ein hunain. Yr oedd y tywod yn foddal a cherdded yn gryn boen. Yn sydyn iawn dyma fonllef fawr o chwerthin o ben ôl y rheng. William Jones oedd yno, a dyma beth a glywais i Mi wn i 'n iawn sut y bydd hi, hogiau, wedi imi fynd adra' i Lanerchymedd. Mi af i'r moddion, a dyna lle y bydda'-i yn eiste' ym mhen draw'r capel. Mi fydd y pregethwr yn sicir o gyfeirio yn ei bregeth at Wlad yr Addewid-gwlad Canaan. Mi fydda' inna' ar hynny yn codi ar 'y nhraed ac yn gofyn iddo-fo Hei, machgan-i, 'fuost-ti yno erioed ? Mae-o'n bownd dduw o ddeud na fu-efô ddim, hogia'. Wedyn mi fydda' innau'n deud Wel, tyrd o'r fan vna i wneud lle i un sydd wedi bod." Hwyl fawr wedyn ymhlith yr hogiau, a'r daith yn peidio â bod yn boen. Gair o Glod. pAPT. JIMMY MORGAN, mab offeiriad Bryngwran, Sir Fôn, oedd fy nghyd- swyddog yn y 6th Battalion, a swyddog ardderchog ydoedd hefyd. Un diwrnod yr oedd William Jones, yr anfarwol, yn ceisio mynd i lawes Capt. Morgan. 'Wyddoch-chwi beth, Capten Morgan," meddai W.J. yn ei ddull mwyaf deniadol, 'fûm-i erioed yn mynd â phennog yn ôl 0 Fryngwran acw. Un cynddeiriog am benwaig ydy'ch tad." Dro arall yr oedd Capt. Morgan wedi digio William Jones am rywbeth, a dyma William Jones yn dyfod ataf fi i ddweud 'i gwyn. Ac meddai'n ddolurus ar ddiwedd ei stori Aml i fanana rois i iddo- fô (sef Capt. Morgan) pan oedd-o'n hogyn am ddal pen 'y ngheffyl i y tu allan i'r Iorwerth." (Yr Iorwerth-tafarn ym Mryngwran.) Yn y Carchar. PAN oeddwn i 'n swyddog trefn yn Rushden, Sir Northampton, rhan o'm gwaith oedd ymweled â'r clinc (y carchar) gyda'r nos, a'r Capt. Morgan (Lieut. Morgan yr adeg honno) gyda mi. Yr oedd un milwr yn y carchar am ei fod wedi yfed mwy nag oedd yn dda iddo, a phan welodd hwnnw Morgan, dyma 'fô'n edrych arno'n syn, ac yn dweud Mab person Bryngwran, yntê ? O, Mr. Morgan annwyl, be' ydych chi wedi- i wneud i gael dwad i Ie fel hyn ? Gofìd John Jones. pAN oeddem ni yn y' ffosydd yn Gallipoli yr oedd digon o fwyd—о ryw fath­i'w gael. Ryw fore mi welwn ddau o'n milwyr ­John Jones, o Sir Fôn, a Dic Kent-yn mynd heibio i'm dyg-owt i â dau ddicsi'n llawn o fwyd wâst ganddynt. GWOBRAU AM STRAEON. Rhaid bod miloedd o straeonfel hyn am hiwmor y Cymry i'w cael— straeon am ddigrifwch ac ysgafnder calon yng nghanol perygl a phoen. Y mae'r FORD GRON yn cynnig 7s. Och. o wobr am y stori orau a gyhoeddir bob mis am y tri mis nesaf, a 2s. 6ch. am BOB stori a gyhoeddir. Rhodder enw'r milwr a'r gatrawd a'r man a'r lle os gellir. Dymunir hefyd gyhoeddi enw y sawl sy'n anfon y stori. Os oes gwrthwynebiad, dyweder hynny. Ysgrifennwch eich stori yn eich geiriau'ch hun, heb boeni dim am y sbelio. Fe ofala'r swyddfa am roddi popeth yn ei le. Anfonwch y straexm at Olygydd Y FORD GRON, Fetter House, Fetter Lane, Llundain, E.C. 4. Yr oedd John Jones yn edirych yn bur ddigalon, a dyma fi'n gofyn iddo beth oedd yn aflonyddu ar ei gysur o. Gorfod lluchio hwn," meddaiyntau. On'd ydy' hi'n resyn na chawn ni gadw mochyn mewn Ue fel hyn ? Y Clochydd Bach. CYMERIAD diddorol ae ysgafn-galon arall gyda ni oedd y Clochydd Bach, o Lanllyfni, Arfon. Un bore pan oeddem ni yng Nghaergrawnt, fe ddaeth y Brenin yno i edrych y gatrawd. Ac wrth gwrs yr oedd pawb ar eu gorau. Dyma ni i gyd yn sefyll yn ein rhengau, a minnau'n digwydd bod yn ymyl y Clochydd Bach. Wedi i'r Brenin basio heibio inni, dyma fi'n gofyn i'r Clochydd Wel, Clochydd, beth wyt ti'n feddwl o Ymherawdr India ? Wel bôbol annwyl," meddai yntau, on'd ydy' o'n debyg i Wil Mêt (cigydd yn y pentref acw). Cofio am y Ffair. TRO arall yr oeddem ni'n cael kit inspeclion fach ar ochr stryd yng Nghaergrawnt. Dyma'r adeg pan fo rhaid i bob milwr ddangos ei becyn, er mwyn i'r swyddog weld bod popeth yn ei le, heb ddim ar goll. Myfi oedd yn edrych y pecynnau y diwrnod hwnnw. Dyna lle'r oedd pob milwr ar ei liniau ar y llawr a'r pecyn agored o'i flaen. Cyn cyrraedd y Clochydd Bach yr oeddwn i 'n gweld ei fod wedi colli ei frws siafio ac wedi cael benthyg un gan ŵr y tŷ lodgin. Ond cyn imi fedru dwoud gair, yr oedd y Clochydd ar ei liniau yno o flaen ei bac, wedi cofio am Ffair Llanllyfni, ac meddai 'fô Wel, Major Roberts, ydach chi am brynu rhywbeth genny' ? Hyd y dydd heddiw yr wyf yn ei weld, a'i ddau lygad bach yn perlio.