Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MR.LLOYD GEORGE, GYMRO DRWY'R GWBL I ddeall Mr. Lloyd Çeorge heddiw, meddai'r Cownt Sforza yn yr ysgrif hon, rhaid dea/l y Lloyd George ieuanc a ddywedodd wrth y Cymry Fy nghyfeillion, fy nghydwladwyr, y mae dydd meibion y bythynnod wedi gTbawrio." NID oes dim yn fwy an-Seisnig nag λ athrylith David Lloyd George. Teimlwn hyn o hyd ac o hyd yn ystod y blynyddoedd ar ôl arwyddo Cytundeb Versailles, pan arferai penaethiaid y Llywod- raethau Cyfyngedig gyfarfod am wythnosau mewn cyfres o Uchel Gynghorau. Gydag Asquu;n y bu gwrthdaro mawr cyntaf Lloyd George. A pha beth oedd yn fwy Seisnig nag Asquith a'i Wait and See ? Bu gennyf gydymdeimlad personol dwfn â Bonar Law bob amser, ond methwn beidio â theimlo, pe gellid rowlio Lloyd George a Bonar Law i'w gilydd a'u gwneud yn un-y Sgotyn a'i fam oer a'i ddirmyg at boblogeidd-dra, a Cymro at athrylith fellt-fe lunid gwladwein- ydd rhyfeddol ohonynt. Y mae'n ddiamau y collid, wrth eu cymysgu, lawer o aruthr chwim- dra meddwl y Cymro. Ond mi glywais rai o arweinwyr Rhyddfrydol Prydain yn cwyno mai'r hyn a arweiniodd i ddirywiad y Blaid Ryddfrydol oedd effeithiau dinistriol v dilvw syniadau a ddisgynnodd arni o fryniau Cymru gormod o syniadau i hen blaid glasurol. Ai Rhyddfrydwr ? Ond a ydyw Lloyd George yn wir Ryddfrydwr yn ystyr hanesyddol y gair ? Y mae gwýr fel Lloyd George, yn sicr, yn teimlo'n eithaf cartrefol yng nghanol yr awyrgylch wleidyddol anferth, gyson, a grewyd yn y meddwl Pryd- einig gan Ryddfrydiaeth. Ond bu Rhydd- frydiaeth mor fuddugol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed nes ei bod bron wedi colli ystyr ei bod, fel plaid. Pa enw bynnag a ddodant arnynt eu hunain, y mae pob gwleidydd sy'n meddwl yn Seisnig, o Baldwin at MacDonald, yn Rhyddfrydwyr. Ac os hyn, wedi'r cwbl, ydyw pen buddugol- iaeth plaid, y mae'n golygu hefyd ei dirywiad ym maes ymarferol gwleidyddiaeth. Ei Farn am Rydychen. Ond ychydig o wyr sy mor bell à Lloyd George oddi wrth weddillion nodweddion y Blaid Ryddfrydol. Codwir y nodweddion hynny heddiw gan un neu ddau'n unig gan Arglwydd Grey, er enghraifft, a chan ysgrifen- wyr gwleidyddol fel Gilbert Murray neu Spender, golygydd y Westminster Gazette gynt. Gwŷr tra diwylliedig oeddynt, yn gwybod eu Horas a'u Fyrsil ar dafod leferydd, a chanddynt, mewn gair, beth o'r meddwl uchelryw a'u gwna'n dwrr o bendefigion, megis yr oedd Gladstone, a wrthododd deitl bob amser, yn bendefig. Nid ydyw'r peth yna gan David Lloyd George. Pan ymwelodd ef à Rhydychen am y tro cyntaf, mi deimlodd y gagendor, ac mi achubodd ei falchter trwy ddweud Y mae'n dda iawn genny' na ddeuthum i erioed yma mi fuasai'r 11e yma wedi aros hefo mi ar hyd fy oes 'fuaswn i byth wedi medru dyfod ataf fy hun, na bod yn fyfi fy hun." Gan y COWNT SFORZA Gweinidog Tramor yr Eidal gynt, yn ei lyfr newydd, Makers of Modern Europe (Elkin Mathews, 2Is.) Trwy ddywedyd hyn mi gyfaddefodd fod gan yr arweinwyr eraill ddolen yn eu cydio â'i gilydd — dolen yr oedd ef hebddi. Ysbryd Messiaoaidd yn ei Ienwi." Y mae Lloyd George yn Radical. A chan ei fod yn Radical, ac yn Gymro, a rhyw ysbryd Messianaidd aneglur yn ei lenwi, ni fedr byth ymfodloni ar y pethau syml y gall plaid cu gwneud. Gall ymddangos yn awr yn frwd- frydig ynglŷn â'r Blaid Ryddfrydol ond tactics yn unig ydyw hyn, yn wyneb yr anhawsterau sy'n bod yn ei erbyn ef yn bersonol, yn y maes Ceidwadol yn ogystal ag yn y maes Llafur. Y mae Lloyd George bob amser yn meddwl am gynlluniau y tu hwnt i ffiniau plaid gwêl fudd y genedl, gwêl syniadau cydwladol, ac er eu mwyn hwy, os daw cyfle, y mae'n barod i fathru dan draed draddodiadau, dogmâu, athrawiaethau, ac efallai ymrwymiadau hefyd. Carchar i'r Kaiser." Cyfeirir yn fynych at ddywediadau Lloyd George yn ystod etholiad 1918, dywediadau oedd yn groes i'w ddaliadau cynt ac wedyn, megis Y Kaiser yn garcharor yn Nhŵr Llundain Yr Almaen i dalu holl iawn rhyfel," hyd y geiniog olaf," ac felly ymlaen. Nid oedd hyn oll ond cydnabod yr ystrywiau tactics a fabwysiedir gan arweinwjr a ddechreu- odd eu gyrfa yng nghanol rhyw frwdfrydedd angerddol. Arweinia y gwyr hyn, yn nhreigl amser, i ryw fath o hud-chwarae na fuasai dyn â thipyn o anffyddiaeth bendefigaidd ynddo byth yn ymostwng ato. O ran hynny, hyd yn oed yn y cyfnod hwn, nid oedd Lloyd George mor bendant ag yr ym- ddangosai i dyrfaoedd gwyllt Prydain a'r Cyfandir. Yr oedd mynych os ac ond doeth yn hem o amgylch ei haeriadau mwyaf croch. Ond yr oedd yn llefaru'r rhain gyda llai o bwys- lais, mewn dull sy'n dangos ei welediad pell yn hytrach na'i ddewrder. Mi gânt dalu'r geiniog olaf," meddai'n groch. Ac yna, yn dawelach-mor dawel nes i lawer beidio â chlywed-ychwanegodd os medrant dalu hynny heb beryglu adferiad Ewrob." Neu "Mi gânt dalu'r uchafswm." Ac yna, dan ei lais ond fe benderfynir yr uchafswm gan wyr cyfarwydd byd yr arian." Yn ystod y diwrnodau hir a dreuliasom gyda'n gilydd yn yr Uchel Gynghorau, mi soniais wrtho am y gwahaniaeth yma yn ei dôn a'i lais. Tybed, meddwn, na fuasai agwedd gadarnach ar ei ran wedi bod o well gwasanaeth i ddyfodiad heddwch gwir ? Na," meddai wrthyf ym Mharis unwaith, pan oeddym yn bwyta gyda'n gilydd yn ei hotel ef, y Crillon. "Na, yr oedd hi'n rhy fuan i ddisgwyl i'r tyrfaoedd oedd wedi gwaedu cymaint fedru ad-feddiannu eu cytbwysedd moesol. Yr oedd rhaid inni fodloni'r dyrfa; ond, ar yr un pryd, ddodi yn y Cytundeb frawddegau i ganiatáu ei ddiwygio ymhellach ymlaen." Bore'i Oes. 'Fedrwn i ddim peidio â meddwl na fuasai Lloyd George mor glyfar ac mor wisgi oni bai iddo gychwyn ei yrfa mewn awyrgylch o frwd- frydedd Messianaidd. Pan ddechreuai fod yn glyfar, âi'n rhy bell. Rhag gosod gormod o bwys ar drafodaethau diddiwedd a chwyldroadau meddyliol Lloyd George yr oes hon, rhaid cofio'r Lloyd George ieuanc. Yn ystod ymgyrch ei etholiad cyntaf, dywedasai wrth y tyrfaoedd Fy nghyfeillion, fy nghydwladwyr, y mae dydd meibion y bythynnod o'r diwedd wedi gwawrio Nid brwdfrydedd terfysgwr oedd hyn. Teimlai'n ddwfn. Ac yn llawn o frwdfrydedd Beiblaidd yr aeth y twrnai ieuanc, a ddysgasai ychydig Ladin gwael â maith lafur yn ei bentref i Sant Steffan. Uythyr at ei Ewythr. Ar ôl y ddadl seneddol gyntaf ar fesur dirwest, dyma Lloyd George yn ysgrifennu at yr ewythr annwyl oedd wedi eu helpu i ddysgu i fod yn dwrnai Nid oedd dim angerdd, dim difrifwch, yn y ddadl yma. Nid yw Ty'r Cyffredin fel pe bai'n deall o gwbl anferth ddrwg meddwdod." Dyna'r Lloyd George gwir. Er gwaethaf ymddangosiadau, er gwaethaf y triciau a ddysgodd dynion iddo-triciau a ddysgodd mor dda nes ei bod yn ben meistr arnynt­y mae wedi aros o hyd yn ffyddlon, yng ngwaelod ei galon, i ddelfrydau dynol, ac y mae'n dodi'r delfrydau hynny o flaen pob teyrngarwch i blaid. Dyna paham y mae'n Radical. Y mae sioncrwydd ei ystrywiau, ei anghyson- deb mewn cjd'eillgarwch, ei fedr areithyddol, wedi rhoddi iddo enw amheus, hyd yn oed ymhlith y rhai a ddylai fod yn gyfeillion gwleidyddol iddo. Ond nid oes gan rai fel myfi, sydd mewn safle i'w farnu o'r tu allan i ddicter a drygnwyd politics plaid, amheuaeth o gwbl nad ydyw wedi parhau bob amser yn drwyadl ffyddlon i ddelfrydau heddwch ymhlith y cenhedloedd, cynnydd cymdeithas. a brawdoliaeth dyn.