Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Credaf yng Ngorsedd y Beirdd Achoswyd tipyn o syndod pan ym- unodd Mr. E. Prosser Rhys, Aber- ystwyth. a Mr. Caradog Prichard, Caerdydd, â Gorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fis Awst. Ei gwrthwynebu'r oedd y ddau cyn hynny. Mr. Rhys ydyw golygydd Baner ac Amserau Cymru." MI sylwais fod efallai hanner dwsin o bobl yng Nghymru yn sefyll o'r tu allan i Orsedd y Beirdd o argyhoeddiad. Am y lleill, edmygwyr vr hanner dwsin ydynt—gwŷr a ruthrai i'r Orsedd heb ymresymu dim petai'r hanner dwsin eu humain yn ymuno â hi. Ac am y gwŷr sydd o'r tu allan o argyhoedd- iad, nid wyf yn gweled bod pwynt yng nghŵyn rhai ohonynt parthed hynafiaeth yr Orsedd. Nid oes neb heddiw yn honni ei bod yn hen, ae nid yw o ddim pwys pa un ai hen ai ifanc ydyw, od yw'n bosibl peri i'r sefydliad was- anaethu diwylliant yng Nghymru heddiw. CORONI MR. E. PROSSER RHYS YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL PONTYPWL, 1924. Ar ei law aswy, Tywysog Cymru ar ei dde, yr Archdderwydd (Eljed) y tu 61, Syr E. Vincent Evans ac Arglwydd Treowen. Dyna safbwynt yr Athro W. J. Gruffydd, mi dyhiaf, a'r unig safbwynt rhesymol, hyd y gallaf i weled pethau. Nid wyf i 'n hidio llawer am basiant yr Orsedd. ond os gwneir rhywbeth hardd ohono— ac y map Capten Crawshay bron â llwyddo yn hyn, mi gredaf-ni warafunaf i i'r beirdd eu gorymdeithio. Ond ar yr Orsedd fel yr unig awdurdod posibl ar j-r Eisteddfod yr edrychaf i, a'r pwysig- rwydd, o'r herwydd, ar iddi fod yn cynnwys artistiaid gorau'r genedl. Edrychaf hefyd ar yr Orsedd fel cnewyllyn academi Gymreig a allai mewn llawer dull a modd roddi gwas- anaeth gwiw i gelfyddyd yn ei holl geinciau yng Nghymru. Gwrthryfela. Nid oedd gennyf un bwriad i ymuno â'r Orsedd yn Llanelli wrth fyned yno. Er Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl, pan wrth- odais yn bendant wneuthur dim â'r Orsedd, fe'm hystyriwyd yn un o'r gwrthryfelwyr nad oedd lawer a obaith amdano. Er credu ohonof erioed y gellid gwneuthur sefydliad grymus o'r Orsedd, methwn yn lân Gan E. FROSSER RHYS hyd yn gymharol ddiweddar weled bod arwein- wyr yr Orsedd yn barod i wneuthur dim at ddiwygio'r sefydliad. Yn Llenor yr Hydref, 1928, dywedodd yr Athro Gruffydd Os ydyw'r Archdderwydd a'i Orsedd am gadw ysbryd Cymreig yr Eisteddfod, paham na alwant gyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos yn Lerpwl i dderbyn awgrymiadau er sefydlu Gorsedd genedlaethol gref, lle y gall pob llenor ac artist a cherddor jrnaelodi heb deimlo ei fod yn ei ddiraddio ei hunan ? Y Gwahoddedigion. Cytunwn o lwyrfryd calon ag awgrym ac ysbryd Mr. Gruffydd. Yn anffodus, ni wnaeth- pwyd dim yn Lerpwl. Ond toc wedyn derbyn- iodd yr Orsedd awgrym yr Athro, ac fe wahodd- odd nifer o Gymry blaenllaw i gyfarfod rhai o'i gwyr blaenllaw hithau. O'r diwedd. wythnos cyn yr Eisteddfod, hysbyswyd y gwahoddedigion y byddai'r cyfarfod yn Llanelli yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Trueni mawr oedd ei gadael hi mor hir cyn pennu'r cyfarfodydd. Pe buasai wedi ei bennu fis neu ddau'n gynt, gallai amryw o'r rhai a wahoddwyd drefnu i fod yn bresennol, ond fel yr oedd, aethent i ffwrdd ar wyliau, a Mr. Gruffydd yn eu plith. Fodd bynnag, yr oedd eraill o'r gwyr gwahoddedig yn Llanelli yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a chredais i hyd y diwedd y gellid cael cynhadledd fuddiol. Cael ein Hurddo. Aeth Caradog Prichard a minnau i'r gyn- hadledd, braidd yn hwyr, rhaid addef, ac erbyn inni gyrraedd, yr oedd cynrychiolwyr yr Orsedd ar fin gwasgaru, gan nad oedd neb o'r rhai a wahoddwyd wedi dyfod yno. Tra y cytunaf na threfnwyd y gynhadledd mewn pryd, teimlaf mai braidd yn anghwrtais oedd absenoldeb di-eglurhad pobl a oedd o fewn cyrraedd i'r gynhadledd y diwrnod hwnnw. Fel ystum at gyd-ddeall a chydweithrediad rhwng y Gorseddogion â'r rhai o'r tu allan, penderfynodd Caradog Prichard a minnau ofyn i awdurdodan'r Orsedd ein derbyn ni'n aelodau. Derbyniwyd ni'n garedig, ac fe'n hurddwyd drannoeth mewn ffordd fonheddig a chwrtais anghyffredin gan Bedrog. Eisiau Haelioni. Y mae eisiau diwygiadau mawr, ond o'r tu mewn, ac nid o'r tu aUan y gellir gweithio effeithiolaf. Nid oes amheuaeth ynof na chyd- nabyddir yr angen am y diwygiadau hyn gan y Gorseddogion yn y Gynhadledd, a gobeithiaf y gwneir cais eto i'w chynnull yn fuan. Nid oes gwestiwn beth a fydd ei chanlyniad. Mi wn yn awr bod arweinwyr yr Orsedd yn aeddfed i ad-drefnu trwyadl, ac yn awyddus am help pobl fel Mr. Gruffydd i'w cyflawni. Fe gawsom lawn digon o ymrannu yng Nghymru. Yr ydym yn rhy barod y naill i ymosod ar y llall, yn lle cydweithio. Y mae'n cenedl mewn perigl, ac od ydym am ymwared, rhaid inni garthu mân ragfarnau o'n calonnau, a mabwyso agwedd fwy haelionus at bawb o'n cyd-wladwyr, a mwy cyfrifol at ein sefydliadau a'n diwylliant cenedlaethol.