Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SAIS yn Gweld Rhyfeddodau Eisteddfod y Cymry A' [I gefais fy nhaflu i Lanelli pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei hanterth. Sais a dyn dieithr oeddwn, ond fe'm cefais fy hun ymhlith cyfeillion. Yr oedd yn brofiad rhyfeddol i mi, ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod yn awr paham y mae pob gwir Gymro'n dechrau anesmwytho wrth i fis Awst agosáu. Wrth weld y tyrfaoedd anferth yn dyfod ynghyd nid am un diwrnod ond beunydd, mi glywn fy nghalon yn llamu o'm mewn. 30,000 yn Canu. Unwaith mi ganasant emyn,­30,000 ohonynt Y mae'n wir mai mewn ysbryd gwrthnysig y gwnaethant hynny ysbryd gwrthryfela yn erbyn rheol a threfn­ond yr oedd yn odidog. Bydd yn hir cyn yr anghofiaf yr olygfa ogoneddus a digymell honno. Pawb -hen ac ieuanc-yn cipio'i ran a'i lais ei hun ac yn canu o'i galon, o serch at gân ac at Gymru. 'Roedd arnaf innau hefyd eisiau canu, ond buan y deallais na wyddwn-i mo'r geiriau. Fe ddywedodd un o'r beirniaid wrthyf fod miwsig Cymru'n odidog, a bod cariad y Cymry at gerdd a chân yn ddigymar, ac yr oeddwn innau'n cytuno. Ond y mae arnynt eisiau disgyblaeth," meddai. 'Fedrwn i ddim cytuno â hyn. Os oes dyfnder mewn cerdd a gwir- ionedd mewn celfyddyd, rhaid iddynt fod mor ddigymell â'r emyn a ganodd y dyrfa y diwrnod hwnnw. A pha fodd y gall neb ddisgyblu'r gân sydd yng nghalonnau 30,000 o bobl ? Y Gymraeg. Eisiau beirniadu sydd arnaf, ond cjm dechrau rhaid i mi dalu un deyrnged. Y mae'r cenhedloedd Celtaidd yn fy swyno. Bûm yn byw yn yr Alban crwydrais yn ei hucheldir- oedd ac addolais wrth ei hallorau a bûm yn Iwerddon hefyd, a charu ei phobl. Ond nid oes un o'r cenhedloedd hyn wedi cadw yn fyw ei diwylliant hen a'i hiaith. Ond cjm i mi fod yn Llanelli awr, fe glywswn ar bob llaw yr iaith Gymraeg oddi ar wefusau hen ac ifanc, tlawd a chyfoethog, yn yr heolydd ac ymhlith teuluoedd. Miss Megan Lloyd George. Yr wyf yn gobeithio nad anghofia neb apêl Miss Megan Lloyd George wrth bwysleisio gwerth yr iaith Gymraeg. Dechreuodd mewn dull Beiblaidd Canys pa lesâd i genedl, os ennill hi yr holl fyd a cholli ei henaid ei hun Hyn oedd y tro cyntaf i mi ymweled â Chymru, ac yn naturiol, yr oeddwn yn edrych Gan J. W. Broadbent GohebyddSeneddo/y "Daily Mail" ymlaen at weld cyfarfod yr Orsedd. Ni wn i fawr am ei hanes, ac nid oes gennyf ragfarn. Yr wyf yn edmygu'r hyn sydd y tu ôl iddi. Ond paham y difethwyd y fath arwydd Cymreig yng ngolwg sylwedydd diragfam ? Blino ar yr Orsedd. Ar y bore Mawrth disglair hwnnw, wrth sefyll ar lechwedd glas ym Mharc Howard, yr oeddwn wedi ymbaratoi at weld rhywbeth gwir effeithiol. Hyd yn oed yn awr, yr wyf yn clywed peth o ryfeddod y cynulliad hwnnw a ddeuthai ynghyd flwyddyn ar ôl blwyddyn am ganrifoedd. Ond y mae'n ymddangos nad oes gan y Cymro'r gynneddf i ystyried pasiant yn beth difrif. Yr oedd rhywbeth yn andwyo'r seremoni, ac, a dweud y gwir, mi flinais. Ar y dechrau. mi fedrais anwybyddu cerdded afrosgo'r beirdd wrth ddringo'r bryn o'r dref ac ymgrynhoi yn y cylch cerrig. Yna mi ddechreuais amau y seremoni a ddilynodd. Deuai rhyw gythrudd trosof wrth weld difyrrwch y dyrfa a chwarddai mor fynych am ben cellwair y beirdd hybarch. Amheuthun oedd dychwelyd i'r Pafiliwn a chlywed curiad yr ysbryd Cymreig byw, Merched Dawnsio Llanelli difrif, a hyd yn oed dioddef hirwynt yr arwein- wyr oedd yn gwneud eu gorau glas i gadw'r rhaglen yn ei hunfan. 'Oes eisiau Arweinyddion ? I beth y mae arweinwyr yn dda ? meddwn wrth un o'r swyddogion. Yna mi roddais hanner ateb i'm cwestiwn fy hun. Rhaid i gynhulliad mawr fel yr Eisteddfod Genedl- aethol wrth ryw ganolbwynt. Ond 'does dim rheswm dros i hynny ganiatáu i arweinwyr ollwng eu gafael arnynt eu hunain oni chaniateir i'r Eisteddfod, hithau, redeg yn rhydd. Yn wir, yn wir, ni fedraf ddyfalu paham y caniateir i ffraethineb arweinwyr ymyrryd â'r rhaglen, na phaham y caniateir i gyhoeddiadau'r beirniaid atal cân y cystadleuwyr. Yn y Pafiliwn. Wrth lwc, yr oedd yr arweinwyr yn ddigon pell pan euthum, liw nos, i'r pafiliwn enfawr a chael fy suo i hedd a boddhâd gan y cyngherddau Cymreig. Y mae Eisteddfod cenedl y Cymru'n rhyfeddod. Mi gyfarfûm ynddi â Chymry o'r Taleithiau Unedig, o Ddeheudir Affrica, o Ganada ac o Awstralia. Pan gyfeiriais fy nghamre tua Lloegr, a gweld cymoedd cuchiog Deheudir Cymru- wedi eu creithio gan oes ddiwydiannol a'u gadawodd yn ddi-etifeddiaeth-mi ddiolchais i Dduw fod gan y Cymro gân yn ei galon. Rhaìd bod hynny'n ymylwaith arian i'r aml gymylau tywyll a gaeodd dros ei wlad. Yr Orsedd ym Mharc Howard.