Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CARTREFI HEIRDD CYMRU, I. Cyfoeth CASTELL GLL^YDIR ER bod tref Llanrwst a Chastell Gwydir yn edrych ar ei gilydd ar draws yr afon, y mae'r naill yn Sir Ddinbych a'r llall yn Arfon. Ewch o Landudno ar hyd dyffryn hardd Conwy tua Betws-y-coed ac fe ddeuwch yn y man at y Castell, sy'n sefyll yng nghanol coed wrth droed craig uchel a elwir yn Garreg- y-Gwalch. Heddiw, wedi'r tân mawr ychydig flynydd- oedd yn ôl, nid ydyw'r hen gastell ei hun ond murddyn. Y mae'r darluniau a geir ar y ddalen hon ymhlith yr ychydig rai sydd ar gael o'r hen gastell godidog eyn ei ddifetha gan yr Iddewon â'r tân a'r disgrifiad isod, a ysgrifennwyd cjm yr anrhaith, ydyw'r unig ddisgrifiad Cymraeg o'r Castell yn ei ogoniant. Codwyd Castell Gwydir gan Syr John Wyn tua'r flwyddyn 1550, ac y mae iddo hanes rhamantus iawn. Fe ysgrifennodd Syr John Wyn Hanes Teulu Gwydir," ond hanes ei hynafiaid fu'n cweryla ac ymladd a marw yn Eifionydd a geir yn bennaf ganddo, a daw'r holl stori i ben wedi i hen-daid Syr John brynu stâd Gwydir. Dywed Syr John fod rhyfeloedd Owain Glyn Dŵr (yn nechrau'r bymthegfed ganrif) wedi anrheithio cymaint nes bod glaswellt yn tyfu ym marchnadfa Llanrwst, a'r ceirw yn ffoi i'r fynwent." Hyd yn oed yn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd tai adfeiliedig ar stâd Gwydir a'u cerrig o hyd yn dwyn lliw'r tân." Yr oedd creigiau Glyn C'onwy yr adeg honno yn gartref carnleidr o'r enw Dafydd ap Siencyn a'i fintai ysbeilwyr. Drws yr Ystafell Giniawa. Gwaith Cartref. Gwaith cartref ydyw Castell Gwydir bron i gyd. Gweithwyr Llanrwst a'r cylch gafodd y gwaith o'i godi a'i addurno. Y mae hyd yn oed y cerfio trwm ar y drysau ac o gylch y simneiau yn gynnyrch y stâd yma ym mherfeddion y wlad, lle yr oedd y mab yn dilyn patrymau'r tad, heb gael ei ddylanwadu gan yr ysgolion newydd a'r dulliau oedd yn hoff gan bobl y mannau poblog. Er hynny, dengys cerfiadau ac addurniadau Castell Gwydir ôl ysfa i ail-drefnu hen ddefn- yddiau ac i ychwanegu pethau newydd oedd yn debyg i'r hen. Drudwaith Drws. Edrychwch ar y darlun o ddrws yr ystafell giniawa. Y colofnau tro ydyw ei brif nodwedd. Y mae'r rhain mor debyg i'r dull Eidalaidd nes eu bod yn fynych yn cael eu galw yn waith Inigo Jones. Nid gwaith Inigo Jones ydynt, ond yr oedd Syr Richard Wyn yn swyddog yn Llys y Brenin pan oedd Inigo Jones yn bensaer y Llys. Felly, y mae'n bosibl bod Syr Richard wedi mynd â rhai o gynlluniau Inigo Jones i Arfon i'w weithwyr ei hun weithio arnynt. Pethau eraill diddorol iawn yn y Castell ydyw'r llenni o ledr Cordova, Sbaen. Aethai Syr Richard Wyn gyda'r Tywysog Charles i Sbaen' yn 1623. Pob Dodrefn. Y mae enghreifftiau o bob dodrefn fu mewn ffasiwn rhwng 1550 a 1750 i'w gweld yma, mewn cyflwr da. Y mae Cwpwrdd Llya yn yr ystafell giniawa ac arno arfbais y Wyniaid a lluniau eraill yn cysylltu'r teulu â llinach tywysogion Cymru. Ffrwyth tir Arfon a Dinbych ydyw'r dodrefn hardd yma — tir a fagodd y gweithwyr a'r coed. Bu Gwydir yn perthyn i'r Wyniaid hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, pan briod- odd Mary Wyn, etifedd Syr Richard Wyn, y Marcwis Lindsay, a daeth Gwydir yn eiddo teulu Ancaster a theulu Carrington. Y Parlwr. I'r teulu yma, teulu Ancaster, y mae Gwydir yn ddyledus am beth o'r dodrefn gwych a welir yn y darlun uchod o'r parlwr. Y mae'r ystafell hon (yr hen Neuadd Feredydd wedi ei hail-drefnu) yn llawn o bethau gwerthfawr. Yn eu plith y mae tapestri, neu ddarluniau mewn gwaith edau a nodwydd, a wnaethpwyd tua thri chan mlynedd yn ôl. Un o'r arbenicaf ydyw llun Rhisiart Frenin yng Ngwarchae Acre (Palestina), ac y mae hwn yn un o'r darnau gwerthfawrocaf a wnaethpwyd yn yr oes honno. Yn y parlwr hefyd y mae crud yr ail Syr Richard, ac ar dalcen yr ystafell ceir darluniau gan Syr Peter Lely, o Mary Wyn a'i mab, ail Ddug Ancaster. Y mae'r darluniau hyn yn hongian un ar bob ochr i lun hen-daid Mary Wyn, sef yr hen Syr John. Saif mewn mantell ddu a het hir a chantal llydan. Hen wr ydyw, a'i wallt a'i farf yn wyn, ond y mae nerth a phenderfyniad yn ei wyneb, a gorffwys ei law'n gadarn ar ei ffon. Breuddwyd Blodau. O fewn ychydig lathenni i'r Capel Esgobol oedd yn perthyn ar un pryd i hafod teulu Gwydir- y mae hen lawnt bowlio (bowling green), ond nid yw'n cael cymaint o sylw yn awr ag y byddai. Hardd, yn wir, ydyw'r man 11e saif-yng nghanol prysglwyn, a hawdd y gellir dychmygu dyddiau'r brenhinoedd Stiwart, pan oedd ein tadau'n caru'r gêm dawel, a phan oedd pobl y 11e yn wýr deheuig eu llygaid a'u llaw yn ogystal ag enwog yn y bywyd cyhoeddus. Y coed godidog o amgylch sy'n cyfrif am lawer o swyn Castell Gwydir. Y mae'r ardd hefyd yn hyfryd, gyda'i hyw-wydd a'i gwrych- oedd destlus yn gefndir i ogoniant llachar y gwelyau blodau. Y mae popeth yn ffynnu yma, a'r ardd yn freuddwyd o flodau o ddechrau'r gwanwyn hyd ddiwedd yr hydref. O'r teras ceir golygfeydd digymar o afon Gonwy, ac y mae dedwyddwch di-ben-draw yn y llwybrau drwy'r coed. Dringer y llwybrau i'r Gwydir Ucha', ac oddi yno wele wyrth o olygfa o dir ysblennydd. Y mae 11e i orffwys yma, a dywed yr ysgrif uwchben y porth Wele ail baradwys, wele frenhinol Ie."