Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Canu. Miwsig Cymru "heb Dân, heb Harddwch." Ai Gwir Hyn ? AYDYW canu Cymru heb dân a heb harddwch ? Ai dyma'r argraff a gaiff estroniaid o glywed ein corau ni'n canu ? Fe'm harweinir i ofyn y cwestiynau hyn oherwydd i feirniad Seisnig-g-wr y mae gennyf barch mawr i'w farn-ddweud pethau llym wrth sylwi ar ddau record-gramoffon newydd, sef Columbia DB159 a 160 (3s. yr un). Hen Wladfy Nhadau a Marchog Iesu (Moriah) sydd ar y record cyntaf ac ar y llall Iesu, GyfaiU F'enaid (D. T. Evans a Dr. J. Parry) a Joanna (Alaw Gymreig). Cenir hwy gan Gôr Gŵyl y Tri Dyffryn, cwmni o gantorion hyfforddedig a chymwys. Nid beio'r cantorion yr oedd y beirniad y soniaf amdano, ond beio'r gerddoriaeth. Methu'n deall Ni. "Ymddengys," meddai, "fod y Cymry'n drist iawn ynglŷn â'u canu, er mai o gariad at gerdd y canant. Ni wrandewais erioed ar ganu mor ddolefus. Medraf ddeall pruddglwyf miwsig Rwsia, cwynfan y Gwyddyl, wylofain yr Iddewon, hiraeth yr Ahnaenwyr, ond y mae digalondid y Cymry, sydd heb lygedyn o dân na harddwch, na hyd yn oed drasiedi gwir ar eu cyfyl, yn drech na mi. Y mae'r côr ei hun yn canu'n hyfryd iawn, ac yn ddigyfeiliant. Ond pa fath bobl ydyw'r rhain, os dyma beth y maent yn ei gynnig i'r byd yn enghraifft o'u diwylliant ? Cyfansoddwyr yn Brin. O'm rhan fy hun, nid wyf yn credu bod y safle cyn waethed â hyn. Ond rhaid cyfaddef bod cyfansoddwyr da yn brin yn ein plith. Y mae Bwrdd Wasg Prifysgol Cymru a Gwasg Prifysgol Rhydychen wedi bod yn chwilio o ddifrif am gerddoriaeth o'r radd flaenaf. Y maent yn chwilio heddiw hefyd, ac yn barod i gyhoeddi unrhyw gerddoriaeth Gymraeg sy'n ogyfuwch â'r safon. Ond ychydig iawn sydd ar gael. Ni chawsant afael ond ar dri chynnyrch gwerth eu cael gan gyfansoddwyr newydd, sef Pedair Carol gan Mr. D. E. Parry-Williams, Caerdydd; cyfansoddiadau'r Dr. David de Lloyd, Aberystwyth, a threfniant Mr. A. Haydn Jones o bedair melodi gan Handel. Y mae'r rhain oll erbyn hyn wedi eu cyfansoddi. Can y Planedau." Yr wyf yn credu y bydd sôn mawr am gyfan- soddiad newydd y Dr. Hopkin Evans, sef Cân y Planedau." Hwn fydd un o'r prif ddarnau i'r corau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor y flwyddyn nesaf. Y mae ganddo gytgan hyfryd-cytgan sy'n dangos ôl profiad mawr o ysgrifennu ar gyfer lleisiau­ae mi synnaf os na bydd ei seiniau melys i'w clywed led-led Cymru cyn hir. Fe'i trysorir hi, mi wn, gan bawb sy'n caru sain cynghanedd a chan bawb fydd yn ddigon ffodus i fod yn aelod o un o'r corau cystadlu. Wil Ifan a ysgrifennodd y geiriau Cymraeg. Syniad Mawr. Syniad mawr ydyw syniad Cân y Planedau." Y mae fel ceisio darganfod y gân a ganodd sêr y bore." Y mae'n ymdrech i gael cipdrem ar ysbryd y cread. Gan EDWARD TUDUR. Dechreua gyda symudiad araf, gosgeiddig, a llawn mynegiant. Yna y mae'n datblygu'n genlli mawreddog-O, mor darawiadol a chof- iadwy !-ac yna disgyn yn ôl i'r symudiad tawel cyntaf a gorffen ar y tant hwnnw. Yr wyf yn gobeithio y cawn-ni glywed rhagor am gerddoriaeth y Dr. Hopkin Evans, ac y ceir rhagor o bethau ganddo y gellir eu dangos, gyda balchter, i genhedloedd eraill. Caneuon Newydd. Gan Wasg Prifysgol Cymru a Gwasg Rhyd- ychen y cyhoeddir Cân y Planedau," ac y mae'r un cyhoeddwyr yn rhoddi i Gymru y dyddiau hyn lawer o gerddoriaeth wych. Tybed a wyr pawb am Benwaig Nefyn," cyfieithiad yr Athro T. Gwynn Jones o'r gân Albanaidd adnabyddus, Caller Herrin ? Pwy fyn benwaig Nefyn ? Ni bu eu bath am dorri newyn Prynweh benwaig Nefyn, Newydd ddod o'r môr. Yr oedd hon yn rhan gyntaf Llyfr Canu Newydd," a gyhoeddwyd gan y cyhoeddwyr uchod. (Pris 3/6 a 1/6.) Erbyn hyn y mae ail ran y Llyfr Canu Newydd allan, ac y mae'n llawn o ganiadau hyfryd. Adar Mân y Mynydd," cainc werin, ydyw'r darn cyntaf ynddo, a'r hen eiriau Cymraeg wedi eu troi i'r Saesneg gan yr Athro T. H. Parry- Williams. Diddorol yw gweld tribannau Morgannwg yn Saesneg Ye birds that haunt the heather In warm and wintry weather, 0, will you to my ailing sweet Take greetings all together ? Said Gwen, who had awoken, To them that brought the token, What are you, birds that sing with glee, To me whose heart is broken ? 0, tell this to my !over,­ I shall be under cover Of soil and sand to sigh no more. Before the summer's over." Da iawn, Bangor. Y mae pob cerddor yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Bangor y flwyddyn nesaf. Yr Eisteddfod ydyw'r elfen bwysicaf ym mywyd cerddorol Cymru o hyd, a gwych ydyw gweld pwyllgor am unwaith yn sylweddoli hyn ac yn gosod wrth ei gilydd raglen deilwng o Gymru ac o'r Eisteddfod. GWyr Mr. E. T. Davies ei waith, ac y mae ôl ei law fedrus ef ar raglen gerddorol Bangor drwyddi draw. Dewiswyd, cyn belled ag y gellid, fiwsig â geiriau Cymraeg iddo, a chefn- ogir cerddorion Cymru i ysgrifennu trwy osod ar y rhaglen gymaint ag y gellir o'u gwaith hwy — ond heb ddewis dim sy'n ddi-safon. Corau DwbwL 0 safbwynt corau bychain, un o'r pethau mwyaf arbennig yn y rhaglen ydyw'r Gantata Eglwysig (No. 60) o waith Bach, y meistr cerddorol mawr. Ysgrifennwyd ei geiriau Cymiaeg gan Mr. R. Williams Parry Weithion trwy ras, a thrwy rym, a thrwy nerth." Cantata i gôr dwbwl ydyw, ac fel hyn y mae'n gweithio Cychwynna'r côr cyntaf gydag ehedgan fawreddog. Yna daw'r ail gôr i mewn gyda chordiau cynghaneddol beiddgar, tra fo'r cyntaf yn dal ati i ganu seiniau'r ehedgan hyfryd. Yn y man y mae'r ddau gôr yn newid eu partiau, gydag effeithiau godidog. Y mae'r gantata yn un lled anodd, ond nid yn rhy anodd, ac fe all y rhan fwyaf o gorau eglwys a chapel ei pherfformio. Gluck i Blant. GWyr pawb pa mor anodd ydyw cael gafael ar ddarnau cerddorol i blant. Y mae hwn yn hen anhawster. Ond yn un o gyngherddau Eisteddfod Bangor fe berfformír Golygfeydd o Orpheus Oluch. Dyma'n union y math o ganu y mae ei eisiau arnom, ac efallai y bydd ei glywed yn symbyliad i'n cerddorion ni'n hunain gyfansoddi ar ddulliau tebyg. Fe gyhoeddir y golygfeydd yn y man, gyda geiriau Cymraeg. Y mae'n gyfansoddiad od o brydferth, ac y mae'n debyg o gymryd gafael ar Gymru i gyd. O'r Hen Feistri. Dylwn enwi hefyd y caneuon corawl o'r Hen Feistri sy'n cael eu cyhoeddi, sef Y Gwanwyn Afrad (Schubert), allan o opera anorffenedig a ddechreuwyd yn 1816. "Teg ei Gwedd" (Handel), allan o'r opera Alcina (1735). Dyma'r union bethau i ateb gofynion y genhedlaeth ifanc yng Nghymru, ac sy'n debyg o helpu i ddwyn gwell crefft a chadarnach rhagolwg i fywyd Cymru. Naw ugain o Offerynwyr. Henffych well i ymdrechion Ffederasiwn Gwyliau Cerddorol Prydain i ddwyn cerddorion byw y wlad ynghyd mewn ysgol haf. Yng Nghaergrawnt y bu'r ysgol y llynedd, ac yr oedd yno tua 80 o ganwyr offerynnau. Eleni deuthant ynghyd i'r Coleg Normal, Bangor, ac aeth 180 drwy'r cwrs. Cynhwysai'r cwrs driawdau llinyn, triawdau piano, pedwarawdau, pumawdau, chwech- awdau, a chanu cerddorfa. Ysbrydiaeth i ddyn oedd gweld naw ugain o offerynwyr i gyd yn barod am waith caled. Gorffennwyd y cwrs gyda chyngerdd. Yr ydym yn clywed llawer am gerddorfeydd sydd ar hyd a lled Cymru-cerddorfeydd oriau hamdden. Oni ellid uno'r egnïon cerddorol hyn fel y gwnaethpwyd ym Mangor ? Byddai'n drychineb pe sylweddolem, ar ôl hir oes gerddorol, nad oeddem ond rhyw fath o Ymherawdr Nero yn ffidlan ymlaen yn llon a'r ddinas fawr ar dân.