Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mr. EMLYN WILLIAMS. MI es i'r Amgueddfa Brydeinig tuag wythnos yn ôl i chwilio am Mr. Idris Bell, y gŵr mwyn hwnnw sy'n adnabyddus am ei gyfieithiadau Saesneg o farddoniaeth Gymraeg hen a newydd. 'Welais i mo Mr. Bell, ond mi gwrddais â chyfaill, ac fe ddywedodd hwnnw wrthyf fod Mr. Lloyd George yn brysur yn hel pentyrrau o fanyhon am ei hanes ei hun. Y mae ganddo ddau was cyflog, meddai fy nghyfaill, nad ydynt yn gwneud dim ers pedair blynedd ond mynd trwy'r casgliadau o hen bapurau newydd yn yr Amgueddfa, a chopio ohonynt bob cronicl o areithiau Mr. Lloyd George ers dechrau ei yrfa wleidyddol. Y mae'r gwaith hwn yn eu cadw yn brysur am oriau bob dydd, ac yn ôl pob golwg, nid ydynt wedi hanner gorffen eu gwaith, gan mor helaeth fu cynnyrch areithyddol Mr. Lloyd George Ond beth ydyw bwriad Mr. Lloyd George, tybed ? Ysgrifennu hanes ei fywyd ? Mr. UriahB. Goodwin, Cymro. 1Q)YDDAF yn dyfod ar draws Cymry yn y JD) lleoedd rhyfeddaf, a rhai ohonynt yn edrych yn debyg i unrhyw beth ond Cymry. Yr oeddwn mewn trên ryw noson, yn teithio rhwng Folkstone â Llundain. Ar fy nghyfer yr oedd Americanwr rhadlon, llydan, yn ysmygu sigar fawr. Dyma ddechrau siarad, am y tywydd neu rywbeth. Rhaid bod fy lleferydd wedi fy nghyhuddo, achos mi ddaeth rhyw oleuni newydd i lygaid yr Americanwr. Cymro ydych chwi ? meddai. Ie," meddwn innau. Ac ar hynny dyma'r brawd yn codi ar ei draed a dweud Shahe! Cymro ydwyf innau hefyd." Chwilio am Wraig. OHYNNY ymlaen mi gawsom ymgom fywiog a diddorol. Dywedodd mai Mr. Uriah B. Goodwin, o New York, ydoedd (ond 'ddywedodd e ddim beth oedd ei enw Cymreig). Aeth o ddeheudir Cymru, meddai, tuag ugain mlynedd yn ôl. Erbyn hyn yr oedd wedi hel llawer o arian ac wedi dyfod yn ôl am flwyddyn neu ddwy o wyliau, ac i gael gwraig o Gymraes, pe byddai modd. Ond ynglŷn â gwraig, y mae arna'i ofn na chafodd e ddim lwc. Yng Nghlydach, Morgannwg, y cafodd ei eni a'i fagu, meddai, a phan oedd yn fachgen, bu'n glanhau esgidiau pobl yn ystrydoedd Caerdydd. Yr oedd ganddo barch mawr tuag at ei hen ysgolfeistr,­gŵr sydd erbyn hyn, y mae'n ymddangos, yn rheithor yn rhywle yng Ngheredigion. Yr oedd Cymraeg Mr. Goodwin yn anystwyth pan ddechreuasom siarad, ond cjm pen awr yr oedd yn rhugl. Codi ar ei draed a dweud "Shake." Cymry'r Salwns. FE gafodd Mr. Goodwin brofiadau rhyfedd yn y gorllewin gwyllt" pan aeth allan i'r America gyntaf. Soniodd wrthyf am Gymry yn cadw salŵns, — Cymry cyhyrrog na feddylient ddim o gydio mewn dyn a'i daflu trwy'r ffenestr. Yr oedd chwerwder yn llais Mr. Goodwin wrth sôn am lowyr Cymru a'u gwragedd a'u plant a'u dioddefaint dygn. Ond fe ddaeth yr hen chwerthin i'w lygaid cyn inni ymadael. Wrth ganu'n iach, dyma fi'n gofyn iddo oni charai aros yng Nghymru bellach. Na, 'charwn-i ddim," meddai, ond yr oeddwn yn gobeithio cael geneth o Gymraes i ddyfod yn ôl gyda mi er mwyn inni fedru creu Cymru fach i ni'n hunain dros y dŵr. Os na cha'-i un, rhaid imi fynd yn ôl ar fy mhen fy hun. Broadway i'r bachgen yma bellach." Mr. Emlyn Williams. MI gefais ymgom y noson o'r blaen â JLvjL Mr. Emlyn Williams, y Cymro ieuanc sy'n actio yn nrama Mr. Edgar Wallace, On the Spot," yn Theatr Wyndham, Llundain. Yn ei ystafell wisgo y tu ôl i'r llwyfan y cefais afael arno, a hynny rhwng actiau, a Mr. Williams yn ei baent a'i bowdr. Yr oedd Mr. Williams yn efrydydd yn Eglwys Crist, Rhydychen, pan oeddwn innau yng Ngholeg Iesu, ond ni ddeuthum ar ei draws yno er imi glywed sôn amdano. Un o Fostyn, Sir Fflint, ydyw, ac yn ystod ei wyliau o Rydychen bu'n mynd gyda pharti drama ei gapel i actio dramâu Cymraeg yma ac acw yn Sir Fflint. Ei Ddrama Newydd. YM mha ddramâu Cymraeg y buoch chwi'n actio ? meddwn i wrth Mr. Williams. Beddau'r Proffwydi a'r Bobl Bach Ddu,' a rhai eraill heb fod mor adnabyddus," meddai yntau. 'Roesoch-chwi gynnig erioed ar ysgrifennu drama yn Gymraeg ? Naddo. Y mae'n ddrwg genny' na fedrais-i erioed deimlo'n ddigon sicir o'm Cymraeg i Sgwennu cymaint â hynny." Er hynny, y mae Mr. Williams wedi gorffen drama Saesneg am Gymru, ac fe ddywedodd wrthyf fod hon am gael ei pherfformio yn un o theatrau Llundain y gaeaf yma. Tom ydyw ei henw, ac â bywyd ei ardal ef ei hun yn Sir Fflint y mae'n ymdrin. Taith yn America. YDDRAMA ddigrif, And so to Bed," oedd y gyntaf i Mr. Wilüams actio ynddi yn Llundain, ac yr oedd ef yn un o'r cwmni a aeth ar daith trwy'r Taleithiau Unedig i actio'r ddrama hon. Ar ôl dyfod yn ôl, bu'n actio yn ei ddrama ei hun, Glamour," yn Theatr y Cwrt, Llundain (sef tua Nadolig, 1928), a rhwng hynny â heddiw bu'n cymryd rhan yn The Silver Tassie (Sean O'Casey), Mock Emperor," a French Leave." Miss Megan Foster. 1Q)YDD alawon Cymru bob amser yn jD) seinio'n hynod o felys oddi ar wefusau Miss Megan Foster. Yn Nhonypandy, Morgannwg, y ganwyd Miss Foster, ond fe ddeuthpwyd â hi i Lundain yn naw mis oed gan ei thad, Mr. Ifor Foster, y cantor. Canu oedd ei byd pan oedd hi'n blentyn, a chanu y mae hi hyd heddiw.