Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe'i clywais hi, mewn cyngerdd ychydig amser yn ôl, yn canu alawon Gwerin Cymru, Iwerddon, Llydaw, Cernyw, yr Alban, ac Ynys Man, gan ddefnyddio'r iaith briodol bob tro. Aethai i drafferth i ddysgu geiriau'r alawon yn ofalus, ac fe ddywedodd cyfeillion cyfarwydd wrthyf ei bod wedi canu pob un yn llawn mor bersain ag y canodd y rhai Cymraeg. O'm rhan fy hun, ei chofio'r wyf yn fy swyno wrth ganu, gyda'r delyn, yr hen alaw Mae 'nghariad i'n Fenws, mae 'nghariad i'n fain, Mae 'nghariad i'n dlysach na blodau y drain. Pan welais i Miss Foster ddiwethaf, yr oedd hi'n paratoi i fynd i Holland i roddi dau gyngerdd, un yn Amsterdam a'r llall yn yr Hâg, ac yr oedd hi am ganu Hefo Deio i Dywyn ym mhob un ohonynt, meddai hi. 'Rydwy'n siwr bod y Dytsmyn wrth eu bodd. Ei Thy Diddorol. TY diddorol iawn ydyw ty Miss Foster yn Pembroke-walk, Kensington. Rhaid bod yn weddol giwt i gael hyd iddo, gan ei fod ar ben draw rhyw lôn fach na thybiech ei bod yn mynd i unlle. Ond wedi cael gafael arno, y mae'n bictiwr o ddestlusrwydd. Bu Miss G. B. Stern a Miss Sheila Kaye- Smith, yr awduron Seisnig adnabyddus, yn byw yn y ty ar un pryd-y naill gyda'i gŵr mewn un rhan a'r 118011 ar ei phen ei hun mewn rhan arall. Ar eu hôl hwy fe gymerwyd y ty gan ddyn busnes go gefnog, ac fe osododd hwnnw lawr dawnsio hyfryd iawn ar y stiwdio, oedd yn ddigon plaen a diaddurn cjm hynny. Dylanwad Miss Foster sydd ar y stiwdio yma erbyn hyn. Y mae'r ystafell yn un eang, y dodrefn yn hen, pob addurn yn gain. Canu yn Hyde Park. Ei)YDDAF yn mynd i Hyde Park yn ) fynych iawn ar nosau Sul i ganu emynau gyda'm cenedl, a byddaf yn teimlo'n well ar ôl bod. 'Faint o'r Cymry sy'n ymweled â Llundain sy'n gwybod am y cyrddau Cymreig hyn, a'r cyrddau sy'n digwydd heb i neb eu cymell na'u cynnull ? Er mwyn y rhai na wyddant, mi roddaf y cyfarwyddyd. Ewch i mewn i Hyde Park trwy'r pyrth gyferbyn "r Marble Arch tua 8-30. Trowch i'r dde, ac ymhen rhyw funud fe ddeuwch i fan y canu. Toc fe ddaw saith neu wyth yn glos at ei gilydd, fel scrwm ar y maes Rygbi. Mynd i godi'r gân y mae'r rhain. Yn y man fe fydd y fro'n atseinio gan lais bechgyn a genethod yn canu'r holl emynau a'r caniadau a ddysgasant yn eglwysi a chymanfaoedd eu gwlad, ac ambell un yn canu nes bod yn chwYs i gyd. Y nos Sul diwethaf, am ryw reswm, yr oedd yno ddau scrum, y naill yn codi un emyn, a'r llall yn codi emyn arall, nes bod y dyrfa'n ansicr pa arweinwyr i'w dilyn. Gresyn oedd hyn, a hwythau i gyd yn gantorion mor dda. Mr. Lambert Gapper. "ir^ALNT o dalentau y mae Cymru'n colli, Jl tybed, trwy fod yr ysgolion yn dysgu pob plant yr un fath, ac yn trin pawb wrth yr un patrwm ? Am hynny y meddyliwn ar ôl i Mr. R. Lambert Gapper, yr artist o Lanaelhaearn, Arfon, ddweud gair o'i brofiad wrthyf uwchben cinio ganol dydd y diwrnod o'r blaen. Y mae Mr. Gapper erbyn hyn yn teithio yn Ffrainc i ddysgu rhagor ar ei grefft. Naddu carreg ydyw ei brif gelfyddyd, ac am ei fedr wrth y gwaith hwn y rhoddodd y Royal College of Art, Llundain, ysgoloriaeth i deithio ac y cyfandir. Tynnodd dau o'i Mr. R. L. GAPPER. weithiau gryn sylw yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef cerflun o penatty try ar y maes Rygbi, a cherflun o Gynrychiolwyr Sir Gaerfyrddin gerbron Hywel Dda." Yr oedd ganddo gerflun o'r Ddraig Goch yn yr Eisteddfod yn Lerpwl y Ujmedd, ac ar ôl gweld hwnnw fe ddywedodd un beirniad fod Mr. Gapper yn ddisgybl i Epstein. Ond 'doedd hynny ddim yn wir. Eistedd yn y Cefn. P\AN oeddwn-i yn yr ysgol," meddai Mr. Gapper, 'doeddwn-i ddim yn cael fawr o hwyl ar y pynciau arferol, ac mi fyddwn i' n cael fy ngosod mewn desg yn y cefn i dynnu lluniau. Pan es-i i Goleg Bangor i ddysgu bod yn beiriannydd trydan, mi drîais gychwyn rhyw fath o ysgol art, ond 'fedrwn-i ddim cael models-pawb yn swil. Ar ôl mynd i Rugby yn beiriannydd y penderfynais-i afael mewn art o ddifrif. Yr oedd cwrs byr mewn art y bûm ynddo yn Llundain wedi ail-godi'r hen awydd. Felly i Lundain â mi, a dyma fi." Mitt MEGAN FOSTER. Disgwyl "y Tafodau." 1Q)U llawer o sôn am gyfarfod Gorsedd y JD) Beirdd a'i beirniaid yn Llanelli, pryd na ddigwyddodd dim ond ymuniad Mr. E. Prosser Rhys (Aberystwyth), a Mr. Caradog Prichard (Caerdydd) â'r Orsedd. Cefais lythyr personol oddi wrth gyfaill oedd yn y cyfarfod hwnnw, a dyma a ddywed Efallai y gellwch ddychmygu sut y bu. Gwyddoch am y siarad a'r sgrifennu a fu yn ystod y flwyddyn am gael cynhadl- edd rhwng y Gorseddogion a'i beirniaid. Anfonwyd gwahoddiadau'n ddigon di- niwed gan awdurdodau'r Orsedd yn atolygu gan yr Allanolion Bethau eu cyf- arfod yn LlaneUi, ond er yr holl sgrifennu anwybyddwyd pobl yr Orsedd yn LlaneUi. Dyna Ue'r oeddynt, yn festri capel y Tabernacl yno, rhyw ddwsin ohonynt yn gytûn yn yr un lle fel yr hen ddisgyblion gynt, yn disgwyl y tafodau tân. (Oblegid y mae'n dra amheus gennyf eu bod yn disgwyl na thywalltiad o'r Ysbryd Glân na Diddanydd Arall yno !) Wedi'r cwbl, hawdd iawn yw siarad a beirniadu, onid e Ac y mae'n hen bryd rhoddi diwedd ar y ffasiwn." Ail Syr John? SONIAI fy nghyfaill hefyd am y beirn- ù' iadaethau, a dywed am eiddo'r Athro J. Lloyd Jones, Dulyn, ar gystadleuaeth awdl y gadair Aeth ef i rywfaint o drafferth i sgrif- ennu beirniadaeth, ac y mae'r seiliau ganddo i adeiladu arni feirniadaeth ddisigl. ^Credaf mai ef a leinw Ie Syr John Morris- v Jones fel beirniad yr Eisteddfod yn y dyfodol." Un o Ddolwyddelen, Sir Gaernarfon, ydyw Mr. J. Lloyd Jones, ac un o hen efrydwyr Coleg y Brifysgol, Bangor.