Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TAITH FODURO ROWND CYMRU Pa wlad fel Cymru i'r modurwr sy'n caru unigeddau ac uchélderau? Y mae ei mân ffyrdd yn troi a throelli mor hudolua ymhliíh y bryn- iau a'r pantiau nes ei bod yn hawdd osgoi'r priffyrdd ac aros ynghudd yng nghanol y moelydd a'r afonydd am ddiwrnodau os mynnir. Y mae'r daith a ddisgrifir уma—о Oastell Nedd rownd Cymru—yn rhoddi i'r teithiwr olygfeydd gorau bryniau'r Gogledd a bryniau'r De, yn gystal â harddwch glannau'r môr. Prin y ceir gweM ffyrdd mynyddig ym Mhrydain na'r rhai sy'n croesi mynyddoedd Arfon, na gwell ffordd-glan-y-môr na honno rhwng Dolgellau â'r Bermo. WEDI gadael Castell Nedd cychwynnwn y daith trwy godi'n urddasol dros y Mynydd Du. Daw'r fîordd â ni heibio i Hirwaun i Benderyn, ac ymlaen dros y moelydd tywyll nes cyrraedd cyn hir at Lyn Tarrel, sy'n 1,400 o droedfeddi i fyny. Pant yw Glyn Tarrel rhwng Bannau Brych- einiog ar y dde ac uchelderau'r Fforest Fawr ar yr aswy, y naill a'r llall yn fynyddoedd adnabyddus. Yma y mae dros hanner can milltir o dir yn ymagor o'n blaen. Rhaid aros i fwynhau'r olygfa hon. Yna disgyn a disgyn i ddyffryn Wysg yn Aberhonddu, a dringo'n syth wedyn dros Fynydd Epynt i Lanfair-ym-Muallt a dyffryn Ithon. Oddi yma i'r Drenewydd y mae'r ffordd yn dilyn afon frithyllog Ithon bron i'w tharddle, tua 1,200 o droedfeddi i fyny. Y mae'r holl wlad y ffordd yma yn unig aruthr, a'i mannau uchel yn rhoddi inni olygfeydd ardderchog. Ceir bryn o'r enw Kerry, ryw dair neu bedair milltir cyn cyrraedd y Drenewydd, ac o gopa hwn ymddengys y gorwel, ar ddiwmod clir, yn bell iawn. Lle arall i aros ac ymdroi. Dacw'r Berwyn. Ar ôl cyrraedd y Drenewydd rhaid troi i'r dde a dilyn y ffordd lai rhamantus sy'n arwain i'r Trallwm (Welshpoól) a ChroesoswaHt (Oswestry). Gadael Croesoswallt, a dacw'r Berwyn yn eich canlyn ar y chwith, ac un o'r mynyddoedd, y Moel Sych, yn 2,700 o droedfeddi o uchter. Ond y mae pethau gwell i ddyfod-Bwlch y Bedol ar y ffordd i Ruthin, ac ar ôl gadael hwn yr ydych ar ben moelydd Cyrn y Brân, a'r golygfeydd oddi yma ymhlith y gorau yng Nghymru. Gorffwyso yma, a bwyta. Dyma ystafell fwyta berffaith y modurwr. Ar ôl Rhuthin, dal ymlaen yn syth drwy Ddinbych i Lanelwy ac yno, neu'n agos, troi i'r chwith a mynd ar hyd ffyrdd troellog i Lanrwst, ac oddi yno i Fetws y Coed a Chapel Curig a thrwy'r bwlch mawr rhamantus i Fangor. Cymru Harddaf. O Fangor ewch ymlaen yn syth i Gaemarfon ac yna dros Fwlch Llanberis, rownd yr Wyddfa, a thrwy Nant Gwynant i Feddgelert. Dyma ddwy o dair ochr dam o dir sy'n cynnwys golygfeydd harddaf Cymru i gyd. Y ffordd o Gaernarfon i Lyn Cwellyn ydyw'r drydedd ochr. Os bydd gennych amser, y mae'n werth mynd yn ôl ac ymgydnabyddu â honno. Hir y cofiwch yr hyn a welwch. Tir corsiog, isel a geir ar ôl Bedd Gelert, a rhed y ffordd ar yr un gwastad â'r môr cyn belled a Harlech a'r Bermo. Ar yr aswy wele bentwr trwm mynyddoedd Meirionnydd, ac ar dywydd taranau y maent megis yn ddigon agos i'w cyffwrdd â'r llaw. Yn y Bermo yr ydych yn troi rownd cornel ac yn dyfod i ffordd enwog Aber Mawddach, ffordd a ystyrrir ymhlith yr harddaf o'i bath ym Mhrydain. Diwedda'r ffordd hon yn Nolgellau, ond y mae'r gweddill o'r daith yn ôl i Gastell Nedd trwy Ddinas Mawddwy a Chemaes a Machyn- lleth a ffordd glan y môr i Aberystwyth a CYMRU ydyw cartref olaf y barcut. Dyffrynnoedd unig ardal Pumlumon a chilfachau pell y tir gwyllt tua tharddle afon Wy-dyna'i unig noddfa ym Mhrydain bellach. Y Barcut. ion cymylau yn gwibio Barcut. drostynt, oherwydd prynhawn gwyntog ydoedd, a chymylau gwynion yn brysio ar draws yr awyr las. Cymru-ei Noddfa Olaf. Er hyn yr oedd y barcut yn aderyn cyffredin iawn ym Mhrydain ar un adeg. Y mae hanes am farcutiaid yn ehedeg o gylch dinas Llundain, a phendefigion ieuainc, oedd mor fedrus wrth hela a'r hebog, yn ym- ffrostio bod ganddynt adar a ehedai atynt. Cofiwn am hyn ychydig amser yn ôl pan eisteddwn dan graig gysgodol ar lechwedd heulog yng Nghymru, yn edrych i lawr ar frigau gwyrddion coedwig oedd fel mantell am lethrau'r dyffryn islaw. Yr oedd ffermdy gwyn oddi tanaf, ac afonig yn ymlwybro trwy'r tir coeth. Y tu draw ymgodai bryniau gleision a chysgod- Llanbedr yn un nad anghofir yn fuan. Gwnewch am Langatwg, ac yna ewch dros gynffon bryniau'r Fforest Fawr, trwy Frynaman a Phontardawe ac Abertawe, ac yna ar hyd yr ugain milltir dawel i Gastell Nedd. Ar un o'r cymylau gwynion hyn mi welwn ysmotyn du-un o farcutiaid prin Prydain. Dechreuodd gylchu dros y dyffryn. Yn sydyn, dacw ysmotyn arall i'r golwg—rhywbeth ag adenydd sythach ganddo. Bwncath ydoedd. Esgynai'r ddau ar adenydd diymdrech a'u dygont fry heb symud, bron. Y fath feistrol- aeth ar yr awyr Fe'u gwyliais hwynt nes eu bod yn ddotiau bychain yn y ffurfafen, ac yr oedd fy llygaid wedi blino pan aeth y bwncath o'r diwedd ar ei ben tua'r ddaear, ac y troes y barcut ei gwrs tua'r gogledd. Hen farcut gwryw oedd yr un a welais i. Ychydig cyn hynny bu ei gymar a'u cyw bach unig yn ehedeg dros y wig yn union uwchben coeden lle'r oedd nyth mawr yn dangos mai yno y magwyd yr aderyn ifanc. Cefais olwg berffaith ar y teulu-eu cefnau cochion, eu pennau llydain, a'u cynffonnau fforchiog. Y gynffon fforchiog ydyw nodwedd arbennig y barcut. Os gwêl neb aderyn mawr tebyg i hebog, a chynffon felly ganddo, gellir bod yn siwr beth ydyw. Maint y barcut, a'i hyfdra, fu'n ddistryw iddo fe'i gwnaethant yn wrthrych hawdd i ddyn â gwn. WRTH HELPU I GARIO PIANO. 'Rwyf yma o dan bwys piano, Offeryn cerdd yw'r gair amdano, A byddai byw yn llai o glefyd Pe bai'n offeryn cerdded hefyd. R. M. J. WALDO WILLIAMS.