Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dewch ar Eich Gwyliau i Hen Deyrnas Çeltaidd Ellan Vannin (Yr Eil-o-Man) y genedl leiaf yn y byd. Annibynnol ac yn ei llywodr- aethu ei hun. Cyfansoddiad cenedlaethol 2,000 oed. Jaith, miwsig a llên gwerin Geltaidd. Dewch i weld seremoni'r Tyn- wald, yr unig hen drafodfa werin sydd â galluoedd cyfreithiol llawn ganddi hyd y dydd heddiw. Dewch i glywed Deddfau Mann yn cael eu cyhoeddi yn hen iaith Manx- A phrofwch drosoch eich hun werth y traddodiad Celt- aidd o letygarwch. yn yr Eil-o-Man y bydd y Gyngres Geltaidd y flwyddyn nesaf. Beth am wneud yr ynys yn ganol- fan eich gwyhau ? Mi fedrwch dreulio'r gweddill ohonynt yn crwydro trwy'r ynys hardd hon- a adwaenid yn yr hen storïau Celtaidd fel Gwlad yr Addewid -ac fe'i cewch yn orlawn o swyn. Arweinlyfr hardd, gyda map mawr o'r ffyrdd, i'w gael yn rhad ac am ddim oddi wrth W. W. Clague, Publicily Dept., Isle of Man. Tar dys Ellan Vannin, sleih Celtagh, as yiow shiu Shee dy vea Magu PABYDDIAETH yng NGHOLEG DEWI SANT Gan y Parch. ARTHUR T. RICHARDS, Curad Eglwys Fichael, Aberystwyth. OS myn neb weled twf Pabyddiaeth yng 'I Nghymru, sylwed ar Gymdeithas Dewi Sant. Y mae aelodau'r gymdeithas hon yn gweithio'n ddiflino i ddad-wneud gwaith y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru. Nid cymdeithas gudd mohoni, ac ni bu erioed yn gweithio yn y dirgel. Ei huchelgais fawr ydyw trwytho'r Eglwys yng Nghymru â Phabyddiaeth, ac y mae'n llawenhau am y llwyddiant sy'n ei dilyn. Yn ôl y Church Times, dyma dasg fawr y Gymdeithas Dyfod a'r bobl yng Nghymru i'r stad ysbrydol honno lle y gwelir cyflawnder ac undod y grefydd Gatholig megis Gwlad Addewid. Gwna Coleg Dewi Sant, Llanbedr (Sir Aberteifi)-coleg yr Eglwys yng Nghymru- ganolfan ardderchog i ledaenu'r athrawiaeth. Y Parch. W. H. Harris, llywydd y Gymdeithas, ydyw darlithydd diwinyddiaeth y coleg, ac yn naturiol dysgir syniadau defodol eithafol i'r gwyr ieuainc sy'n paratoi ar gyfer y weinidog- aeth. Fe fydd y gwyr ieuainc hyn yn eu tro yn pregethu'r athrawiaethau i'w plwyfi ac yn gweithredu'r hyn a ddysgwyd iddynt. Sylwer nad oes gan yr Eglwys yng Nghymru ddim un coleg lle y rhoddiri wŷr ieuainchyffordd- iant cadarn yn y ffydd efengylaidd. Y mae'r colegau'n prysur droi'n fagwrfeydd defodaeth. "Persawr Arogldarth." Ond nid digon gan y Gymdeithas weithio trwy'r colegau. Er mwyn rhoddi cyfle i werin Cymru ddysgu'r athrawiaeth Gatholig iawn, y mae'r Gymdeithas o dro i dro yn cerdded i blith y pentrefi o amgylch, gan ddwyn gyda hi ei gêr seremonïol. Dyma hanes a gyhoedd- wyd yn y Church Times am wasanaeth diweddar: Aeth adran Coleg Dewi Sant o Gym- deithas Dewi Sant ar bererindod y Sadwrn diwethaf i adfeilion hen fynachlog Ystrad Fflur. Cerddodd yr Orymdaith, dan ganu'r Litani, o allor Eglwys yr Abaty, trwy adfeilion llawr a changell yr Abaty, at y man 11e y safai'r allor-man a sancteidd- iwyd gan ganrifoedd o addoli catholig- ac oddi yno dyrchafwyd unwaith eto weddiau plant Duw a phersawr arogldarth. Yna aethpwyd yn ôl i Eglwys yr Abaty a chanwyd yr offeren gan y Tad Harris, caplan Siaptr y Coleg. Dyma ail ymweliad y Gymdeithas â'r hen adfeilion hyn. Gobeithir y bydd i'r ymweliadau, wrth anrhydeddu Duw yn ddyladwy, ennyn hefyd yng nghalonnau dynion serch newydd at yr Eglwys Gatholig yng Nghymru-gwlad fu gynt yn gartref saint ac sydd wedi dioddef y fath golledion garw trwy wamal ddinistr ei chysegrfeydd a'i chartrefleoedd dysg. Pa faint o anrhydedd a dalwyd i Dduw nis gwyddom, ond credaf nad oes gan wladwyr Cymru ond dirmyg at rodresa gwag fel hyn. Y Dr. Maurice Jones, Prifathro Coleg Dewi Sant. Y mae gan y Gymdeithas ddull arall hefyd o hysbysu ei gwaith. Cadwyd ei gwyl flynyddol eleni yn Eglwys Ddyfrig, Caerdydd, ac yno dathlwyd yr Uchel Offeren. Yn ôl yr hanes, "nodweddid yr wyt gan frwdfrydedd a chymdeithas dda, ac o ran rhif aelodau, yr oedd ar flaen unrhyw wyl arall." Yn y cyfarfod cyffredinol, a'r llywydd (y Parch. W. H. Harris) yn y gadair, cynigiwyd codi'r tanysgrifiad o swllt i hanner coron yn wyneb cynnydd gwaith y Gjmideithas." Fe benderfynwyd hefyd gael Cymdeithion yn y Gymdeithas yn ogystal ag aelodau, er mwyn cefnogi'r aelodau i ddyfod i gyswllt llai ffurfiol â'r Gymdeithas a'i gwaith. Mewn cyfarfod diweddarach, fe agorodd y Tad Weatherill (Ficer y Fenni) drafodaeth ar Gamre Cyntaf Adfywiad Catholig yn ei berthynas â phlwyfi Cymreig, a galwodd sylw at bwysigrwydd gwneuthur defnydd llawn o drysorau Catholig y Llyfr Gweddi." Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar gan Gwrnni Burns Oates, a dyma'r ffigyrau a roddir ynddo ynglŷn ag esgobaeth Babyddol Mynwy 1929. 1930. Nifer Eglwysi Pabaidd 60 65 Bedvddìadàu 474 478 Priodasau. 173 183 Poblogaeth Babyddol 11,929 12,474 Onid yw'n drist nad oes gan Gymru ddim un Gymdeithas Brotestannaidd ar waith ? Ychydig o bobl o'r tu allan i gyfundeb yr Eglwys yng Nghymru sy'n medru sylweddoli difrifwch pethau, ac nid oes neb hyd yn hyn wedi gallu magu digon o wroldeb i wynebu'r gelyn sy'n camu ymlaen. Gwyr y defodwyr yn dda am y diffygion hyn. Gwyddant hefyd sut i fanteisio arnynt. Y mae digon o arwyddion fod bywyd yr eglwysi efengylaidd yn gwanhau, ac er bod Cymru'n enwog am gewri ei phulpud, y mae ein pregethu ar y goriwaered.