Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama. Cannoedd o Gwmniau'n CHWILIO am DDRAMA. Gan RHYS PUW. NEWYDD da i Gymru oedd y newydd fod Cymdeithas Ddrama Trecynon, Aberdâr, am godi theatr iddi ei hun. Pe bai gan ddwsin o gwmnïau gorau Cymru ganolfannau fel hyn i weithio ynddynt buan iawn y tyfai'r ddrama yn un o'r prif nerthoedd ym mywyd Cymru. Syr D. R. Llewellyn a roddodd y tir i'r Gymdeithas i godi'r theatr arno. Gobeith- iwn," meddai Mr. Tom PhiUips,. cadeirydd y Gymdeithas, fedru gwneud AberdAr yn gartref y mudiad drama yng Nghymru." Nid wyf mor siwr o hyn. Go anodd ydyw i unrhyw ardal fod yn gartref y ddrama Gymraeg, ond fe all Trecynon wneud eu theatr hwy yn batrwm o'r hyn a ddylai canolfan drama fod. Dywedodd Mr. Philhps hefyd Yr ydym yn gobeithio sefydlu ysgol ddrama, a datblygu honno o dipyn i beth yn glwb drama, ar dduU y cannoedd sy'n bod eisoes yn Lloegr." Eisoes y mae dros dri chant o bobl yn barod i ymaelodi. Trwy dalu 10s. 6ch. y flwyddyn bydd ganddynt hawl i weld pob drama a ber- fformir gan y Gymdeithas. Fe fydd holl gwmnïau Cymru o hyn ymlaen yn cadw eu llygaid ar Drecynon. Pum Cant o Gwmniau. Rhaid bod pum cant o leiaf o gwmnïau drama yng Nghymru heddiw, oherwydd ceir cwmni bron ym mhob ardal a chwmwd. Y maent yn cynnwys pob math, wrth gwrs--rhai gwael, rhai gwael iawn, rhai gweddol, a rhai da, ond byddaf bob amser yn synnu wrth gofio am eu cynnydd. Bymtheng mlynedd yn ôl nid oedd ond rhyw bymtheg o ddramâu Cymraeg ar gael. Heddiw ceir rhwng 400 a 500,­cynnydd o tua 30 bob blwyddyn. Mudiad wedi tyfu ohono'i hun ydyw, nid rhywbeth wedi ei osod oddi uchod. Nid rhyw- beth wedi tyfu dan nawdd ysgol na choleg nac eglwys ydyw, ond rhywbeth â blas pridd daear Cymru arno-mudiad y mae trefwr a gwladwr, y dysgedig a'r annysgedig, yn gwybod eu bod yn aelodau cyfartal ynddo. Cynllun Newydd. Nid yr actor yn unig sydd wedi codi ei safon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y mae'r gwrandawyr yn llawer gwell-yn gliriach eu meddwl a'u deall jmglŷn â gwaith y Uwyfan. Ond rhaid wynebu'r ffaith bod dyfodol y mudiad yn dywyll iawn oni lwyddir i wneuthur rhywbeth i gynorthwyo'r rhai sy'n cyfansoddi drama. Y mae digon yn trio'u llaw ar y gwaith — cafwyd 30 ohonynt i gystadleuaeth Llanellí. Y mae cynllun dan sylw ar hyn o bryd i geisio cynorthwyo'r cyfansoddwr trwy roddi cyfle iddo weld ei ddrama ar y llwyfan ac, o'i gweld, canfod ei wendidau a'r modd i'w gwella. Bwriedir cynnal math o Wyl Ddrama," pryd y perfformir gweithiau newydd yn Gymraeg. Fe ddewisir y chwe drama orau- o'u darUen — ac fe gaiff yr awdur drefnu â chwmni i lwyfannu ei ddrama. Yna fe ddewisir y ddrama orau-heb ystyried safon y cwmni- o'i gweld ar y Uwyfan. Fe ddaw cyfle i sðn ymhellach am y cynllun eto. Yn y cyfamser, beth yw barn darllenwyr Y FORD Gbon ? Y Tymor Newydd. Y mae tymor drama arall yn awr wedi cychwyn. Deil y gwyliau drama yn boblogaidd iawn, ac yn ystod y mis nesaf yn y De fe fydd Dowlais, Cwmdâr, a Thredegar yn cynnal eu brwydrau yn eu tro. Fe fydd rhai o brif gwmnîau'r De yn yr ornest fel arfer. Ac yn y gwanwyn fe ddaw gŵyl ddrama Abertawe, un o brif ddigwyddiadau'r tymor. Y mae sglein bob amser ar berfformiadau Abertawe. Undeb y Gogledd. Y digwyddiad mwyaf diddorol ym myd y ddrama yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar fu sefydlu Undeb Drama'r Gogledd." Cynhaliodd yr Undeb ei hysgol ddrama gyntaf yn Llanfairfechan, a bu'n llwyddiant llwyr. Disgwylir y bydd yr Undeb hwn yn fantais fawr i gwmnïau gwledig. Anhawster mawr y Gogledd ydyw diffyg neuaddau cymwys, ar wah&n i'r trefi a'r pentrefi mwyaf poblog. Oherwydd hyn, rhaid i gwmnïau 'n fynych beidio A dewis rhai o'r dramâu gorau i'w hactio. Actorion Gwych. Bu holl gwmnîau'r Gogledd yn brysur y gaeaf diwethaf. Bu cryn wahaniaeth yn eu plith o ran dewis dramâu, ond ni thorrodd un ohonynt dir newydd iawn. Er hynny, cafwyd perfformiadau teilwng gan nifer ohonynt. Cwmnïau Dyffryn. Madog, Penmaen- mawr, Penrhyndeudraeth, a Chaernarfon (" Y Ddraig Goch") ydyw cwmniau blaenaf y Gogledd. Ceir rhai actorion gwych yn y cwmnîau hyn, megis Mr. Llew Buckingham, Porthmadog; Mr. Bleddyn Ll. Roberts, Harlech Mr. Lloyd Davies, Penrhyndeudraeth Mrs. Phillips Williams, Penmaenmawr Miss Gwyneth Wilhams, Abermaw, a cheir nifer dda o rai eraill gobeithiol iawn. Yn yr ail ddosbarth gellir gosod cwmniau Rhostryfan, Llyfnwy, Conwy, Llanrug, Dis- gwylfa (Llanberis), Llangoed (Môn), Talysam, Talybont (Conwy), Cwmni Machno (Pen- machno), Machraeth (Môn), Bodedern (Món), a Thregarth. Clywais fod tri chwmni yn paratoi yn Nyffryn NantUe ar gyfer y gaeaf hwn, sef Talysarn, gyda drama newydd Y Crogbren" (Gwilym R. Jones); Cwmni Llyfnwy gyda Ffordd yr holl Ddaear (J. O. Francis), a'r Parch. Huw Roberts yn gyfarwyddwr iddynt, a chwmni Penygroes gyda'r "BobI Fach Ddu" (J. O. Francis). Y mae cwmniau Madog," Penrhyn. deudraeth, Caernarfon, a Phenmaenmawr hefyd yn paratoi dramâu newyddion. Y mae cryn weithio ar y ddrama ym Môn hefyd, ond cwynir oherwydd prinder neuaddau cymwys a chyfieus. Gwynfor o Hyd. Tua 30 mlynedd yn ôl y cychwynnwyd mudiad y ddrama yng Ngogledd Cymru. Cafwyd un neu ddwy o ddram&u Cymraeg gan y diweddar Mr. Beriah G. Evans, a ffurfiwyd cwmni drama yn nhref Caernarfon, gyda Gwynfor yn gyfarwyddwr iddo. Y mae Gwynfor wedi glynu hyd heddiw wrth y gwaith. Ystyrrir Cwmni y Ddraig Goch yn un o gwmnîau drama gorau Cymru, a gellir dweud mai Gwynfor yw un o actorion mwyaf profedig y genedl. P'le y ceir Drama? Gresyn bod poblogrwydd y ddrama wedi tyfu'n gyflymach na'r grefft o'i hysgrifennu. Beth yw'r rheswm bod dramau Cymraeg mor brin Paham na chafwyd dim drama deilwng o'r wobr yn Eisteddfod Lerpwl na Llanelli ? Yr wyf yn credu i Mr. W. J. Gruffydd gyffwrdd A chalon y drwg flynyddoedd yn ôl pan ddywedodd Gall Methodist ysgrifennu traethawd, ac Annibynnwr ysgrifennu cerdd, ond rhaid cael Cymro i ysgrifennu drama, oherwydd mai wrth genedl gyfan y mae bardd y ddrama yn llefaru ac nid wrth ran ohoni." Sut bynnag, y mae'r cwmnîau ar hyn o bryd yn methu cael gafael ar ddramâu sy'n deilwng o'u sylw a'u hymdreohion. Y mae Cymru yn galw am ddramâu. Distawodd Mr. D. T. Davies, Mr. W. J. Gruffydd, a Mr. R. G. Berry, a'r wlad yn dlotach am hynny. Mr. D. Haydn Davies. Cred llawer fod Cymru wedi colli cyfle pan wrthodwyd cynnig y British Drama League i ystyried Cymru yn adran ar wahân. Er hynny, y mae'n dda gwybod fod gan Gymru ei chynrychiolydd ar Gyngor y League, sef Mr. D. Haydn Davies, Maerdy, Rhondda, gŵr sy'n gyfarwyddwr un o'r cwmnïau drama mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Dylai cwmnïau Cymru geisio cadw mewn cyffyrddiad agos ag ef. Mr. Davies hefyd a benodwyd gan Bwyllgor Hyrwyddo Moddion Addysg yn Ardaloedd Glo i hyfforddi a chynghori cwmnïau drama yng nghymoedd y De. Gwnaethpwyd yn fawr o'r cyfle. Cynhal- iwyd ysgolion drama, gyda darlithiau gan Mr. Davies ar gynhyrchu ac actio, a rhoddwyd benthyg gêr y llwyfan a make-up yn rhad ac am ddim. Trefnwyd hefyd i gynrychiolwyr nifer fawr o gwmnïau gael ymweld â'r New Theatre, Caerdydd, i weled dulliau diweddaraf rhai o brif gwmnïau'r deyrnas. Bu'r gwaith yn llwyddiannus dros ben. Pan aethpwyd i weld y Macdonna Players yn chwarae Pygmalion" (Bernard Shaw) ddechrau'r flwyddyn, disgwylid cael cwmni o 60 neu 60, ond pan gyrhaeddwyd y theatr, gwelwyd fod y cwmni'n 250 o rif. Y mae'r gwaith i'w barhau eleni eto, ac os bydd ysgrifennydd unrhyw gwmni drama am fanylion pellach, anfoner at Y FoRD GRON. Y Crefftwyr. Bu adeg pan nad oedd neb ond yr actor yn cael sylw, ond heddiw sylweddola'r cwmnïau fod yn rhaid iddynt ddatblygu o'u mysg ddyn y trydan, y dyn paentio golygfeydd, y dyn paentio wynebau, y saer, ac felly ymlaen. Y mae'r rhain yn gymaint o ran o'r cwmni a'r actorion, ac ni all cwmni deimlo'i fod yn tyfu'n grwn ac iaoh os nad ydyw'n datblygu'r crefftwyr hyn.