Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BREUDDWYDION BLAENORIAID Mr. R. G. Berry yn gwenu o'i Gilfach. YR oedd disgwyl mawr ymhlith pentref- JL wyr llan bychan y gwn amdano, y tro cyntaf iddynt herio'r tadau a pherfformio drama. Yn nhywyllwch yr ysgoldy, bron na ellid clywed pin yn syrthio gan mor bryderus yr oedd pawb rhag ofn mai gwarth a ddeuai trwy'r hyn oedd ar ddigwydd. Pan dynnwyd ymaith y llen i ddangos y saer a'i brentis yn sôn am goed a hoelion, fe chwardd- odd pawb o waredigaeth am fod popeth mor gyffredin, mor ddoniol o gyffredin-bron na fyddai'n gywir dweud mor barchus gyffredin. Ennill ei Wrandawyr. Yna. ar ôl un waredigaeth daliodd pawb ei anadl gan ofn pan ymddangosodd y gof yng Y Parcb. R. G. Berry. nghob felfed y potsiar, a phen gwningen yn syllu'n drist o'i phoced ond pan ddeallwyd nad oedd gormod rhyfyg yn hyn ychwaith, aeth mwyniant y cyffredin, doniol, yn llawenydd yr ang- hyffredin, rhyfedd ­aeth y chwerthin yn floedd. Yr oedd yr awdur wedi ennill ei wrandawyr ofnus. Enw'r ddrama hon oedd Ar y Groesffordd," a'r awdur oedd Mr. R. G. Berry. Yn awr, ar òl nifer go faith o flynyddoedd, dyma Mr. Berry wedi cyhoeddi cyfrol o straeon byrion tan yr enw Y Llawr Dyrnu (Gwasg Aberystwyth, 3s. 6ch.), a daw'r cwestiwn i'n meddwl a enilla Mr. Berry ei gyhoedd y tro hwn ? Cwsg Pen Blaenor. Sut storíau ydynt ? Os oes arnoch eisiau ychydig o ramant, ychydig o brudd-der hen deulu wedi syrthio o gyfoeth i dlodi, darllenwch Tlawd a Baleh os ydych am wybod am fywyd gwledig, darllenwch Ar Goll." Ac yna dyna'r stori ola'r llyfr, Hunllef," lle y ceisir portreadu'r dyfnion bethau sydd yn torri ar gwsg hen ben blaenor. Dylai Mr. Berry wybod am freuddwydion blaenoriaid ac yntau, os nad wyf yn methu, wedi bod yn y weinidogaeth drwy'i oes ond ni allaf lai nac amau mai dechreuad y stori hon oedd jokes cyfarfod misol ryw fore ymhlith y crochanau—wedi gorffen yr ham oer a'r tê, pan oedd pibellau'n dechrau tynnu a gweision yr efengyl yn ceisio edrych mor llawen ag y gâd bwyd cyfarfod misol iddynt. Mr. Berry wedi newid. Yn y dramâu yr oedd Mr. Berry yn ifanc, yn ofnus ac yn trweled breuddwydion yn aml yn anodd i'w sylweddoli. Ond yn y straeon y mae gŵr arall i'w weled. Y mae ganddo o hyd y teimlad fod breuddwydion yn anodd i'w sylweddoli, fod bywyd i rai yn beth i'w ofni, ond y mae ef ei hun wedi caledu ei galon ac yn ysgrifennu gydag amhleidrwydd sy'n rhoddi sefydlogrwydd a chrisialrwydd i'r straeon nas ceir yn y dramau. Nid oes un o'r cymeriadau DYN SY'N DEALL wedi eu concwerio'n llwyr, y maent hwythau wedi rhoddi dyrnodau gymaint ag a gawsant. Ac y mae gwên ar wyneb y gŵr sydd y tu ôl i'r straeon-y mae ei brofiad yn awr yn aeddfed ac yntau yn llawn o sirioldeb gwybodaeth. I Gilfach. Er pan ysgrifennodd Ar y Groesffordd," y mae Mr. Berry ei hun wedi symud o sŵn brwydrau credoau a bloeddio pleidiau ar hyd llwybr unig i gilfach lle y mae ef ac eraill yn edrych gyda deall, ac efallai gydag ychydig ddirmyg, ar ei gyd-ddynion yn ymdderu ac yn dal pwys a gwres y dydd. Ac, wrth edrych, nid yw ei waed yn poethi a'i wyneb yn cochi yn awr-yn hytrach y mae'n troi ei lygaid yn ôl ac yn cofio'r hyn a fu gyda mwynder hiraethus cof. Sibrwd yn eich Clust. Y mae pedair o straeon newydd yn y llyfr hwn sy'n sefyll ar wahân i'r gweddill. Bywyd Cymreig yw eu sylfaen, ond nid yr agweddau hynny sydd i'w cael yn y papurau cyfundebol. Trwy ddamwain mewn sgwrs y deuir o hyd i batrymau'r straeon hyn. Fe'u traethir hwy wrthych mewn llais isel gyda blas, a chyda'r geiriau, 'Hoffwn i ddim dweud wrth neb ond chwi," ac wedi'u clywed, ewch chwithau, os ydych ddynol, i'w traethu gyda'r un blas wrth rywun arall dan ddweud yr un mor phariseaidd na hoffech i neb arall glywed am danynt. Ymylon Bywyd. Straeon ymylon bywyd ydynt; dyma gym- deithion yr herwhelwyr sy'n gwibio trwy Rhys Lewis dyma'r gwyr sydd yn ddifater ynghylch gwobrau materol bywyd y mae'r rhan fwyaf o ddynion yn ymdrechu mor galed amdanynt er teimlo weithiau nad ydynt werth y chwys a'r llafur. Mewn gair, gwelir yn y cymeriadau hyn yr anghyffredin deniadol sydd ar yr un pryd yn her i gymdeithas ac yn gasbeth ganddi. Yn Urddedig cawn hanes gŵr Pwnsh a Jiwdi "-rhaid dweud bod Mr. Berry wedi mentro'n arw wrth awgrymu bod un o genedl ADOLYGIADAU MEWN BRAWDDEG. FFRAINC a'i PHOBL, gan R. T. Jenlcins (Hughes a'i Fab, 3s. 6ch.)—Cymro gwybodus, siriol, yn adrodd rhwng dau oleuni—goleuni ddoe a goleuni heddiw-hanes ei deithiau yn Ffrainc. YR ArEL AT HANES, gan R. T. Jenhins (Hughes a'i Fab, 3s. 6ch.)—Un ar ddeg o homiliau, y rhan fwyaf ar hanes Cymru, gan wr sy'n deall ysbryd Cymru drwy'r oesoedd ac sy'n teimlo'n ostyng- edig a breintiedig wrth ddynesu ato i'w ddehongli. THE LIFE OF ROBERT OWEN, by G. D. H. Cole, ail argraffiad (Macmillan, 12s. 6ch. net)-Llyfr awdurdodol gan economydd disglair, ar fywyd y Cymro eneidfawr a welodd, mewn oes hunanol, mai trefn iawn ar fywyd economaidd cym- deithas ydyw'r allwedd i ddatrys problemau moesol yn ogystal â phroblemau gwleidyddiaeth. barchus y Cymry wedi disgyn i'r fath swydd, ac i haeru at hynny ei fod yn offeiriad Pabaidd Ond yn y stori hon, efallai yn fwy nac yn un, cawn gip ar enaid na lonyddwyd mohono ond yn llonyddwch y gred oedd rywle yn isel tan yr wyneb. Person yn y Wlad. A dyma stori Llaw y Llifwr," ne cawn Robert Meurig, ysgolor Groeg a Lladin, gŵr gradd o brifysgol Rhydychen, yn dechrau ar ei waith fel person yn y wlad, ac ar ddiwedd oes yn sylweddoli fod ei berthynas gwyr marw Groeg a Rhufain yn agosach nac â'r byw yr oedd yn ceisio'u porthi â bwyd ysbrydol. Os oes darlun o fywyd dosbarth yng Nghymru yn wir, hwn yw. 0 ddyddiau'r Morisiaid a Goronwy Owen hyd heddiw y mae Robert Meurig y stori hon yn ceisio defnyddio'i Roeg a'i Ladin, ond heb wybod sut i dreiddio trwodd at galon ei blwyfolion a'i bentrefwyr, ac, o'u cael hwythau yn galed a di-awen, yn cilio i'w Horas, i'w hynafiaethau lleol, neu i'w gwrw. Dull tawel, clir. Ond nid dyma unig swyn y stori hon. Eiswyn pennaf i mi o leiaf-ac y mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o'r llyfr-yw'r dull tawel, clir, yr ysgrifennwyd hi ynddo dull sydd yn gweddu i'r testun ac o ran ysbryd yn estyn yn ôl dros ddwy ganrif at lythyrau'r Morisiaid ac i'r ddeunawfed ganrif pan oedd astudiaeth o'r clasuron yn ei bri a'r eglwys yn gyntaf yn gartre dysg (nid duwioldeb) a Theophilus Evans yn ysgrifennu yn erbyn y peth hwnnw a alwai yn enthusiasm. Byddaf yn dychmygu gweld Mr. Berry weithiau'n codi yn ei gilfach i wneuthur nodiad yn ei ddyddlyfr o'r amryw ryfeddodau a gyf- lwyna bywyd iddo. Ac yn y dyddlyfr hwnnw mi gredaf y ceid y llinellau a ddododd Robert Meurig yn ei ddyddlyfr yntau Bene est cui deus obtulit parca quod satis est manu dedwydd y sawl y mae'r duwiau crintach yn rhoi eu gwala iddynt heb ddim yn sbâr." IOLO. LA LANGUE DES RELATIONS INTERCELTIQUES, par Louis N. Le Roux (" A L'Ensigne de L'Hermine," Dinard, Llydaw a Foyle's Welsh Depôt, Llundain, Is.)-Deil M. Ie Roux mai un o'r ieithoedd Celtaidd eu hunain, yn hytrach na iaith wneud fel Esperanto, a ddylai fod yn gyfrwng ymdrafod rhwng y cenhedloedd Celtaidd, os oes rhaid wrth ryw un iaith at y diben hwn, ac y mae ganddo bethau beiddgar i'w dweud am genedlaetholdeb y Celtiaid. MORGAN Llwyd YMCHWILIAD I'R PRIF DDYLANWADAU Fu ARNO, gan y Parch. E. Lewis Evans (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 5s. )—Llyfr gwerthfawr iawn i efrydwyr hyddysg llenyddiaeth. CYNLLuN NEWYDD YN Y GYMRAEG Cyfres Yr Athro," Rhif 1 (Hughes a'iFab, ls. 6ch.)— Amlinelliad ardderchog o waith dwy flynedd mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith.