Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEINI LLUNDAIN YN LLEFARU, I. Ffrae Inigo Jones a Ben Jonson Gan у Ddr. G. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, Surrey. Eglwys Benet Sant ydyw'r eglwys Gymraeg hynaf yn Llundain. Un o'i phlwyfolion hi oedd tad Inigo Jones, y cerflunydd o Gymro, gẃr y mae ôl ei law ar adeiladau harddaf y brifddinas. Yn ei chysgod hi y magwyd Inigo, ac yn ei mynwent hi y mae ei fedd. BU penodi Inigo Jones i'r swydd o JD) Arolygwr Cyffredinol y Gweithfeydd yn 1615 yn garreg filltir yn hanes pensaernîaeth yn Lloegr. Dyma rai o'i orchestion yn ystod ei swydd Eglwys St. Catherine's Cree (yn y Ddinas) capel Lincoln's Inn rhan o blas brenhinol anferth yn Whitehall a'i waith di- dâl ynglŷn ag Eglwys Gadeiriol newydd Sant Paul. Yn 1573 y ganwyd Inigo Jones, ac o'i faban- dod yr oedd ei ddawn at dynnu lluniau, ac yn arbennig at baentio golygfeydd, yn rhagfynegi ei gymhwyster i fcd yn bensaer. Cafodd deithio yn yr Eidal ar draul Iarll Penfro, ac fe ddy- lanwadwyd yn fawr arno gan ei brofiadau mewn gwlad nior dryfrith o adfeilion rhamantus a champweithiau celfyddyd. SPECIAL OFFER. In order to Introduce GREAT THOUGHTS to those who do not know this high-class Magazine in its new and enlarged form the Publisher makes this Special OfFer. THE MAGAZINE FOR PHILOSOPHY LITERATURE SCIENCE Send now, before the stock is exhausted THE PUBLISHER, 4 BOUVERIE STREET, London, E.C. 4. Gresyn na chafodd un oedd mor llawn o frwdfrydedd dros gelfyddyd gain ddilyn ei yrfa heb aflonyddwch. Ond nid felly y bu. Cyhuddwyd ef o gamddefnyddio'i swydd. Cwynodd plwyfolion Sant Gregory, ger Eglwys Sant Paul, wrth Dy'r Cyffredin, fod Inigo wedi dinistrio eu heglwys wrth ddilyn ei fympwyon pensaernîol. Ffraeodd hefyd â Ben Jonson, ac y mae hwnnw wedi ei bortreadu ef yn ei ysgrif, A Tale of a Tub," dan yr enw Vitruvius Hoop. Pan fydd arnaf eisiau disgrifio'r dyhiryn mwyaf yn y wlad," meddai Ben Jonson wrth yTywysogSiarl,"mi a'i galwaf ef yn Inigo." Fe ymyrrodd Cymro enwog arall—James Howell, y teithiwr a'r llythyrwr adnabyddus­ yn yr ymrafael, ac annog Jonson i liniaru tipyn ar ei wawd, rhag ofn iddo ddigio'r brenin-digwyddiad sy'n braw fod gan y brenin Iago feddwl mawr o Inigo. Yn ddifeddwl, dioddefodd Jones yn ystod y rhyfel rhwng y Senedd â Siarl y Cyntaf. Achwynwyd iddo guddio pentwr o arian yn Scotland Yard, a hynny yn wyneb gorchymyn pendant yn erbyn y fath drosedd." Addew- sid y rhoddid hanner y trysor cuddiedig i'r sawl a ddatguddiai'r gamwedd. O'r diwedd dyma Inigo'n ceisio noddfa gydag Ardalydd Winchester yn Basing House, ac yno yr oedd yn trigo pan gymerwyd y lIe gan Oliver Cromwell. Cymerwyd gafael ar ei eiddo dros amser ond dan yr esgus na ddygodd ef arfau yn erbyn y Senedd, fe'i gollyngwyd ef yn rhydd, ar yr amod y talai ddirwy o £ 1,045, a chafodd ei ystad yn ôl. Ei Lun yn Leningrad. Adeiladodd breswyl iddo'i hun yn 31, St. Martin's-lane, Uo bu fyw'n ddi-briod. Bu farw yn 1650. Codwyd cofadail iddo yn Eglwys Benet Sant—cofadail y gadawsai ef £ 100 ati yn ei ewyllys. Fe'i niweidiwyd hi yn Nhân Mawr Llundain, a chafodd ei dinistrio A 1. MAGAZINE FOR 3d. Post Free ART Bannau r Ffydd. O'r Bala i Geneva. Yr Apel at Hanes. Ynys yr Hud. AR WERTH GAN LYFRWERTHWYR YM MHOBMAN IIJÜGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM. Myfyr yn Angladd R. Silyn Roberts. MOR ddedwydd ydyw'r deryn gwyllt Heddiw a hyllt yr awel Yfory, pan fo'i dranc gerllaw, Fe gilia draw i'w argel A neb ni wêl na lle na dull Ei farw tywyll, tawel. TITHAU, a wyddai grwydro'r rhos Pan losgai'r nos ei lleuad,- Yr awr o'r dydd pan gasgl y byw I roddi'r gwyw dan gaead, Daethost lle gwêl y neb a fyn Ddyffryn dy ddarostyngiad. Ç\ NA bai marw'n ddechrau taith Trosodd i'r paith diwethaf Lle ciliai'r teithiwr tua'r ffin Fel pererin araf, Cyn codi ar y gorwel draw Ei law mewn ffarwel olaf. R. W. PARRY. pan gododd Christopher Wren yr eglwys bresennol. Efallai i ymwelwyr Cymreig â Leningrad, Rwsia (Petersburg gynt) deimlo ias o falchder, fel y teimlais innau, o weld ym Mhlas y Gaeaf," ddarlun o'u cydwladwr wedi ei baentio gan Vandyck a chan fod Llywodraeth Rwsia wedi arbed yr orielau darluniau yn y wlad, gallwn obeithio bod Inigo Jonos yn parhau i syllu'n ddigyffro ar y terfysg a'r cynnwrf presennol yn y ddinas alaethus honno. Dehongliad meistrolgar o Brif Athrawiaethau'r Grefydd Gristnogol, gan yr Athro D. MIALL EDWARDS. 404 td. 82" x h\ Lliain, 12/6. Hanes yr hyn a welodd Syr Owen EDWARDS ar ei deithiau drwy'r Cyfandir. 144 td. 71" x 5". Lliain, 2/6. Un o lyfrau pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Gan R. T. JENKINS. 182 td. 7 t" x 5". Byrddau, 3/6. Cyfrol o Brydyddiaeth aeddfed ac athrylithgar W. J. GRUFFYDD. 112 td. 7t" x 5". Byrddau, 3/9.