Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MANCEINION YN EFFRO. Gan MR. HENRY ARTHUR JONES. YN ôl census 1921, yr oedd 59,000 o Gymry a anwyd yn yr Hen Wlad yn byw yn Sir Gaer- hirfryn (Lancashire). Yr oedd 11,000 ohonynt ym Manceinion, a sicr yw fod bron y cwbl yn Gymry o ran gwaed a thafod. Nid oes ffigurau ar gael i ddangos nifer y Cymry a aned yn y ddinas, ond diogel ydyw dyfalu eu bod i'w rhifo wrth y miloedd, oherwydd dechreuodd yr vmfudo yma o Gymru ymhell bell yn ôl. Y mae yma 13 o eglwysi Ym- neilltuol Cymreig, ac un Eglwys Sefydledig. Tua 2,500 ydyw cyfanrif eu haelodau cyflawn. Nid yw hyn ond 23 y cant o'r 11,000 Cymry a grybwyllwyd. Diau bod llawer iawn o'r gweddill yn addoli gyda'r Saeson, am amryw resymau. Y Tymor Newydd. Ar wahân i'r enwadau, y Gym- deithae Genedlaethol ydyw'r trefniant mwyaf amlwg dylanwadol. Dechreu- odd y Gymdeithas hon ei gyrfa yn agos i hanner canrif yn ôl, ac y mae mor fyw heddiw ag y bu ar uruhyw adeg oddi ar hynny. Ei phennaf swydd ydyw trefnu cyfres o ddailithiau bob tymor gaeaf, a chafodd ei gwasanaethu ar hyd y blynyddoedd yn y cyfeiriad hwnnw gan oreugwyr y genedl. Saif yn rheng flaenaf cymdeithasau cenedlaethol yng Nghymru neu allan o Gymru. Yn ystod y mis diwethaf (Hydref), bu'r Parch. J. Seymour Rees, Seven Sisters, yn annerch y Gymdeithas ar Syr O. M. Edwards, a Mr. Idwal Jones, yr awdur dramâu a'r hiwmorist, o Lanbedr, Ceredigion, yn darlithio ar Ar y Llwyfan." Ai y 21 o Dachwedd fe geir darlith gan y Parch. D. James Jones, Is-warden, Coleg Harlech, ar Reddf." Y Ford Gron. Cymdeithas arall ym Manceinion ydyw Cymdeithas Y Ford Gron. Y mae hon hefyd yn anenwadol ac wedi cael gyrfa hir a hynod lwydd- iannus am 26 mlynedd. Lleinw aml un fu'n aelod ohoni safle pwysig erbyn hyn yng Nghymru ac ar hyd a lled y byd, yn arbennig ym myd llên ac addysg. Ei hamcan ydyw astudio Uenydd- iaeth Gymraeg a hanes Cymru. Ar yr ochr gymdeithasol ymhlith y Cymry ieuainc, teilynga gweithgarwch Cymdeithas y Ddraig Goch v clod uchaf y geUir ei roddi iddi. Darpar hon ystafell, mewn Ue cyfleus yn y ddinas, y gall Cymry ieuainc droi i mewn iddi unrhyw nos- waith i gymdeithasu â'i gilydd. Yn ystod y gaeaf trefnir amrywiaeth mawr o gyfarfodydd. Ar nosweithiau Sabbath ceir anerchiad gan Gymry amlwg yn y ddinas, neu gan ymwel- wyr. Mae gan y Gymdeithas ei chôr (arweinydd, Mr. W. Ifor Jones), a ohynhelir Eisteddfod flynyddol ar derfyn y gaeaf. Gofala'r Gymdeithas hon hefyd fod Cymry ieuainc a ddaw i'r ddinas o Gymru a mannau eraill yn cael llety cysurus. Swyddogion y Gymdeithas ydyw Mr. Wm. Jones (cadeirydd); Mr. Evan WiUiams (trysorydd); Miss A. Ceinwen Roberts, 38, Derby-street, Moss Side, a Mr. Allen Jones, 71, Withington-road, Whalley Range (ysgrifenyddion). CYMRY PEDWAR BAN BYD FE ddaw'r Cymry oddicartref at ei gilydd ar y ddalen hon bob mis. Fe gaiff Cymru wybod hanes ei phlant pell, a'r plant pell wybod hanes ei gilydd. Ysgrifennodd llawer o Gymry o dro i dro o wledydd tramor at Mr. Cecil Williams, Llundain, a Meiriona, Aberffraw, dau gennad Undeb Cenedlaethol y Cym- deithasau Cymraeg. Gobeithir y bydd dalen Y FORD GRON yn symbyliad newydd i'r gohebu hwn. TY NEWYDD CYMRY LLUNDAIN. FE gaiff canolfan newydd Cymry Llundain ei agor cyn pen ychydig wythnosau-gan Dywysog Cymru, fe ddisgwylir. Yn ardal Bloomsbury y mae'r adeilad. Y mae'n cynnwys t3 helaeth sy'n cael ei drin a'i newid i ateb ei ddibenion newydd, a neuadd eang newydd sbon fydd yn gymwys i unrhyw fath o gyfarfod neu ddrama neu ddawns. Y mae gan Gymry Llundain egni a gallu mawr, ond egni a gallu di-ffrwyn, di-amcan, ydyw. Ei grynhoi ydyw'r gamp. Dyma'r cam cyntaf at hynny, a diolch i Syr Howell Williams am ei wneud yn bosibl. Y pwnc yn awr ydyw creu ysbryd lliwgar, cynnes a bywiog o gylch y canolfan newydd. Gobeithir na elwir ef yn headquarters nac yn instítute. Gyrru pobl i ffwrdd a wnâi hyn yn Ue'u denu i mewn. Cymdeithasau Lu. Y mae yn Llundain bump o Eglwysi Esgobol Cymreig, 16 o eglwysi'r Methodistiaid Calfinaidd, saith o eglwysi'r AnnibynwjT, tair eglwys Wesleaidd, un eglwys y Bedyddwyr, tair o genadaethau Cymreig, ac amryw o ganghennau ysgolion Sul. Y mae gan bron bob eglwys ei chymdeithas ddiwylliadol, a'r rhain yn cadw mewn perthynas a'i gilydd trwy'r Undeb, sydd â Mr. D. Owen Evans eleni'n llywydd iddo. Ceir hefyd lu o gymdeithasau a threfniadau Cymreig eraill, rhai ohonynt yn enwog, megis Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (gyda Syr E. Vincent Evans yn brif golofn iddi), eraill yn adnabyddus, megis Cymdeithas y Cymry Ieuainc a'r Gym- deithas Gorawl. At hyn y mae gan bron bob sir ei chymdeithas, ac y mae cyfrinfeydd y Seiri Rhyddion hefyd yn gwneud gwaith da. Traddodiad gwych o wasanaeth i Gymru ydyw traddodiad Cymry Llundain. Y mae Cymry Llundain yn gwybod hynny hefyd, ac yn awyddus bob amser am barhau ac i helaethu'r gwasanaeth hwnnw. ARAITH MR. IFAN AB OWEN EDWARDS. Mr. Ifan ab Owen Edwards oedd y gŵr a wahoddwyd i annerch cyfarfod agor tymor gaeaf Undeb y Cymdeith- asau Cymraeg vn King's Cross, Hydief 4. "Peidiwch à gwahanu ieuenctid Llundain oddi wrth ieuenctid Cymiu," meddai. i. "Y mae digon o wehanu yng Nghymi u. Y mae'r mynyddoedd yn ein gwahanu, ac ni fediwn-ni mo'u symud hwy. Ond a oes rhaid inni addoli ar wahân ? A oes thaid i drefniadau'n siioedd ein gwahanu ni ? A oes rhaid i'r iaith ein gwahanu ni ? Y mae un peth sy'n drech na'r holl feini tiamgwydd hyn—ein tia- ddodiadau ni. Nid hanes beirdd a Uenoiion, ond y teimlad ein bod ni'n werin-gwerin heb ft enin, heb fonedd, y mae'n wü, ond gwerin â neges i fyd. Ar hyn o bryd y mae popeth sy'n brudd yn ein bywyd ni wedi ei gysylltu â'r iaith Gymraeg. Ond 'waeth i chwi heb na dysgu adnodau i blant os ydynt yn chwarae ffwtbol yn Saesneg." Yr oedd y cyfaif od hwn yn ai bennig hefyd am ddyfod â Miss Ceiiawen Williams i sylw, mei ch ieua nc o eglwys Felmouth-ioad, a g nodd alawon Cymieig yn lân a pheisain fel eos, a swyno pawb. Y mae nifer da o gymdeithasau ac eglwysi Cymraeg selog yn Awstralia, New Zealand, a Thasmania, ac fe roddir manylion amdanynt yn un o yn Affrica, Eisteddfod yn Capetown, y Cape Cambrian Society. Canwyd caneuon Cymraeg gan Mr. W. Williams, o LaneUi gynt. Ceir cymdeithasau Cymraeg hefyd yn Kimberley a Johannesburg. LERP WL ­DIWYD OND CUL. Gan MR W. EILIAN ROBERTS. FE ddywedir bod rhwng 80,000 a 100,000 o Gymry yn Lerpwl. Hawdd credu hyn os edrychir ar nifer eglwysi Cymraeg y ddinas a'r cylch. Yn wir, gelwir Lerpwl-weith- iau'n gellweirus, weithiau o ddifri- yn brifddinas Gogledd Cymru, gan faint y boblogaeth Gymieig sydd yma. Y mae cylch yi eglwysi Cymreig yn ymestyn yn ôl teifynau Cyfaifod Misol y Methodiatiaid Calfinaidd i'r gorllewin at Southport, ac i'r dwyrain hyd St. Helens. Ceir yma tua 75 0 eglwysi, gan gynnwys gorsafoedd cenhadol, a'r hanner neu well yn peithyn i'r Hen Gorff." Adwaenir Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhiinces-roed hyd yn oed gan Saeson fel y Welsh Cathedral. Beth am y Ddrama ? Y mae i bron bob eglwys ei chym- deithas lenyddol ac, erbyn hyn, ei chwmni drama. Yn ystod y blynydd- oedd diwethaf ceir mwy o ym- gyfathi8chu, a threfnir yn ami ddadleuon rhwng dwy eglwys. Cofiaf yn ai bennig a m Eglwys yi Annibynwyr yn Park-road yn croesawu Cymdeithas Lenyddol Eglwys King's Cioss, Llun- dain, mewn dadl, gan fanteisio ar y cyfle hefyd i ddangos Lerpwl i'r Llundeinwyr Ceir llawer o ddiddordeb yn y ddiama, a bu ihai cwmnioedd yn bur lwyddiannus gyda'u gwaith. Y mae yn y cylch dalentau ihagoiol, a haeddant gyfle mwy. Dios gyfnod bu'r cyfle megis yn ymegor o'u blaen, gsn fod yma Gymdeithas Ddiama Gymraeg, ond wedi peifformio drama Ibsen, Colofnau Cymdeithas," adeg yi Eisteddfod Genedlaethol yn Leipwl y Uynedd, fe beidiodd y gymdeitha s â bod, a hynny ar ôl rhyw naw mlynedd o waith rhagorol. Gresyn yw hyn, oblegid rhoddwyd cyfle i dalentau'r cwmnïoedd eiaill ddatblygu. Tybed a yw'n amhosibl ail-godi'r gymdeithas hon ? Y mae'r chwarae- wyr gennym b'le mae'r trefnydd Y Cor. Ar wahân i'r eglwysi ceir Cym- deithas Gorawl y Cymry o dan arwein- iad y Dr. T. Hopkin Evans. Fe berthyn i'r côr enw da ac y mae wedi creu iddo'i hun draddodiad. Bydd Cymdeithas Genedlaethol Gymraeg Lerpwl a Chymdeithas Gym- raeg Bootle yn gwahodd Cymry sy'n amlwg ym myd llên, barddas, a hanes, i'w hannerch. Nodwedd arbennig Cymdeithas Bootle ydyw ei bod yn cofio'r plant. Ar wahân i gyfarfod plant Bootle, cvnhelir dwy eisteddfod arall bob blwyddyn, sef Eisteddfod Blodau'r Oes—hon yn arbennig i blant-ac Eisteddfod y Glomen Wen yn Birken- head. Gobeithir y gellir atal y llif Seisnig- aidd ymysg y plant trwy gyfrwng Urdd Gobaith Cymru. Fe welir felly fod Cymry'r cylch yn brysur ac yn ddiwyd, ond y mae yn ein mysg ymdeimlad ein bod yn gul ac yn gyfyng yn ein hagwedd at bethau. Rywfodd neu'i gilydd yr ydym yn troi o amgylch ein heglwysi ein hunain, ac fe'n rhennir ni'n ormod. Ond gan fod yr ymdeimlad hwn yn dyfnhau, diau y ceir gweledigaeth ehangach yn y man.