Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MWY 0 GANU NAG O DDARLLEN YM MANCEINION. MR. HENRY ARTHUR JONES. V MAE llanw'r cyfarfodydd, bellach, yn llawn llonaid ar Gymry Manceinion, ac ni bydd trai arno hyd estyniad y dydd yn y cynnar wanwyn. Dengys hyn fod y bywyd Cymreig yn ein plith yn iach a heini. Ac eto, y mae lle i wella. Pan gofiwn fod tua 11,000 o Gymry yn y ddinas, nid ydyw'n foddhaol fod Darlithfa gyfyng y Milton Hall yn ddigon eang i ddal nifer y Cymry a ddaw i wrando goreugwyr y genedl yn darlithio i'r Gymdeithas Genedlaethol. Onid rhesymol disgwyl cynulliad o 500, o leiaf, ym mhob un o'r darlithiau hyn ? Copio'r Gymanfa. Gwelid cynulliad hardd, yn rhifo tua 800, yn y Gymanfa Ganu ym Moss Side, dan arweiniad Mr. W. Matthews Williams, Caer. Gwych o beth fyddai gweld y chwaeth lenyddol ym Man- ceinion yn codi i'r un lefel â'r chwaeth gerddorol. Y mae arwyddion fod y Gymanfa Ganu yn graddol oresgyn cenhedloedd eraill. Y mis diwethaf cynhaliodd Presbyteriaid Ysgotaidd Manceinion eu trydedd Gymanfa Ganu yng Nghapel Grosvenor-square ac i wneuthur yn sicr eu bod yn cael Cymanfa yn ôl y portread a ddangoswyd iddynt yn y mynydd Cymreig, fe sicrhasant Mr. David Evans yn arweinydd. Ef sy'n eu harwain bob blwyddyn. Ond, er cystal arweinydd ydyw, rhaid dywedyd bod glynu'n dynn wrth yr un arweinydd yn ymadawiad oddi wrth y patrwm Cymreig. Fe gafodd darlith y Parch. J. Seymour Rees yn y Gymdeithas Genedl- aethol ar Syr O. M. Edwards gymeradwyaeth mawr. Sment Rhagrith. Yr oedd darlith Mr. Idwal Jones ar y ddrama yn ddadansoddol a meistrol- gar. Rhagrith," meddai, ydyw'r sment sy'n cadw'r byd wrth ei gilydd." Ac meddai wedyn: Y mae mwy o wir hanfodol mewn stori gelwydd na stori wir." Greddf oedd testun darlith y Parch. D. James Jones, Coleg Harlech, ar y 21 o Dachwedd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf collodd Manceinion ddau o'i Chymry blaenllaw-y Parch. J. H. Lloyd Williams, a aeth i fugeilio praidd Llan- rwst; a Mr. William Eames, sydd wedi ymneilltuo 0 olygiaeth y Manchester Gitardian Commercial, ac wedi sefydlu am dymor ar gyrrau Morfa Rhuddlan. TE I GYCHWYN. YSGRIFENNA Mrs. K. Williams-Gerrard (Alawes yr Alban), Edinburgh: Nid ydyw y Cymry wedi cyd- gyfarfod eto eleni. Yr wyf wedi gwahodd rhai ohonynt yma i dê y Sadwrn er mwyn ceisio rhoddi cych- wyniad i bethau." GWOBR £ 5. Y mae Cymdeithas Cymry Victoria, Awstralia, wedi rhoddi £ 5 wobr i hyrwyddwyr gŵyl gerddorol Ballarat er mwyn cael solo Gymreig ar y rhaglen. ANNERCH NADOLIG AT GYMRY'R BYD. ANNWYL GYD-GENEDL, Ar ran miloedd aelodau Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg datganwn ein cariad gwresocaf atoch, ac yn neilltuol atoch chwi sydd ar wasgar. Yr ydym yn ffyddiog fod ein hymdrech dros gadw yn fyw ein delfrydau a'n traddodiadau a'n hiaith yn esgor ar lwyddiant na ellir yn hawdd ei ddiffinio ond yng ngoleuni'r dyiodol. Y mae miloedd heddiw'n caru ac yn siarad y Gymraeg, a chredwn y sylweddolir proffwydoliaeth Taliesin, Eu hiaith a gadwant. Yr ydym yn mawrhau ein braint o gael braenaru'r tir a phalmantu'r llwybrau i'r oes a ddêl. Hyderwn y bydd gair fel hyn o dro i dro yn help i gadw'n hetifeddiaeth deg rhag colli ymysg eiddo'r cenhedloedd y trigwch yn eu plith. Aed y gadwyn euraid a'n ceidw'n un yn gadarnach o flwyddyn i flwyddyn. Melys y cof amdanoch. Cynnes ein calon atoch. Gan ddymuno i chwi Nadolig Llawen, ac y daw'r Flwyddyn Newydd â llond ei chôl o fendithion atoch, MEIRIONA, Aberffraw (gohebydd WILLIAM GEORGE, llywydd; JAMES CLEMENT, trysorydd; CECIL WILLIAMS (Llundain); D. ARTHEN EVANS, ysgrifennydd. LLUNDAIN EISTEDDFOD A GWLEDD. Y DDAU brif ddigwyddiad ymhlith Cymry Llundain ym mis Tachwedd oedd yr eistedd- fod yn Neuadd Ganol West- minster a chinio'r Cymrodorion. Tyrrodd Cymry o bobman i'r eistedd- fod, ac yr oedd y cystadlu'n anghyff- redin o frwd. Ymrysonai un côr meibion ar ddeg am y brif wobr am ganu The King of Worlds." Aeth y wobr i gôr Mountain Ash, Morgannwg, cór sydd a'i aelodau i gyd yn ddi-waith. Dyna, yn wir, beth yw aberthu er mwyn celfyddyd. Dyna, yn wir, beth ydyw dywedyd Wfft wrth orthrymderau. Dyna, yn wir, yr ysbryd a bair i Gymru fyw byth. Aeth gwobrau mewn cystadleuon eraill ar hyd a lled Cymru,-i Gaer- dydd, i Lantrisant (Morgannwg), i Ydym, y Cymry ar Wasgar) Wrecsam, i Benygraig, i Lanelli, i Ferndale (Morgannwg), i Aberteifi, i Lerpwl, ac i Abertawe. Diddorol oedd gweld gwobr am farddoniaeth yn mynd i Mr. J. Rhys, Congleton, Sir Gaer, gŵr na allai ysgrifennu ond y nesaf peth i ddim Cymraeg chwe blynedd yn ôl, ond a ymroes ati i ddysgu. Nid oedd neb yn deilwng o gadair y bardd. Yr Is-Iarll Allenby a'r Is-Iarlles oedd gwahoddedigion gwledd urddasol y Cymrodorion. Y mae cyrddau'r Cymrodorion-a'r wledd, yn fwy na'r cwbl-yn arbennig oherwydd eu bod yn tynnu ynghyd Gymry nas gwelir gyda'i gilydd mewn unrhyw gyfarfod arall. Adlewyrcha gyfoeth a llwyddiant. LLYTHYR ODDI WRTH MES. CEIRIOG HUGHES. Gan MR. HAYDN MORGAN. SYNDOD i bob un o'r trigain a ddaeth i gyfarfod cyntaf Cymrodorion Newcastle y tymor hwn oedd clywed yr ysgri'fen'nydd yn darllen llythyr oddi wrth Mrs. John Ceiriog Hughes, ie, gweddw Ceiriog Cofiai Mrs. Hughes am yr amscr dedwydd a gawsai yn Newcastle, ue yr oedd yn edifar ganddi na allai í'od vu bresennol,-a hi dros ei 90 oed Llongyfarchiadau iddi oddi wrth Gymry Newcastle. Ail-etholwyd Mr. Robinson Jones vn ysgrifennydd y Cymrodorion, Mr. S. R. Davies yn drysorydd. a Mr. Rhys Williams yn llywydd. Gwahodd Miss Megan. Penderfynwyd cael cinio Ddygwyl Dewi eleni fel arfer, a gwahodd Miss Megan Lloyd George yn brif westai. Wedi gorffen yr ychydig waith vr oedd rhyddid i bawb siarad. Ac, i bob golwg, yr oedd y dynion yr* nîwynban cynnal pen sgwrs â chwpanaid o dê ar eu gliniau yn gymaint â'r merched. Gŵr prysur yn gweini oedd Mr. Meurig Jones, y bâs twymgalon o'r Eglwys Fach, Ceredigion. Yr oedd chwys ar ei dalcen. Da oedd ei glywed wedyn yn canu Ar Hyd y Nos a phennill neu ddau hefyd, fel tae'n canu gyda'r delyn. Ysgolfeistr yw Mr. Jones mewn lle o'r enw Hetton-le-Hole, ac y mae newydd godi ty iddo ei hun yno. Canodd Mr. Sam Williams (un o fechgyn Morgannwg, mi gredaf) gân neu ddwy hefyd, a chafwyd noson lawen. CHWIORYDD CREWE. Y ^IAE Cymdeithas Cymry Gogledd Swydd Stafford a'r Cylch yn edrych ymlaen at nos Fercher. Rhagfyr 10. Noson y Chwiorydd a fydd hon, a noson ganeuon gwerin. Fe geir darlith a chaneuon gan Mrs. Herbert Jones, Gwasg Gregynog, Tregynon. Mrs. W. M. Johnson (Gwen Rhosfawr) a fydd yn y gadair. Ffug etholiad oedd pwnc prif gyfarfod y Gymdeithas yn ystod Tachwedd, — Parch. E. T. George yn ymgeisydd Ceidwadol, Mrs. E. Ryland Jones yn Rhyddfrydwr, Mr. R. W. Parry yn ymgeisydd Llafur, a Mrs. Featherstone yn ymgeisydd annibynnol. Darlith gan Mr. E. Ryland Jones, Hanley, ar Ben Bowen," a chyfarfod i'r bobl ieuainc dan lywyddiaeth Mr. Alun C. Ap Thomas, oedd dau brif gyfarfod Cymdeithas Cymry Crewe a'r Cylch ym mis Tachwedd. Nos Sadwrn, Rhagfyr 13, yn Derrington-street, fe geir darlith ar Y Ddrama yng Nghymru gan Mr. J. Ellis Williams, Blaenau Ffestiniog. Yng ngwasanaeth y Cwmni Rheil- ffordd a'r Llythyrdy y niae'r mwyafrif o Gymry Crewe. Cymro ydyw pen- naeth y Llythyrdy, Mr. J. J. Tudor, brodor o Sir Benfro. Ceir yng Nghrewe amryw o Gymry ieuainc mawr eu sêl. Un ohonvnt ydyw'r gwyddonydd y Dr. T. David Jones, o Sir Aberteifi. Y mae'n aelod o'r Orsedd ac yn fwrlwm o frwdfrydedd dros bopeth Cymraeg. Ef oedd llywydd y Gymdeithas Gymraeg y llyncdd.