Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LERPWL YN CLYWED AM HEN FORWYR CYMRU. Gan MR. W. EILIAN ROBERTS. CAFWYD amryw gyfarfodydd hwyliog a llwyddiannus yn Lerpwl yn ddiweddar. Yr wyf yn ymddiheuro i Gymdeithas Cymry'r Brif Ysgol am anghofio enwi eu heisteddfod. Y mae hon i'w chynnal ym mis Chwefror, a'r testunau eisoes allan. Cafwyd noson ddifyr iawn yn y Gym- deithas hon pan ddaeth Mr. Bob Owen ati i ddarlithio ar Rai Morwyr Cym- reig Anturiaethus, 1400-1600." Llywyddwyd gan Mr. R. J. Jones, Colderstones, gŵr, y mae'n ymddangos, sy'n hynod boblogaidd gyda hogiau'r Varsity. Aeth y darlithydd â ni ymhell, gan hwylio 0 lawer porthladd. Gyda chwmni enwog o Gymry buom yn ceisio'r North West Passage, a mawr oedd cydymdeimlad yr bogia á chaledi'r criw. Dangosodd Mr. Owen yn glir inni y gallwn fod yn falch o'n harwyr morwrol. Cynan yn Adrodd. Cyfarfod i'w gofio oedd un a drefnwyd gan Gymdeithas yr Aelwyd (eglwys Chatham-street) pan ddaeth Cynan i'w hannerch. Adroddwyd ganddo ei bryddest Mab y Bwthyn." Gofynnwyd iddo'n aml, meddai Cynan, pam y canodd am Fab y Bwthyn fel y gwnaeth. Ei ateb oedd-am iddo weld rhyfel yn lladd enaid Ilawer i fab y bwthyn." Ni allai ef na'r llu eraill fu trwy'r drin fyth anghofio'r hyn a welsant, ac ni fynnent anghofio chwaith. Ei brif genadwri ydoedd nad oes rhamant mewn rhyfel. Mr. T. P. EHis a'r Eglwys. Gyda hanes yr Eglwys Fore yng Nghymru y treuliodd y Gymdeithas Genedlaethol noswaith, pan ddarlith- iwyd gan Mr. T. P. Ellis. Daliai'n gryf mai Pabyddol oedd yr eglwys fore yng Nghymru. Rhoddodd ei ffeithiau'n deg o'n blaen, a diddori ei gynulleidfa'n fawr. Y mae'r Undeb Corawl Cymreig wedi dechrau ar waith y tymor gyda chyngerdd, pryd y datganwyd darn o waith Verdi. Mawr oedd disgwyliad y dref am gyngerdd Meseia gan y <'ôr ym mis Rhagfyr hefyd, ac ni cliafodd neb ei siomi. Fe gafodd Cymdeithas Pobl Ifainc eglwys Edge Lane (M.C.) y diddordeb o groesawu Arglwydd Clwyd i'w hannerch ar ei atgofion seneddol. Yr oedd yn edrych ymlaen, meddai, at ddychweliad cyfundrefn y ddau barti. Dadl Dwy Ddinas. Bu aelodau eglwys Park-road yn croesawu aelodan King's Cross, Llun- dain, yn ddiweddar mewn dadl. Treul- iodd y ddwyblaid oriau diddan yng nghwmni ei gilydd mwynhawyd y cyfle i gyfarfod ag hen gyfeillion, a bu hwyl iawn ar y cyfarfod yn yr hwyr. DENG MIL AR GOLL. Dywedodd yr Athro J. Morgan Jones, Bangor, mewn cyfarfod dan nawdd Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, yng Nghaer, fod deng mil o Gymry led-led y byd yn aelodau o'r Urdd ond nad oedd un ohonynt eto wedi cyfrannu at unrhyw fudiad yn y wlad. Apeliai Mr. Jones arnynt gyfrannu i addysg a diwylliant ein cenedl. Gan y Drudwy: Briwsion o Wlad y Gwyddel. DIAMAU i lawer o ddarllenwyr Y FoRD Grox ymweled â gwlad y Gwyddyl, a mentro gwirionedd geiriau'r Salmydd am fordwywyr mewn tymestl Esgynnant i'r nefoedd, disgynnant i'r dyfnder; tawdd eu henaid gan flinder. Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd." Daeth rhai ohonynt yn ystod yr haf diwethaf, ac eraill rywbryd cyn neu wedi'r chwyldro a fu ar fywyd politieaidd a chymdeithasol y rhan fwyaf o'r Ynys, a phetasai heddiw yn amser y Morusiaid, cawsai aml un ohonynt ei enw yn eu llythyrau. Hen Gydnabod. Heblaw'r rhain clywodd canuoedd eraill am Barc y Phoenix, Ystryd O'Connell (neu Sackville) a mynwent Glasnevin yn Nulyn (Dublin); darllen enw un o batriarchiaid Israel ar grîm cracer; ac, oni phrofasant ei chynnwys, weled y llythrennau croes ar ddwyfronneg gochddu'r botel ddu. Gŵyr yr hyddysg yn hanes Cymru ac Iwerddon am aml Gymro a fu yma —ac nid o gariad at y wlad nac ar lwybrau heddwch, y rhau amlaf—ac yu eu plith Forris Kyífin, a gafodd feddrod cynnar yn Eglwys Crist. Y Capel Cymraeg. Nid anghyfarwydd ŵr o Fethodus, beth bynnag, â'r Capel Cymraeg yn Ystryd Dalbot sy'n tynnu at ei gamnlwydd oed, a'r gŵr hir esgud sy'n bugeilio'r gorlan yno ers deugain mlynedd ond tair. Gwelodd ef amser pan fyddai llawr y capel yn orlawn, a morwyr ar y cwarter dec nad eisteddodd neb ynddo er ys talm, oddieithr un bore Sul yn ystod y rhyfel pan fu parêd o'r milwyr Cymreig yn y capel. Yn awr, os da gan bregethwr swil dremio i'r gwagleoedd, nid anodd iddo gael sêt wag i syllu arni ond er na symudwyd un o achosion pennaf y cynull- iadau tenau, sef nad oes yr un o longau Caergybi yn yr afon dros y Sul,—y mae dwy ohonynt ym mhorthladd Dún Laoghaire, saith milltir i ffwrdd !—у mae ychydig o gynnydd yn nifer yr aelodau. Efrydwyr o Gymru. Bu adeg pan gynorthwyai asbri myfyrwyr Cymreig rialtwch nwyfus deiliaid Coleg y Drindod. Adroddir gorchestion rhai ohonynt hyd yn oed heddiw, ac yn eu plith dric efrydydd meddygol a wahoddodd ddau gyfaill o Gymro i dê, a chyda'r esgus ei bod hi'n rhaid iddo fynd i brynu danteithion, yn mynd allan a chloi drws ei ystafell gan adael ei gyfeillion yn newynnog a sychedig tan gyffiniau'r hanner nos. Braidd y ceir yr un efrydydd o Gymru yn y coleg yn awr, er bod pump o blant Cymry'r ddinas yno, ond yng Ngholeg y Brif Ysgol y llynedd bu Mr. T. J. Morgan, sydd yn awr yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Caerdydd, ac eleni y mae Myrddin Lloyd yno, yntau hefyd o Goleg Abertawe ac eisoes yn hysbys i'r byd llenyddol Cymreig, yn ymgynefino fel ei ragflaenydd â Gwyddeleg hen a diweddar. Y Gymdeithas Gymraeg. Fel ymron bobman arall lle mae nifer o Gymry, ceir yn Nulyn Gymdeithas Gymraeg. Elusengarol ydyw ei hamcan pennaf, sef diwallu anghenion y Cymry y syrthiodd en Ilinynnau ar leoedd geirwou, a'u cynorthwyo i gyrraedd adref. Llywydd cyntaf y Gymdeithas ydoedd y Senator Syr J. Purser Griffith, mab y diweddar Hybarch William Griflith, Caergybi, ac yn union fel y mae'n brif noddwr yr achos Cymraeg, ef hefyd yw prif ffynhonnell cyllid y Gymdeithas. Cynnal y Gymdeithas ei chinio blynyddol ar Ẅyl Ddewi, ei phicnic bob haf. a'i hymgomwest bob hydref, a'i hysgrifennydd pybyr yn awr yw Mr. E. Oliver Humphreys, nai i'r Parch. J. D. Owen, Botffari gynt, a chefnder i utgorn arian y Jewin. Y mae i'r Gymdeithas ei hadran lenyddol hefyd. ac ysgrifennydd honno yw Mr. Kenneth Harrison, gynt o Goleg Bangor, yn awr yn Athro'r Clasuron yng Ngholeg Wesley. Os Ewch i Ddulyn— Os ymwêl neb am y tro cyntaf â Dulyn ac arno eisiau gwybod dim am y ddinas neu am ei Chymry, chwilied am Ystryd Suffolk, ac yno am gaffe Robert Roberts. Wedi cael hyd iddo, aed i mewn a gofyn am y goruchwyliwr, a daw ato ŵr byr, bywiog, llygatlas. Dyweded air neu ddau yn yr heniaith wrtho, a gwêl ei lygaid yn disgleirio'n fwy na'u harfer ac yn llamu'n ei ben. Alfred Jones (" Alff ") fydd hwnnw, llys-genhadwr Cymru ym mhrifddinas y Dalaith Rydd, ac er prysured ydyw'r gŵr o'r Rhyl. bydd digon o amser ganddo i hyrwyddo camre ymwelydd o Gymro â Blaclîa. SWYDDl I GYMRY YM MANCEINION. Gan MR. HENRY ARTHUR JONES. FE benodwyd Mr. W. Freeman Evans yn un o arolygwyr y ffatris. ac fe gyll Manceinion. felly, un o'i i Chymry ieuainc mwyaf blaenllaw a gweithgar. Un o fechgyn Ffestiniog ydyw ef, a cbynrychiolydd gwych o'r teip gorau o Gymry a fegir yn yr ardal nodweddiadol Gymreig honno. Cychwynna ei yrfa newydd yn Hull, ac yna fe á i'r Swyddfa Gartrefol. yn Llundain. Yn ystod y flwyddyn gwelsom benodi yr Athro Charles Harold Dodd (mab Mr. Charles Dodd, Wrecsam) i Gadair Diwinyddiaeth 1'rif Ysgol Manceinion. yn olynydd i'r diweddar Athro Peake. Tra bu'n Is-Brifathro Coleg Maus- tield, Rhydychen, cyhoeddodd Mr. Peake bedwar neu bump o lyfrau a i gwuaeth ar unwaith yn ŵr blaenllaw ym myd diwinyddiaeth a beiruiadaeth Feiblaidd. Yn eu plith y mae ei Meaning of Pant for To-day The Gospel in the New Tcstament." a'i The Authority of the Bible." Ac nid ydyw Mr. Peake ond 46 oed. Yr Athro Fleure. Penodiad arall o ddiddordeb mawr i'r Cymry oedd dewisiad yr Athro H. J. Fleure i Gadair Daearyddiaeth Prif Ysgol Manceinion. Ni allwn lai na gofidio bod Man- ceinion wedi ei ladrata oddi ar Aber- ystwyth. Er yn hanfod o Ynys Guernsey. Cymru oedd gwlad ei fabwysiad. Hyderwn y bydd Cymry Mauceinion yn ddolen gydiol i'w ddal mewn cyswllt â Chymru. Penodwyd Cymro o Sir Fflint yn Rheolwr Addysg y ddinas,-Mr. W. 0. Lester Smith, Rheolwr Addysg Sir Essex. Agent Duc Westminster yn Sir Fflint oedd ei dad. Enillodd y wobr am draethawd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain (1909). Y mae'r penodiad wedi rhoddi bodd- bâd cyffredinol yn y cjlch addysgol yn y ddinas, ac yn arbennig i Cymry. Bu Syr John Simon ar ymweliad á'r ddinas yr wythnos hon, ac nid oedd y Whitworth Hall yn agos ddigon eang i ddal y dyrfa anferth oedd yn awyddus i'w giywed yn traethu ar Gyfansodd- iad India." Tröwyd cannoedd ymaith o ddiffyg lle. Darlithiau. Blasus iawn oedd darlith y Parch. D. James Jones, Coleg Hariech. yn y Gymdeithas Genedlaethol ar Reddf." Traddodir darlith nesaf v Gvmdeithas gan Mr. W. Gilbert Williams, Rhos- tryfan. ar Safonau Cymreig." Bn'r Prifathro John Morgan Jones. Bangor. yn darlithio i Gymdeithas y Ddraig Goch ar Grefydd a Chenedl- aetholdeb Mr. Glyn Owen ar Ein Hen Ddyddiau," a'r Parch. Rhvs Jones ar Y Pedwar Byd." Y mae tua 1(10 0 bobl yn aelodau o Gymdeithas Cymrodorion yr Amwythig a'r Cylch. Y llynedd bu'r Gymdeithas yn fo<ldion i godi cofeb i Goronwy Owen yn eglwys Uppingtou, lle y bu'n gurad am buni mlynedd. Ar y 11 o Ragfyr fe gafwyd darlith ar Daniel Owen gan y Parch D. Gwynfryn Tones, pryd y llywyddwyd gan Mr. Hugh Hughes (cadeirydd y Gymdeithas).