Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFEDEEASlWN I GYMRY LERPWL? Gan MR. W. EILIAN ROBERTS. FE ymwelodd dau o'n prif- feirdd, sef Crwys a Chynan, â glannau Merswy ym mis Rhagfyr. Gyda'r Gymdeithas Genedlaethol yr oedd Crwys, yn darlithio ar Seren Gomer." Dadlennai o'n blaen nod- weddion y dyn a'i gyfnod, gan bwyso'n dyner iawn ar hanes mab Gomer, y blodeuyn a wywodd mor fore. Gyda'r Gymdeithas yn Bootle y bu Cynan, a'i destun Y Ddrama," neu, fel y'i geiriwyd, Twf a Chynnydd y Ddrama yng Nghymru." Darlith newydd sbon ydoedd hon, meddai Cynan, wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y cyfeillion yn Bootle. Dywedai'r darlithydd fod yr elfen actio yn y Cymro, ac er i'r ddrama gael ei cholli o fywyd y genedl ymfalchîai yn y diddordeb a ddangosir heddiw ynddi yng Nghymru. Credai'n bendant fod i'r ddrama ddyfodol ymysg y Cymry. Cynlluniau Gwyl Ddewi. Siom a gafodd y Gymdeithas Genedl- aethol ynglyn â'i chyfarfod yn Ionawr, pryd y disgwyliwyd y Dr. T. Jesse Jones, o New York, i'w hannerch. Afiechyd a lesteiriodd y Cymro enwog hwn rhag croesi'r mór ac ymweled â'n gwlad. Mae'r Gymdeithas uchod yn prysur baratoi ar gyfer Gwyl Ddewi, ac eisoes wedi sicrhau presenoldeb Miss Megan Lloyd George a Mr. Rhys Davies-y ddau, fel y gwyr pawb, yn aelodau seneddol-yn y wledd i ddathlu'r Wyl. Pwnc y Ffederasiwn." A ninnau'n sôn am y Gymdeithas Genedlaethol, fe ymddangosodd llythyr yn Y Brython yn ystod mis Ionawr o law Mr. R. Wynne Jones, a galwai'r llythyr am ystyriaeth Cymry'r glannau. Dyma fyrdwn y llythyr: Cwyno leied yw dylanwad Cymry Lerpwl yn y ddinas a hwythau mor lluosog eu rhifedi." Yng nghorff y llythyr bu i Mr. Jones drafod perthynas y Gymdeithas Genedlaethol â'r Cymdeithasau eraill. Awgrymai mai dymunol fyddai ffurfio math o Ffederasiwn, a gofynnir am yr holl Gymdeithasau sydd yn awr gennym -a ellir yn gydwybodol hawlio bod llwyddiant yn ffynnu yn eu plith? Gwelem yn y llythyr atsain pennawd y llith gyntaf a ymddangosodd yn Y FORD GRON ar Gymry Lerpwl- Lerpwl: Diwyd ond Cul." Hyderem y daw ffrwyth 0 lythyr Mr. R. Wynne Jones ac y gwelwn yr achosion a'r Cymdeithasau yn dod yn nes at ei gilydd er budd y cwbl. Diddorol yw sylwi ar enw un o Gymry Lerpwl yn Rhestr Anrhydedd y flwyddyn newydd, sef Syr David John Owen, sydd ers rhai blynyddoedd bellach yn rheolwr Awdurdod Porth- ladd Llundain. Yn Lerpwl y ganwyd ac y magwyd y Marchog newydd, a chyda'r Mersey Docks and Harbour Board y cychwynnodd ei yrfa. l^ymru r Wladra GWANWYN RHAGFYR YM MHATAGONIA. ODDI WRTH OHEBYDD ARBENNIG. ÜEYSUE y mae pawb y dyddiau hyn (Ehagfyr) yn nodi'r ŵyn, a thrwy hynny'n cael gwybod faint yw cynnydd y flwyddyn hon. Ceir golwg addawol iawn ar y cnydau. Gwanwyn hynod o ffafriol, a chawodydd aml yn cadw'r hen ddaear yma mewn tymheredd manteisiol i dyfu popeth yn dda iawn hyd yn hyn, dim ond i Mr. Rhew beidio â dangos ei drwyn a gwywo popeth-hynny sydd yn berygl. Tua dechrau y mis cafwyd o hyd i gorff dyn tua thueddau Sunica, wedi ei saethu trwy ei ben, ei lapio mewn canfas, a'i guddio o'r golwg. Nid ydyw yr awdurdodau eto ddim wedi cael* gafael ar y sawl a wnaeth yr anfadwaith. Y Cymry'n Ddiogel. Gresyn o beth ydyw y llofruddiaethau a gyflawnir fel hyn yn barhaus, ond dyna sydd yn rhyfedd. nad oes dim tebyg yn digwydd ymysg y Cymry. Hynny ydyw, nid oes neb o'r cenhedloedd y tu draw i'r mynyddoedd byth yn cynnig gwneud dim i'r un Cymro. Ar ddiwedd tymor y Coleg Cenedlaethol yn Nhrelew gwelsom fod pedwar o'r disgyblion wedi pasio heb orfod sefyll arholiad, ac yn eu plith un o blant yr Andes, sef Egryn Williams, mab y Br. a'r Fones Richard H. Williams (Bro Hydref). Gwelsom hefyd fod y B'wyr Raiadore Pritchard a Herbert P. Jones (dau o wasanaethyddion Cwmni Masnachol Camwy) wedi profi eu cym- hwyster mewn gwybodaeth fasnachol. Rheílffordd Bro Hydref. Distaw iawn yw'r sŵn a glywir gan y Weinyddiaeth Ddarbodol am ail-gychwyn gwaith ar y rheilffordcl o Fadryn i Fro Hydref, a'r unig symudiad a wnaed yn ddiweddar gan y pwyllgor a ddewiswyd i astudio materion y rheilffyrdd oedd penderfynu tynnu i lawr yn gyffredinol 30 y cant o'r swm a fwriadai'r Weinyddiaeth flaenorol ei wario i adeiladu rheilffyrdd. Y canlyniad yw bod y swm o 83,241.21 doleri a fwriedid ei wario ar y rheilffordd hon wedi ei dynnu i lawr 46,356.20 doleri, sef dros yr hanner. Gorsedd y Cwmwl. Diddorol ydyw'r hanes sy'n ymddangos y dyddiau hyn yn Y Drafod (ein papur ni yma) gan y Bonwr William Lloyd Jones, Glyn, am yr ysbeithio neu'r archwilio a fu ym Mhatagonia yn 1885. Dyma enghraifft o'i swyn a'i ramant: Heddiw mae'r fintai eto'n gryno yn y gwersyll ar lan afon Aber Cyrrants, wedi ohonom ysbio'r cylchynion i'r Dê, Gogledd a Gorllewin. Awgryma rhai enwi'r fan yn Cwm Hyfryd, craill Dyffryn y Mefus, ond ein Rhaglaw a'n Llywydd awgryma, ac yn ddios mai ei awgrymiad ef a gaiff y flaenoriaeth, enwi'r fan yn Dieciseis de Octubre,' — dywed y bydd i'r enw hwnnw gofio dau amgylchiad hapus, sef y dydd yr ymgynullodd y fintai hon yn nhop y dyffryn i gychwyn y daith, a'r dydd y bu i Senedd Archentine gadarnhau deddf rheolaeth y tiriogaethau. Enwyd y mynyddoedd uchel a welir i'r Gorllewin yn Gorsedd y Cwmwl. DARLITHIAU MANCEINION. Gan MR. HENRY ARTHUR JONES. Y MAE Cymry Manceinion yn edrych ymlaen at ymweliad yr Athro T. Gwynn Jones, Aber- ystwyth, ar y 6 o Chwefror, pryd y bydd yn darlithio i'r Gymdeithas Genedlaethol ar Lên Gwerin Gym- raeg." Prif ddigwyddiad Ionawr yn y Gymdeithas oedd darlith Mr. J. J. Williams, Birkenhead, arolygwr ysgolion, ar Y Ddrama Gymraeg." Go dawel a fu bywyd cymdeithasol y Cymry yma yn ystod yr wythnosau diwethaf, o achos y prysurdeb masnach sy'n arferol ar ddiwedd blwyddyn a dechrau blwyddyn newydd. Y mae'r cyfryw brysurdeb yn elyn anghymodlon i fywyd cymdeithasol y Cymro, ac y mae'n dra gwahanol i'r Sais yn hyn. Dysgodd y Sais gario ei fasnach gydag ef i bob cylch o'i fywyd, a throi dŵr i'w felin ei hun o bob ffrwd. Onid peth cyffredin yn ei hanes ydyw dychwelyd o'i golff, dyweder, gyda contract newydd yn ei gôt chwarae? Ond pwy a glywodd am Gymro yn dod yn ôl o eisteddfod neu gwrdd pregethu wedi pluo'i nyth mewn ystyr fateról? Ein Safonau. Ond fe fynnodd y Gymdeithas Genedlaethol gynnal darlith hyd yn oed ar yr adeg brysuraf, a thrwy hynny hoelio meddwl ar rai o broblemau y bywyd cenedlaethol. Mr. W. Gilbert Williams, Rhostryfan, oedd y darlith- ydd, a thraethodd yn feistrolgar ar Safonau Cymreig." Byrdwn y ddarlith oedd fod gennym safonau traddodiadol mewn barddon- iaeth a llên i lynu wrthynt, a bod llesgedd y rhan fwyaf o gynhyrchion heddiw i'w briodoli i ymadawiad oddi wrth y safonau hynny. Ofnai fod llawer o'n beirniaid dan ddylanwadan estronol a thramor. Y mae'n burion peth," meddai, i ni chwilio beth yw natur ac ansawdd celfyddyd cenhedloedd eraill, ond dylai'r sylwedd fod yn hanfodol Gymreig." Paham y Dirmyg ? Yr oedd yn llawdrwm ar y duedd mewn rhai o'n dramodwyr a'n storiwyr i ddirmygu a gwawdio rhai agweddan ar grefydd Cymru. Meddai Y mae'n bur debyg fod Daniel Owen yn gwenu ynddo'i hun wrth gofio am nodweddion Mari Lewis ac Abel Hughes, ond nid yw'n ddirmygus ohonynt, a hynny am ei fod yn ystyried ac yn cofio'r dylanwad a feddai'r cyfryw gymeriadau yn eu hoes a'u hamser. Y mae nofelwyr diweddar yn tueddu i ymfalchïo yn y ffaith eu bod hwy y tu allan i fyd crefydd; eithr tybiant ar yr un pryd fod ganddynt hawl i fwrw dirmyg ar fyd y maent, yn ôl eu traethiad eu hunain, yn bur ddieithr iddo. A ydym i synnu nad oes yr un nofelydd Cymraeg na'r un storïwr Cymraeg hyd yn hyn wedi rhagori ar Ddaniel Owen? Cadwodd ef yn agos at y gwreiddiau cenedlaethol, a chyn- yrchodd waith oedd yn cadw'n bur i'r safonau traddodiadol yn llên Cymru."