Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
CYFBOL I. RHIF 8.
Y FORD GRON
(Golygydd: J. T. JONES)
GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM.
London Office 47, Gresbam St., E.C.2.
Tel. National 8343 (3 lines).
Y Gorau yn y Byd.
SONIA Mr. W. Eames yn ei erthygl
ar dudalen 5 am yr ymadrodd sy'n
gyffredin yn y Mabinogion wrth
ddisgrifio rhywbeth-sef y gorau
yn y byd."
Y mae Welsh lanib a Welsh flannel, fel
navy coal y Deheudir, wedi mynd yn gyf-
ystyr â'r gorau yn y byd ymysg pobl
lygadog Lloegr. Tybed na allai cyn-
hyrchwyr Cymru roddi rhywbeth arall ar
y farchnad gyda gobaith ennill iddo
gyffelyb ragoriaeth?
Chwi, amaethwyr-onid yw'n bosibl
cystadlu ag ymenyn a hufen Dyfneint a
Chernyw,. caws Caer, bacwn Denmarc,
ac wyau Iwerddon? Campus o beth
fyddai clywed bod gwestai a thai bwyta
Prydain yn hysbysu gyda balchder mai
Best Welsh ydyw'r unig ymenyn, wyau,
bacwn a chaws, yn ogystal â chig oen, a
geir ar eu byrddau.
Efallai y deillia rhywbeth tebyg i hyn
o'r treial sy'n cael ei roddi ar hyn o bryd
gan gymdeithas gyd-weithredu ffermwyr
Clynderwen, Sir Benfro, ar wneud
ymenyn mewn ffatri o hufen llaeth y
cylch. Bydd craffu mawr trwy Gymru
amaethyddol ar yr arbraw hwn.
Y mae gorsaf bacio wyau hefyd ym
Môn-un o gaerau cydweithrediad-sef
yn Llanfairpwll; y mae hon yn casglu a
gredio a gwerthu dros filiwn o wyau y
cylch bob blwyddyn.
Tystia pawb am yr adfywiad a'r gobaith
newydd a ddug y cymdeithasau cyd-
weithredu hyn i waith a busnes fferm.
Y mae rhagor na 60 ohonynt yng
Nghymru, ac y mae ganddynt ganolbwynt
bywiog ac ymdrechgar iawn yn Aber-
ystwyth.
Y mae dyfodol Cymru yn dibynnu i
fesur mawr ar y weledigaeth a'r medr a
roddir i'w ffermwyr, yn neilltuol y rhai
ifainc. Delfryd ardderchog i'w osod o'u
blaen fyddai cynhyrchu rhywbeth a
ychwanegai at enw da Cymru.
Eithr nid ar eu pennau eu hunain y
gwnant hwy hynny yn wyneb cystadleu-
aeth byd bellach, ond trwy gymdeithasu
â'u cymrodyr, dysgu oddi wrth ei gilydd,
a chadw gwŷr cyfarwydd Aberystwyth a
Bangor ar flaenau eu traed yn gwneud
arbrofion iddynt er mwyn sicrhau bod y
pridd a'r hadau a'r bridiau yn ateb y
diben a gofalu, er mwyn i'r gwaith dalu,
nad â na Gwyddel na Daniad nac unrhyw
gystadleuydd arall ar y blaen iddynt
ynglŷn â marchnata'n gall a synhwyrol.
Sinemau Sul.
Y MAE llawer o bobl fel pe baent yn
tybio bod y Mesur Perfformiadau Sul
yn gwneud rhyw gam mawr â Chymru.
Amcan y Mesur ydyw gadael i bob rhan
o'r wlad ganiatáu neu wrthod caniatáu agor
sinemâu ar y Sul. Os pesir y Mesur, gan
gynghorau sir a chynghorau tref Cymru y
bydd yr hawl i benderfynu pa un a gaiff
pobl y sir neu'r dref weld darluniau byw ar
y Sul ai peidio.
Yn lle bod Cymru'n gorfod gwneud fel y
gwna Lloegr, dyma ni'n cael y cyfle i ben-
derfynu drosom ein hunain. Dyma'r cyf-
rifoldeb a'r dewis yn cael ei osod arnom ni.
Eto i gyd, y mae rhai yn ei wrthwynebu
am resymau cenedlaethol.
Tybed nad ydym-ni'n rhy barod i achwyn
cyn ein bod wedi hanner deall yr hyn y
cwynwn o'i blegid?
Safbwynt crefyddwyr.
/ND y mae safbwynt y crefyddwyr
tuag at y Mesur yn fwy rhesymol.
Fel hyn y mynegwyd ef gan Mr. D.
Caradog Evans (Pwllheli):
Y mae'r cwestiwn ynglŷn â'r Mesur
hwn yn mynd o dan wraidd y dydd mwyaf
cysegredig a feddwn, ac yn bygwth mynd
â'r canllawiau yr ymladdodd ein tadau
gymaint er eu mwyn."
Gellir deall safbwynt Mr. Evans. Y mae
ef yn dymuno cadw deddf sy'n gwarchod
y Sabbath, gan fod yn well ganddo sicrwydd
y ddeddf nag ansicrwydd beth a ddewisai
Cymru drosti ei hun.
Ond fe ddywedodd un gweinidog:
Os na ellir llenwi fy eglwys trwy ryw
ffordd heblaw am nad oes gan y bobl unlle
arall i fynd iddo, y mae'n well gennyf fod
hebddynt."
Dyna ddangos ffydd yng nghrefydd a'i
hapêl.
Pe'n gadewid ni allan.
PE gadewid Cymru o'r Mesur newydd,
ym mha le y byddem?
Dan awdurdod deddf a basiwyd gan
Senedd Prydain yn 1780, pan oedd y wlad
yn hollol wahanol i'r hyn ydyw heddiw, a
chyn bod sôn am sinemâu. Pwrpas deddf
1780 oedd ceisio lladd Ymneilltuaeth.
Yr oedd peidio â mynychu addoldy yr adeg
honno yn drosedd yn erbyn cyfraith gwlad.
Yr oedd anghydffurfwyr yn cyfarfod ar y Sul
i drafod pynciau crefyddol, a daliai Dr.
Porteus, Esgob Caer. fod syniadau gwrth-
grefyddol neu anuniongred yn cael eu
mynegi yn y cyfarfodydd hvnny. Heb
drafodaeth o gwbl, fe basiwyd deddf 1780
i atal cyfarfodydd anghydffurfwyr oedd yn
rhy dlawd i godi capeli ac eglwysi eu
hunain.
Yr oedd y ddeddf honno hefyd yn amcanu
atal tai anfoesol-arwydd o'r modd vr
edrychai Senedd 1780 ar Anghydffurfwyr.
Dyma'r ddeddf sy'n annwyl gan Gymru
yn 1931.
Cyfwng Ewrob.
Y MAE'N gyfwng peryglus ar Ewrob.
Ceir arwyddion da. megis symudiad
Awstria a'r Almaen i wneud cytundeb
masnach, ac arwyddion drwg. megis ysbryd
cas Ffrainc.
Y mae holl areithiau diweddar y Ffranc-
wyr yn llawn pendantrwydd, gerwinder, ac
anhaelioni. Gan fod yr Almaen wedi ei
darostwng (dyna'r gri) rhaid ei chadw dan
draed, a dwyn ar gof iddi, mewn cyngor a
thrwy arfau, ei bod hi'n orchfygedig.
Clywir adlais o'r syniadau hyn yn Czecho-
blovakia, gan y Dr. Benesh/wrth sôn am
Awstria. Y mae'r Eidal hefyd, er nad ydyw
hi ddim yn cydnabod unrhyw arweiniad
meddyliol o'r tu allan, yn sylwi ar y ffasiwn
ac yn dilyn esiampl Ffrainc trwy basio
deddfau i ganiatáu byddino ei holl bobl os
daw rhyfel. Dylanwad Ffrainc hefyd sydd
wedi rhwystro'r ymgais i wneud cytundeb
masnach rhwng yr Almaen â Rwmania.
Dyma arwyddion sy'n bygwth dinistr Cyn-
hadledd Ddiarfogi y flwyddyn nesaf.
Yn yr Almaen y mae'. ysb^ '"п ar y
cyfandir heddiw, a Ffrainc sy'n''llochesu•
galluoedd y tywyllwch.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.