Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIN GoBAITH — y lu/aw Gelfydd. Dywed Mr. Eames, syn awdurdod ar waith a golud, fod Cymrun nesu at adeg pan fydd yn rhaid iddi dynnu ar ei holl adnoddau i gadw ei chorff a'i henaid ynghyd. ÎMeibion a merched y dwylo celfydd ydyw'n gobaith, meddai. A oes borthor? ebr Culwch. Oes, ac oni ddistewi nid eiddot fydd dy ben." Agor y porth! Nac agoraf! Pwy ystyr nas agori diì Y mae'r gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn y neuadd, ac ni faidd neb sangu llys Arthur oni bydd frenin gwlad freint- iedig, neu gelfyddydwr a ddyco gelf." HYNYNA o'r hen Fabinogi; ac ar y darn ymadrodd olaf oll y dymunwn-i bwysleisio. Nid ysgolor, fe welir, na bardd, nac offeiriad, sy'n cael ei osod yn gydradd â brenin yng ngŵydd Arthur, ond y gŵr a ddyco gelf." A rhag bod unrhyw dybiaeth fod a wnelo'r geiriau rywbeth â'r celfau cain a delfrydau prydferthwch a phethau felly, y mae'r un stori yn sôn ymhellach ymlaen am borthor Gwrnach Gawr yn gomedd agor i farchogion Arthur ar gyffelyb awr am gyffelyb reswm. A Chai yn unig sy'n cael mynd i mewn, a hynny am fod celf ganddo, sef gloywi cleddyfau, ac y mae darlun perffaith o'r crefftwr wrth ei waith yn y disgrifiad sy'n dilyn: Cymerth Cai ei galen hogi las oddi tan ei gesail a gofynnodd, Pa un orau gennyt ai caboliad glas ynteu gwyn? Marchog oedd Cai, ond yn rhinwedd ei ddeheurwydd gyda'r galen hogi yn unig y cafodd ef fynediad i'r llys. Ei wthio i lawr. Dyna dystiolaeth go lew o fyd rhamant i'r urddas a'r gwerth a roddid ar fedr llaw yn yr hen amser. Fe'i hategir yn ddiamwys hefyd o fyd mater-o-ffaith. Onid yn neddfau Hywel Dda y gosodir i'r gôf ei Ie anrhydeddus wrth fwrdd y brenin? Efallai y buasai gwell graen arnom fel cenedl pe bai rhai o'r hen safonau wedi sefyll. Yn nhreigl y canrifoedd fe wthiwyd y gwyr celf yn raddol is gan y gwŷr cad a'r gwyr llên, y gwŷr eglwys a'r gwyr senedd. Nid wyf heb ofni na bu'r traddodiad llen- yddol yr ydym mor falch ohono, ac er godidoced ei wasanaeth i ddiwylliant Cymru, yn foddion anuniongyrchol i roddi dibristod ar waith llaw a pheri crebachu a nychu un ochr anhepgor i lawn-dyfiant cenedl. Cywilyddio. Onid yw bywyd aml i grefftwr da, gŵr a'i ddiwylliant yn ei ddwylo, yn ddeuddarn di- gyswllt aneffeithiol heddiw oherwydd y traddodiad hwn? GAN 1 W. EAMES Gorseddwyd y bardd a'r ysgolor, yr areithiwr a'r cerddor mor gyson ger ei fron nes peri iddo ef ei hun fynd i deimlo nad oes fawr gamp ar ei feistrolaeth ar grefft neu gelfyddyd. O'r braidd nad aeth i gywilyddio yn hytrach nag i ymfalchïo yn ei fedr. Wedi cadw noswyl ac ymolchi a rhoddi ei siwt second-best bondigrybwyll amdano y cyfyd ef o gwbl i'r lefel o hunan- barch ac o fwynhad bywyd a ddylai fod yn feddiant iddo ar hyd y dydd ac yn symbyl- iad i'w alluoedd naturiol er lles ei oes a'i genedl. Nesu at gyfwng. I'm bryd i, fe gollwyd llawer o gynysg- aeth y genedl trwy hyn, ac y mae'n bryd gwneud rhywbeth tuag at adferyd tipyn o'r hen gydbwysedd, a mynnu peth o'i fraint gyntefig yn ôl i'r gŵr a ddyco gelf-er mwyn Cymru. (ĵ BLITH bechgyn y bysedd celfydd a'r Uygaid craff y daw'r rhai y mae eu hangen yng Nghymru heddiw i droi'r glo yn olew a'r dwr yn drydan, i dynnu maeth o'r gwynt, ac i wneud i'r tir ddwyn ffrwyth ar ei ganfed. Ofnaf ein bod yn dynesu at gyfwng pryd y bydd eisiau tynnu'n helaeth ar holl ad- noddau'r genedl i gadw ei chorff a'i henaid ynghyd, ac y bydd y diwylliant a ddaw o lyfrau, er cystal gwasanaeth hwnnw ers dros gan mlynedd bellach, yn annigonol ynddo ei hunan ddiwrnod y gwasgu. Tu hwnt i allu dyn. Mae llinell ffin i ddeall dyn. Onid un o wyddonwyr pennaf Prydain a ddywedodd yn ddiweddar bod y greadigaeth mor an- esboniadwy fel nad oes ddichon i ddyn ei hamgyffred ? Ni synnwn-i ddim nad cyffelyb fydd y casgliad yn bur fuan ynglŷn â phroblemau economeg. Mae'r dryswch fe pe'n mynd y tu hwnt i allu meddwl dyn i'w ddatrys, heb sôn, am ei setlo. 'Wn i ddim nad tragedi fwyaf y cyfnod gwedi'r rhyfel fu'r chwalu di-dostur gan ffaith a digwydd ar gorff y ddysgeidiaeth ynglŷn â pherthnasau arian a masnach a diwydiant. Erbyn hyn y mae'n gamp cael hyd yn oed ddau economydd i gytuno ar nac achos nag effaith. Pe na buasai dim gwaeth yn y peth nag ymrafael dysgawdwyr, wrth gwrs, ni fuasai angen poeni rhyw lawer; ond, yn anffodus, y mae a wnelo asgwrn y gynnen â bywol- iaeth pob un ohonom. A'r ffaith fwyaf amlwg ydyw nad yw'r wybodaeth lwyraf o ddeddfau economeg fel pe'n mynd i'n cyn- orthwyo o gwbl i ganfod sut yr ydym i gael y ddeupen ynghyd yn y dyfodol agos. Ein hadnoddau. Edrycher ar y safle yng Nghymru heddiw. Mae'n debyg y dengys y Cyfrifiad fod yma fwy o bobl nag erioed, a'r cwbl eisiau eu cadw. Fe ddeil corff yr amaethwyr nas gellir mwy o'r tir. Lleihau y mae'r galw am gyfoeth ein cloddfeydd o bob math. Y mae lIe i ofni bod cysylltiad cyfoethog Môn a Gwynedd â Lancashire wedi gweled ei ddyddiau gorau. Mi wn i rywbeth am y fasnach gotwm, a mentraf ddweud na welir am yrhawg, os byth, ddim byd tebyg i'r ffortiynau a fu'n foddion i sefydlu ac i gadw trefi'r glannau yng Ngogledd Cymru ac i sicrhau marchnad gig mor broffitiol i fferm- wyr Môn a Dinbych. Heb ddim amheuaeth, tueddu i edwino y mae ein hadnoddau. A phurion cofio na phery cronfa budd y di-waith hyd byth, ac nad oes groeso heddiw i ymfudwyr yn unlle yn y byd, o'r bron, os na bydd moddion cynhaliaeth ganddynt. Y bysedd medrus. Nid wyf am ddweud mai dyma gyfle gwyr celf i achub eu gwlad. Pe buasent wedi dal i fwynhau'r fraint ac ennill yr urddas oedd yn eiddo iddynt yn llys Arthur, efallai y buasai adnoddau daear a deall y genedl wedi cael eu datblygu'n fwy darbodus. Nid felly y bu. Eithr nid yw hi'n rhy hwyr i roddi gogwydd newydd i ddelfrydau dysg a diwylliant, rhywbeth a bair i'r bechgyn-a'r merched-sydd â bysedd medrus celfgar ganddynt deimlo eu bod hwythau'n etifeddion yr athrylith Gym- reig, serch na fedrant lenydda na chanu. Y gorau yn y byd." Y mae agwedd ymarferol yn ogystal â diwylliadol i'r syniad. Hoff air yn y Mabinogion ydyw fod y peth-a'r-peth yn orau yn y byd." Pe'i gwneid yn nôd cenedlaethol bod popeth Cymreig-boed yn gynnyrch ffarm, neu ffatri, neu gloddfa, neu hyd yn oed yn bryd bwyd mewn tŷ ymwelwyr-i haeddu'r enw o fod y gorau yn y byd," mi ddyblai ein moddion cynhaliaeth rhag blaen; ac fe dreblid mwyniant bywyd, oherwydd y gwerth newydd ar fedrusrwydd, i filoedd sydd ar hyn o bryd yn brin eu parch oher- wydd mai gweithio â'u dwylo y maent. [Parhàd „;• dudaîcn 13.