Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W. S. GWYNN WILLIAMS yn gofyn Pwy a gyfyd Ytwstp Cymru o'r Gors? PE bod byd llenyddiaeth Cymru heddiw yn llawn bywyd ac egni a brwd- frydedd, rhyw ddiffrwythder gwyw sydd ym myd ein cerddoriaeth. Y mae ein hawduron llenyddol yn wastad wrthi'n cynhyrchu llyfrau, ond ychydig, o gymharu, o gyfansoddiadau cerddorion heddiw sydd wedi gweld golau dydd, ac, a barnu wrth werthiant y rhain, nid oes ar y mwyafrif o Gymry ddim eisiau rhagor. Nid fel hyn yr oedd pethau ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, a pha beth bynnag oedd diffygion Joseph Parry, William Davies, R. S. Hughes, Owain Alaw a'r lleill, yr oeddynt yn medru ysgrifennu cerddoriaeth a gâi groeso ac a genid gan eu cyd-wladwyr. 1794 a 1931. Y mae'n debyg, hefyd, fod Edward Jones yn 1794 yn deall hanes cerddoriaeth Cymru yn llawn cystal ag y deallwyd ef gan neb ar ei ôl hyd y dydd heddiw. Tybed faint o anghysur y mae'r ffaith yma yn ei roddi i'n haddysgwyr cerddorol yn 1931? Gellir dadlau, wrth gwrs, nad oes dim cyhoedd yn awr i brynu cerddoriaeth neu sylwadaeth gerddorol Gymreig. Ond y mae'n amlwg fod bron bawb sy'n prynu'r FoRD GRON yn croesawu gwybodaeth am faterion cerddorol-gwybodaeth wedi ei gosod gerbron yn y ffordd iawn-ac mi synnwn pe na bai darllenwyr y cylchgrawn hwn yn croesawu hefyd ddernyn cerddor- iaeth, hen neu newydd, ambell dro. Y mae gwybodaeth am gerddoriaeth ei wlad yn wir anghenraid addysgol i bob Cymro. Camgymeriad ydyw tybio nad yw unrhyw beth ynglŷn â cherddoriaeth Cymru yn haeddu sylw; rhy hir y caniatawyd pregethu'r athrawiaeth hon. Diffyg Ysgol Gerddoriaeth. Beth yw'r drwg? Y mae'n bosibl nad yw cyfryngau cyhoeddi a pherfformio ein hoes ni yn ymddiddori digon yng ngherddoriaeth Cymru. Hyd yn ddiweddar, ychydig oedd nifer y recordiau-gramoffôn Cymreig da. Nid ydyw'r B.B.C. eto wedi deffro digon i ddeall anghenion cerddorol Cymru, ae o ganlyniad mater siawns yn hollol ydyw lledaenu cerddoriaeth Gymreig. Y mae diffyg Gorsaf Radio i Gymru gyfan yn enghraifft gywilyddus o aflerwch, a cherdd- oriaeth Cymru sy'n talu ddrutaf am hyn. Eto, rhaid bod ein cerddoriaeth, a phethau fel y maent heddiw, yn dioddef o ddiffyg Gonservatoire neu Ysgol Gerddor- iaeth iawn. Gall fod adrannau cerddoriaeth colegau'r Brifysgol yn gwneud gwaith ardderchog i gerddoriaeth yng Nghymru, ond nid ydynt, yn bendant, yn rhoddi sylw arbennig i gerddoriaeth Gymreig fel y gwnaeth ac y gwna Ysgolion Cerdd cenedl- aethol mewn gwledydd eraill. Efallai mai lIe anghyfaddas ydyw coleg prifysgol i ddysgu gwir gelfyddyd miwsig ynddo. Sut Mr. W. S. Gwynn Wüliams. bynnag, y mae Lloegr wedi gweld bod rhaid iddi wrth ei Royal Academy of Music, ei Royal College of Music, ei Trinity College of Music, a'r lleill, yn ogystal ag adrannau cerdd ei phrifysgolion. Nid yw'r ysgolion dyddiol yng Nghymru, at ei gilydd, yn gwneud dim tebyg i'r gwaith a wnaed unwaith dros gerddoriaeth Cymru gan yr ysgolion Sul a'r dosbarthiadau cerddoriaeth ynglyn â'r capeli. Y mae pob arweinydd côr y dyddiau hyn yn cwyno ei bod yn anodd cael pobl ieuainc sy'n medru darllen na sol-ffa na hen nodiant. Nid fel hyn yr oedd pethau yn y ganrif ddiwethaf, 'OEDD 1930 YN FWY TIRION NA I 8 3 O ? SIOMEDIG fu'r flwyddyn 1930 i'r amaeth- wyr, a di-fudd i'r gweithwyr mewn llawer diwydiant. Tybed, meddwn, a fu hi'n dywyllach erioed na heddiw ? I chwilio am gysur, fe droais at hen lyfryn melynllwyd, a gefais yn fenthyg gan gyfaill y dydd o'r blaen. Dyddiadur am y flwyddyn 1830 ydyw; a phrin y medrwn ddarllen ar ei glawr mai enw ei berchen gynt oedd Dafydd Siencyn, o Lyn Meherin,-hen ffermwr o Lanwenog, Ceredigion. O dan bob dyddiad, ymron, y tywydd a gaiff y lle blaenaf ynddo, ac nid oes yma nemawr ddiwrnod nas nodir â'r gair, Gwlyb," neu â'r frawddeg, Bwrw peth glaw." Yma a thraw ar hyd-ddo fe sonnir llawer am y prisiau, ac mewn gofod rhwng misoedd Gorffennaf ac Awst fe geir ohonynt y daflen gryno a ganlyn Buwch gyffredin, £ 1 10 anner gyflo, deirblwydd, £ 3 10 anner ddwyflwydd, £ 2 10 blwyddiaid, £ 1 10 llo bach, £ 1 dafad (hen), 7/6 ceffyl da, at waith, £ 10 10 ebol, £ 2 ymenyn, 6c. neu 7c." pan arholai'r Tonic Sol-fa College gannoedd o ymgeiswyr bob blwyddyn ynglÿn â'r Cymanfaoedd Canu a'r Gobeithluoedd. Alltud ydyw cerddoriaeth yng nghanol yr holl bynciau a ddysgir yn y mwyafrif o ysgolion Cymru. Y bobl a'r sol-fla. Y mae'n wir fod gennym-ni heddiw athrawon hyfedr i gantorion ac i ddysgu canu'r piano a'r organ a'r feiol, ond y mae'r un mor wir nad ydym ni ddim yn magu'r werin gerddgar a fegid am y nesaf peth i ddim traul ariannol yn nyddiau'n tadau. Ac nid wyf yn siwr na fyddai dyfodol cerdd- oriaeth Cymru'n ddiogelach yn nwylo'r werin gerddgar yna, a allai o leiaf ganu o'r sol-ffa, nag yn nwylo'r rhai y sonnir am- danynt heddiw fel caredigion diwylliedig cerdd-pobl na fedrant fel rheol ganu nac â'r llais nac ar offeryn. Cyfle'r cerddor heddiw. Y mae gan gerddor o Gymro heddiw, telly, gyfle da i wasanaethu ac i achub dyfodol cerddorol ei wlad. Pwy ydyw'r cyfansoddwr sydd am ysgrif- ennu'r gerddoriaeth a ddylai fod yn angen- rheidiol i ysgolion Cymru ? Pwy sy 'n mynd i ysgrifennu ar gyfer y gerddorfa Gymreig sy'n prysur-dyfu? Pwy fydd cyfansoddwr caneuon poblogaidd 1941? Pwy a ysgrif- enna hanes cerddoriaeth Cymru? Pwy fydd yr ysgrifennwr poblogaidd ar bynciau cerddorol Cymreig yr ysgrifennwr y mae cymaint o angen amdano? Pwy ydyw'r cantorion a'r offerynwyr Cymreig sy'n mynd i ganu cyfansoddiadau gorau Cymru o un pen i'r byd i'r llall? A phwy-ïe, pwy ydyw'r rhai sydd am weithio ar unwaith i roddi cerddoriaeth Gymreig eto ar ei gorsedd yng ngŵydd y genedl ? Yr unig sôn a glywn yma am huriau ydyw'r nodiad a ganlyn ar Dachwedd 1 Cyflogais Wil, yn was mowr, am 5 punt a 5 swllt." Cyfateb oedd y tywydd yn hydref, 1830 trafferthus iawn oedd cynhaeafu'r yd; ac fel hyn y dywaid yr henwr mewn nodiad a wnaed ganddo un hwyrddydd Gwlyb iawn smwt-Iaw trwm trueni yw gweld y barlys heb ei rwymo wfft i'r ffwdan o hyd Ar derfyn y flwyddyn fe gawn ganddo gwyn fawr ymadawol fel hyn Dyma flwyddyn hynod o ofidus colled- ion a phrinder arian yr wyf yn meddwl mewn gwirionedd na fu gwaeth amser yng ngho dynion y dealer yn ffaelu talu am ddefaid ar ôl eu cael, ond yn eu hela'n ôl drachefn; fe drigodd, o bob sort, dros drigain ohonynt heblaw hynny, yr hen dai, yn Rhyd Las, a'r Perthi Bach, yn cwympo wfft i'r fath amser sydd i'm cwrdd 1 Er cynddrwg 1930, oni fu hi yn dirionach tuag atom nag y bu 1830 wrth ein teidiau ni CLEDLYN Dayies.