Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan WALDO WILLIAMS. FFRWYTH YMCHWIL. Waldo yn dweud ei hanes ef a'i gyd-ysgolhaig, Twm Pensticil, yn ymchwilio i darddiad a hanes y pennill limrig. DARLLENAIS frawddeg y diwrnod o'r blaen yng nghylchgrawn un o golegau Cymru a barodd imi anobeithio am ddyfodol fy ngwlad. Dyma hi. Edrychwch arni yn ei slic- rwydd a'i ffug-ddiniweidrwydd cythreulig: Edward Lear was the first to write the limerick. Pa hyd y goddefwn bethau fel hyn ? Ond efallai na wyr y werin, efallai na wyr neb eto ond fi a Twm Pensticil, nad yn Lloegr nac yn Iwerddon y cychwynnodd y Limerich ar ei yrfa ddaearol, ond mewn pentre bach tawel, digon dinod yng Nghymru o'r enw Treddeiniol Yr oedd unwaith fardd yn Nhreddeiniol, — Mewn cwrdd cystadleuol; [un cîn Awen a gaed yn ei gôl 0 nyddai'n gynganeddol. Ond o dipyn i beth aeth y bardd hwnnw dipyn yn esgeulus o fanion ei gelfyddyd (" technêg a phethau felly). Anghofiodd saernïaeth gywir a chwteurwydd cynnil yr englyn. Ni bu waeth ganddo roddi ambell sill yn ormod i mewn yma ac acw; ac yn ei ddiogi aeth yn dreth arno gael, lle y byddai synnwyr, gynghanedd hefyd. Nes o'r diwedd aethpwyd i ddweud amdano: Yr oedd unwaith fardd yn Nhreddeiniol, Un cin mewn cwrdd cystadleuol; (Yr) awen a gaed (0 hyd) yn ei gwaed 0 nyddai yn (rhy) gynganeddol. A dyna sut y daeth y limrig i fod. Enw gwawd ar y cyntaf ydoedd ei enw-yr englyn llymrig, neu, o'i gwtogi, y limrig. Diddorol, yntê? Canmol a dilorni. Ond gadewch inni fynd yn ôl gam ymhellach eto. Fel y gwyr pawb sy'n credu'r Athro W. J. Gruffydd, tarddiad yr englyn ydoedd yr hen gwpled elegeiog Lladin, a'r epigram Groeg oedd ei darddiad yntau, meddai'r doethion. Ac yr wyf i a Twm Pensticil yn cytuno â hwy. Ar gerrig beddau y ceid yr epigramau hyn ar y cyntaf, a choffáu dynion ymadawedig a wnaent. Ac onid coffáu dynion ymadaw- edig yw swydd y limrig yn ein hoes ni ? There WAS an old man of Japan Mor lletchwith y byddai pe dechreuai: There 1s an old man of Japan Yn wir, nid limrig a fyddai o gwbl. Nid oes a wnelo'r limrig, mwy na'r epigram gynt, â'r pethau y sydd ond â'r pethau a fu ac a ddarfu amdanynt. Pery'n ffyddlon ar hyd yr oesoedd i'r hen draddodiad clasurol. Ond gyda hyn o wahaniaeth. Canmol yr ymadawedig a wnâi'r epigram. Ei ddilorni, gan fwyaf, a wna'r limrig. And so the whirligig of Time brings his revenges. Dechrau gyda dagrau pethau." Gorffen gyda'r pethau digri. Motor-beic Ianto. Ni cheir gwell cyfie i weld yr epigram, yr englyn, a'r limrig bob un yn ei ysbryd a'i awyrgylch priod, na phan gymharer rhai a wnaethpwyd mewn amgylchiadau tebyg. Gwyr pawb, ysywaeth, am limrig adna- byddus Cennech: Cafodd Ianto fotor beic newy', Fe'i treiodd ar riw 'Ddewifrefi; Gwnaeth Ianto fistêc, Fe dorrodd y brêc. Mae'r angladd am ddeg bore 'fory. Yn awr, ceid maen coffa gynt ar ymyl y ffordd fawr rhwng Athen â Chorinth. Tros- wyd yr ysgrif oedd arno i'r Gymraeg yn ddiweddar, ac ond ichi chwilio trwy un o lyfrau Cyfres y Werin (Rhosynnau Gwynn- ion o Hen Ardd) fe gewch ei gweld: Ar wib a'r modur heibio, a'r lorri ail eryr yr heol; O am Ianto, mae yntau? Y bwlch a ddengys lle bu. A phwy na chofia hefyd yr englyn ar fedd llanc yng Nghymru: Carodd hi, carodd heol, — carodd feic, Carodd fyw'n symudol; Carodd rôd yn ormodol, Dyma'i lwc — dim lol. Gymaint â hynny am gysylltiad yr epigram â'r limrig. Rhannu'r ymchwil. A dyna, ar fyr eiriau, ffrwyth pymtheng mlynedd ar hugain o ymchwil ar fy rhan. Yn y fan hon, gwiw imi gydnabod fy nyled i'm hen gyfaill, Twm Pensticil, am ei gymorth parod bob nos, wedi amser cau. Dymuna Twm arnaf grybwyll yn gynnil ei fod yn ei roddi ei hun yn agored i dderbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru unrhyw bryd y gwelo hi'n dda i'w rhoddi. Nid wyf i am fy ngadael fy hun yn agored. Dim i'r fath raddau. Bydded y clod-neu'r anghlod-i gyd i'm cyfaill mwyn o Bensticil (rhag ofn y try ffrwyth pymtheng mlynedd ar hugain o ymchwil yn hedyn naw mis o lafur caled). Dyma fel y rhannwyd maes yr ymchwil rhyngom. Triniais i 'r limrig yn ei gysyllt- iad â'r englyn, a thriniodd Twm ef yn ei berthynas ag enwau lleoedd yng Nghymru. Yn y carchar. Fy nghasgliad cyntaf ydoedd mai yn y carchar y cychwynnodd y ffurf hwn o bryd- yddiaeth, fel llawer o bethau eraill sydd a'u tuedd at godi'r byd yn uwch. Canodd Dewi Havesb, fel y cofiwch, yn y gell: Mae hiraeth am gig myharen-ynwyf; 0 na chawn yn f' angen Ryw damaid bach, bach o'i ben Unwaith eto, a thaten. Hawdd dychmygu iddo, yn nwyster ei deimlad, wneuthur yr un peth â'r saint yn yr oedfäon eneiniedig, sef dyblu'r gân. Ac fel hyn y canodd wedyn: Mae hiraeth am gig y myharen Ynwyf. Na chawn yn fy angen Damaid bach, bach o'i ben Damaid bach, bach o'i ben Unwaith eto, a thaten. A thrwy hynny esgorwyd ar y limrig, a chondemniwyd y byd. Limrig y seiat. Felly y credwn hyd nes imi glywed adrodd limrig arall, y tro hwn mewn Beiat. Yr oeddwn, wrth gwrs, yn hen gydnabyddus ag englyn Hiraethog i Jonah: Ym mawr fol y morftlyn-bu Iona Dan benyd, ŵr cyndyn; A challach, ystwythach dyn 0 beth ydoedd, byth wedyn. Fe'm synnwyd braidd pan glywais ei adrodd fel hyn, gan hen frawd o flaenor Ym mola mawr y morfilyn Bu Iona dan benyd, ŵr cyndyn; A challach dyn, Ac ystwythach dyn, 0 beth ydoedd, byth wedyn. Felly deuthum allan o'r carchar ac euthum i mewn i fola'r whâl am darddiad y pennill llymrig. Barn Twm. Ond ni chawn lonydd hyd yn oed yno, gan Twm. Mynnai ef yn ei bengemi olrhain y ffurf yn ôl at yr englyn, nid yn union- gyrchol ond trwy gyfrwng y pennill triban. Wrth gwrs," meddai, nid oes ddadl am gysylltiad yr englyn â'r mesur triban. Dyma driban, er enghraifft: Mae Ifan Lloyd y Cribyn Yn hoff o ffair Llansilyn; Mae ffair Lanwnnen lawer gwell Ond bod hi'n bell i'r asyn. A dyma'r englyn a roes gychwyn i'r pennill yna: Am wib, mae Lloyd y Cribyn-yn hoff iawn 0 hen ffair Llansilyn Ni allai fynd ymhellach. Tebyg mai ar yr asyn yr oedd y bai. Wedyn fe droes at y tri-thrawiad, ond y tro hwn methodd hyd yn oed â chroesi Pont Rhyd Fendigaid. Gwreiddyn y mater. Pan ddaethpwyd o hyd i'r englyn diryw- iedig i'r bardd o Dreddeiniol, gwaeddais: Ha, dyma wreiddyn y mater," a gorfu ar Twm roddi'r gorau imi. Tuedd naturiol y ffurf yw troi o'r englyn i'r limrig, ond byth ni cheir gwaith heb ad- waith, na thro heb wrthdro. A'r penillion mwyaf diddorol, am wn i, yw'r rhai a fu'n limrigau'n wreiddiol, ond a dröwyd yn englynion wedi iddynt dreiddio i berfedd- wlad Cymru, gan ddawn geidwadol y trigolion. Fel hyn y mae helynt y gŵr o Bencader yn adnabyddus i'r byd allanol: Hen ŵr yn ymyl Pencader A gysgai bob nos yn ei gader; Un noswaith cyn cysgu Fe yfodd beth whisgi- Gwnaeth botsh anghyffredin o'i bader. Ond mewn ambell ardal anghysbell yng Nghymru ceir yr englyn hwn ar gof a chadw hefyd: Ceid hen ŵr gynt ger Pencader.-Hunai Bron beunos 'n ei gader; WhÌBgi-peint, a chysgu pâr­ Wedi hen bwdin o bader. [Parhâd ar dudalen 10.