Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyliau ar Droed: Cadw Noswyl. R. CECIL HUGHES, Llanrwst. VM mhrysurdeb cynllunio'r daith a j. pharatoi at y cerdded rhaid peidio ag anghofio trefnu ar gyfer oriau gorffwys. Rhaid i bob cerddwr gael digon o gwsg, a hynny yn y nos­-nid yn y bore Ni welais ac ni chlywais eto am gerddwr iawn nad oedd ym falch o gael gorwedd ar ddiwedd taith diwrnod yn awyr bur ac iach y wlad. Daw cwsg yn gyflym os bydd dyn wedi trefnu'n ofalus ymlaen llaw ar gyfer ei gysur dros nos. Fe â i'w wely gyda diolch a chysgu cwsg di-freuddwyd y cyfiawn. Cysgu allan. Mewn amryw o'r gwledydd tramor y 'mae'n aml yn ddigon cynnes a sych i gysgu allan yn yr awyr agored, ond anaml iawn y ceir tywydd digon teg i wneuthur hyn yn ein gwlad ni, ac y mae'n rhaid felly wneud trefniadau pwrpasol. Fel yr awgrymais yn rhifyn Ionawr Y FoRD GRON, y mae'n debyg y bydd cyfle i amryw letya yn y gwestai sydd yn awr yn cael eu paratoi ar hyd a lled y wlad. Fe ddewisa eraill aros mewn hoteliau neu dai lodjin er mwyn cael gwely a bwyd yn ddi-drafferth (ond yn fwy drud, wrth gwrs). Cario tent. Cynllun arall sy'n dod yn fwy poblogaidd bob tymor ydyw cario tent a chysgu yn honno bob nos. Mae'n bosibl prynu tent dda ac ysgafn at gerdded: gellir cael un Chwilio yman amdani, Chwilio hwnt heb ei chael hi. -Goronwy Owen. MAEN gwerthfawr" ydoedd testun cŵyn ei golli gan y bardd du; ond pêl fach wen sydd, y misoedd haf hyn, yn rhoddi cymaint o waith chwilio amdani â dim arall dan haul unwaith y cyfeiliorna oddi ar y llwybr unionsyth. Anhygoel. Anhygoel weithiau ydyw'r cuddfannau ceinion y llecha pêl golff ynddynt hyd yn oed ar ganol y lawnt. Os bydd yno dusw o flodau ymenyn neu lygaid-y-dydd yn aros yn rhywle yn weuau trwy'i gilydd, bydd pêl golff yn sicr o dreiglo yn llechwraidd ar derfyn ei hynt i'w canol hwy i ymguddio; ac odid na bydd rhaideu sathru cyn dod o hyd iddi. fechan gyda lIe i un gysgu ynddi neu un fwy gyda lIe i ddau. Gwelais un dent werth £ 1/1/ a'r cwbl heb bwyso dim ond 5$lb. Ei maint yn agored oedd chwe throedfedd o hyd, pum troedfedd o led, a phedair troedfedd o uchder-ac wedi ei chau, 27 modfedd 0 hyd a phedwar modfedd o'i chwmpas. Ond cofier, os am gario tent, rhaid cario blancedi a chynfas rybar hefyd i'w dodi oddi tanodd yn y nos. Fel hyn, wrth gwrs, fe ychwanegir at y pwysau i'w gario ar y cefn, ond y mae llawer yn ffafrio'r dull yma, ac y mae iddo amryw fanteision. Bwyd. I dentio," fel hyn, yn drwyadl, fe ddylid paratoi'r prydiau bwyd hefyd-y brecwast a'r swper, beth bynnag (gellir prynu cinio ganol dydd, hwyrach, ar y ffordd) ond y mae hyn yn golygu cario'r bwyd a'r llestri at ei fwyta a'i goginio. Pan fydd dau neu dri yn teithio gyda'i gilydd gellir gwasgaru'r pwysau fel na bo unrhyw un yn cario gormod o faich. Os penderfynwch ar deithio gyda thent, fe ddylech, er cael pob eiliad o'ch gwyliau yn yr awyr-agored, drefnu'ch taith fel ag i gyrraedd y lle y mynnoch dreulio'r nos ynddo ryw awr neu fwy cyn machlud haul. Anaml iawn y gwna ffermwr wrthod cornel o dir i chwi godi tent am noson (ond hwyrach y bydd arno eisiau swllt neu ddau ) Diffodd y tan. Dewiswch eich llecyn gyda gofal; allan o olwg y ffordd, ar dir sych a gwastad ond nid mewn gormod o bant, ac nid o dan goed. Golff: TYMOR COLLI PELI. Fe edy dyn bêl (oni bydd hi'n bêl newydd sbon o'r papur) os gwêl hi yn disgyn draw ymhell ar ei phen i ganol môr o eithin neu for-hesg tew; ond, bid sicr, fe gymer ei bum munud helaeth i chwilio hyd yn oed am hen beth ac yntau'n gwybod yn bendant ei bod ar ganol y fferwe. Dau wy, a Yr haf diwethaf fe gollodd un ei bêl mewn gwrych o ddrain wrth chwarae'r twll cyntaf ym Morfa Bychan. Ac wedi chwilio a chwalu am ysbaid ym môn y gwrych heb ei chael, o godi ei olygon i fyny fe welai nyth yng nghanol y gwrych uwch ei ^en. Gwth- iodd yntau ei law trwy y brigau pigog i weld a oedd yno wyau, ac yno yr oedd dau wy mwyalchen, a Dunlop newydd sbon! Anhygoel, ond mi a'i gwelais â'm llygaid fy hun. A dywedai un hen wag, a gollai lawer o beli, y carai gael cyw o'r nyth hwnnw. Uawenydd byw. Os gellwch, rhoddwch gysgod coed neu graig neu ysgubor rhyngoch â'r gwynt. Wyneb- wch ddrws y tent oddi wrth gyfeiriad arferol y glaw (y de-orllewin). Lle y mae dau neu dri gyda'i gilydd, gall un godi'r dent tra bydd un arall yn gwneud lle i dân ac yn ei gynnau, a'r trydydd yn ceisio dŵr glân (at yfed ac ymolchi) ac yn [Parhâd ar dudalen 23. Gan J. E. WILLIAMS, Yagrifennydd Cliẅ Ghlff Borthmadog a Phorthygest. Tan arno fo, bois! Dro arall, flynyddoedd yn ôl, fe chwaraeai four-ball bur ddoniol, ac yn eu mysg y diweddar Mr. Tom Roberts, athro Lladin gynt yng Ngrôf Pârc (sydd heddiw yn naear Picardy-heddwch i'w lwch). Chwarae yr oeddynt i lawr o ben Ynys Cyngor tros yr anialwch o for-hesg mwyaf enbyd hyd at bennau eu gliniau. Topiodd un ohonynt ei bêl oddi ar y tî i'w ganol. Rhoi'r bagiau i lawr, a dechrau chwilio a chwalu a chwyldroi a chwyno; troi a throsi, ac ail-chwilio, ail-chwalu, chwyldroi, ac ail- gwyno. Pêl yr hen Ddefi ydoedd hi, ac nid oedd dim gwiw ei cholli ac yntau newydd ei phaentio hi!-Nid oedd dim sens bod y fath for-hesg yn tyfu yn y fath Ie-. Tân arno fo i g boisI meddai o'r diwedd, ac felly y bu. Rhoddwyd matsen ynddo o bedwar cwr, ac mewn llai nag a gymer i sgrifennu am- dano yr oedd y fan yn un goelcerth eirias. [Parhdd ar dudalen 21.